Cynaliadwyedd yn y Senedd: Cadw Biliau ac Allyriadau CO2 yn Isel

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Efallai bod adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd yn dod â dadleuon a gwleidyddion i’r meddwl, ond y tu hwnt i fyd polisi, mae nodweddion cynaliadwy’r Senedd yn sylweddol iawn.

Mae’r Senedd wedi’i adeiladu gyda deunyddiau ecogyfeillgar mewn golwg. Ble’n bosib, defnyddiwyd deunyddiau wedi’u hailgylchu a deunyddiau carbon isel, gan leihau’r effaith amgylcheddol. Maent hyd yn oed wedi ymgorffori opsiynau gwydn a chynaliadwy sy’n defnyddio deunyddiau lleol, er esiampl llawr yr adeilad gyda 1000 tunnell o lechi Cymreig. Defnyddiwyd coed cedrwydd cochion gorllewin Canada fel dewis cyfrifol sy’n lleihau’r angen am driniaethau cemegol niweidiol gan fod y pren yn cynnwys olew hunan-gadw naturiol, sy’n golygu na fydd angen ei drin am o leiaf 100 mlynedd.

Mae nodweddion cynaliadwyedd yr adeilad hwn yn drawiadol iawn, ond i egluro’n syml, rhannwn gampau’r adeilad yn bedair prif adran: dŵr, goleuo, oeri a gwresogi:

Cloud with raindrops

Dŵr

Oeddet ti’n gwybod bod gan y Senedd do dur 6,000 metr sgwâr? Mae’r to hwn yn gweithredu fel inswleiddiwr naturiol, gan gadw’r adeilad yn oer yn yr haf ac yn gynnes yn y gaeaf. Mae dŵr glaw yn cael ei gasglu o’r to a’i storio mewn tanc mawr sy’n dal cymaint â 100,000 gwydraid o ddŵr. Gelwir hyn yn ‘ddŵr llwyd’, a ddefnyddir i fflysio toiledau a gweithgareddau cynnal a chadw. Mae’r dŵr yn cael ei storio mewn dau danc enfawr o dan yr adeilad a’i lanhau gan ddefnyddio golau uwchfioled.

Lightbulb

Goleuo

Roedd sicrhau golau naturiol a chael gwared ar fflworoleuadau yn bwysig iawn i’r penseiri a ddyluniodd y Senedd. Mae ffenestri wedi’u gosod yn strategol i helpu trochi’r adeilad gyda golau’r haul, gan greu awyrgylch gloyw ac awyrog sydd yn gallu hybu hwyliau da a chynhyrchiant – sydd o fudd i staff ac ymwelwyr.

Er bod angen rhai goleuadau, nid yw’r Senedd yn fodlon ar fylbiau hen ffasiwn. Mae eu system yn uwch-dechnoleg, gyda synwyryddion sy’n addasu disgleirdeb yn seiliedig ar olau naturiol. Diwrnod heulog? Mae’r goleuadau’n pylu’n awtomatig. Cymylog? Maent yn darparu ychydig o olau ychwanegol. Mae’n ffordd glyfar ac effeithlon o gadw’r gofod wedi’i oleuo’n dda heb wastraffu ynni.

Thermostat with snowflake

Oeri

Mae gan y Senedd nodwedd siâp twndis unigryw. Nid yno i edrych yn cŵl yn unig  mae hwn (er ei fod yn gwneud hynny hefyd). Mae ffenestr gron fawr ar ben y twndis yn y Siambr. Mae drych conigol yn adlewyrchu golau dydd y tu mewn. Yn y twndis, sydd yn sownd i ffrâm ddur, mae 89 o diwbiau alwminiwm adlewyrchol sy’n helpu i wneud hyn. Mae’r twndis hwn hefyd yn glyfar yn helpu i gylchredeg aer yn naturiol ledled yr adeilad. Yn yr haf, mae’n gweithredu fel simnai anferth, gan dynnu aer cynnes i fyny ac allan. Mae hyn yn golygu llai o ddibyniaeth ar aerdymheru sy’n defnyddio llawer iawn o ynni.

Thermostat with sunshine

Gwresogi

Mae’r adeilad yn cynnwys pwmp gwres o’r ddaear, sy’n defnyddio tymheredd y ddaear ar gyfer gwresogi ac oeri. Ar gyfer gwresogi ychwanegol yn y gaeaf, mae’r Senedd yn defnyddio boeler biomas. Mae hwn yn defnyddio tanwydd sydd bron yn sero carbon, sef pelenni pren wedi’u hailgylchu sy’n dod o goed o  ffynonellau cynaliadwy. Mae’n cadw allyriadau carbon deuocsid yr adeilad mor isel â phosib.

Eisiau ymweld?

Os wyt ti’n awyddus i fynd i’r afael â newid hinsawdd, cefnogi busnes lleol, neu bensaernïaeth, mae’n rhaid i ti ymweld â’r Senedd. Cer i edrych ar ein canllaw defnyddiol i’r Senedd am help i gynllunio dy daith nesaf yno.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd