Cyflwyniad Ymgyrch Profiadau Cyfnod Clo COVID-19

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Rydym yn hapus iawn i gael rhannu ein Hymgyrch Profiadau Cyfnod Clo COVID-19 gyda phawb. Bwriad yr ymgyrch oedd amlygu profiadau, meddyliau a theimladau pobl ifanc Caerdydd yn ystod yr amryw gyfnod clo oherwydd y pandemig. Gellir darganfod gwybodaeth am yr arolwg a’r ymgyrch yn y blog yma.

Manylion yr arolwg

Aethom ati i greu arolwg i gasglu data gan bobl ifanc 11-25 oed sydd yn byw yng Nghaerdydd. Roedd tri chwestiwn yn yr arolwg oedd yn gofyn am ymateb manwl i brofiadau, meddyliau a theimladau pobl ifanc yn y cyfnod clo.

I gasglu’r ymatebion, cafodd arolwg ei greu gyda thri chwestiwn. Dyma’r cwestiynau:

3 Cwestiwn

C1. Beth yw’r peth pwysicaf rwyt ti wedi dysgu am dy hun yn ystod y cyfnod clo?

C2. Beth yw’r peth sydd wedi aros yn y cof fwyaf yn ystod y cyfnod clo (doniol, gofidus, syndod, gwylltio)? Beth ddigwyddodd? Sut oedd hynny’n gwneud i ti deimlo?

C3. Eglura pa bethau rwyt ti’n ei golli fwyaf o dy fywyd cyn COVID-19. Sut wyt ti am sicrhau nad wyt ti’n cymryd y rhain yn ganiataol yn y dyfodol?

Ar ôl rhannu’r ddolen a’r manylion am yr holiadur mewn erthygl, ar gyfryngau cymdeithasol a gyda hysbysebu, cafwyd 24 o ymatebion.

Beth ddigwyddodd i’r data?

Ar ôl cyflwyno’r ymatebion, cytunodd y cyfranwyr bydda’r data yma yn cael ei ddefnyddio i greu erthyglau a graffeg ar gyfer TheSprout. Bydd yr ymgyrch pythefnos o hyd yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau’r bobl ifanc yma yn ystod y cyfnodau clo

Roedd opsiwn ar yr holiadur i gadw’r data yn ddienw. Rydym wedi rhoi enw arall i’r unigolion sydd wedi dymuno aros yn anhysbys.

Beth gallaf ei ddisgwyl yn ystod yr ymgyrch yma?

Yn ystod yr ymgyrch pythefnos yma, cadwa olwg ar TheSprout.co.uk am erthyglau newydd yn ddyddiol. Dyma allet ti ei ddisgwyl gweld:

Y ffordd orau i weld pan fydd yr erthyglau newydd wedi’u cyhoeddi yw dilyn TheSprout ar gyfryngau cymdeithasol:

Twitter: @feedthesprout

Instagram: @feedthesprout

Facebook: @FeedTheSprout

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd