Stori Lillian

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o straeon yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau go iawn gan bobl ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo. I weld straeon eraill, clicia yma.

C1. Beth yw’r peth pwysicaf rwyt ti wedi dysgu am dy hun yn ystod y cyfnod clo?

Rwy’n hapus gyda chwmni fy hun ac wedi mwynhau cael amser yn yr ardd, sydd erioed wedi edrych mor dda yn fy marn i. Rwyf wedi cael amser i fynd am dro, gwylio a gwrando ar yr adar yn canu, gallwn glywed cnocell y coed ar waelod yr ardd. Rwyf wedi ymlacio lot.

C2. Beth yw’r peth sydd wedi aros yn y cof fwyaf yn ystod y cyfnod clo?

Gallu gweithio yn yr ardd yn y cyfnod clo cyntaf gan nad wyf wedi bod mewn iechyd da. Dim ond pan oeddwn yn teimlo fel y gallwn ymdopi yr oeddwn i’n gweithio. Dim ond am gyfnodau bach gallwn weithio, ond roeddwn yn gallu tyfu planhigion o hadau, rhywbeth nad oeddwn wedi gallu gwneud o’r blaen.

C3. Eglura pa bethau rwyt ti’n ei golli fwyaf o dy fywyd cyn COVID-19. Sut wyt ti am sicrhau nad wyt ti’n cymryd y rhain yn ganiataol yn y dyfodol?

Roeddwn yn colli fy ffrindiau, ond roeddem yn cynnal galwadau fideo, sgyrsiau a chwisiau, ac mae’n rhaid cyfaddef fy mod i wedi mwynhau’r rhain yn fawr iawn. Gallwn barhau gyda fy nosbarthiadau Tai Chi, rhywbeth oedd yn fuddiol iawn. Rwy’n colli mynd allan i’r siopau am gynhwysion penodol i goginio. Nid wyf yn colli’r torfeydd. Dyma’r tro cyntaf ers blynyddoedd hefyd i mi beidio cael annwyd neu deimlo’n wael, sydd yn debygol o ddangos bod pobl yn cario germau yn gyffredinol, a gyda’r system imiwnedd gwan sydd gen i, rwyf wedi bod yn lwcus iawn mewn ffordd od.

Os oes unrhyw beth yn stori Lillian sydd wedi cael effaith arnat ti, siarada gyda Meic, llinell gymorth gyfrinachol i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Cysyllta yng Nghymraeg neu Saesneg – dy ddewis di! Maent yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gellir cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim i bawb.

Related
News

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd