Cofrestru i Bleidleisio: Cael Llais Yn Etholiadau’r Senedd

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Wyt ti’n cael pleidleisio yn Etholiadau’r Senedd ar y 6ed o Fai eleni? Os wyt ti’n 16+ rwyt ti’n cael, ac os wyt ti eisiau llais yn yr hyn sydd yn digwydd yna mae’n rhaid cofrestru i bleidleisio erbyn 19 Ebrill neu byddi di’n colli allan.

Pam pleidleisio?

Os nad wyt ti’n pleidleisio yna nid oes gen ti lais yn pwy fydd yn eistedd yn y Senedd yn gwneud penderfyniadau am dy fywyd. Efallai dy fod di’n meddwl na fydd dy un bleidlais di yn gwneud gwahaniaeth, ond mae’n fwy pwysig nag yr wyt ti’n sylweddoli. Hyd yn oed os wyt ti’n mynd i’r orsaf bleidleisio i ddifetha dy bleidlais, mae parhau i fod yn gyfle i ddweud wrthynt fod teimladau pobl ifanc yn bwysig.

Mae caniatáu i rai 16 ac 17 oed i bleidleisio eleni yn golygu bod posib cael dros 100,000 o bleidleisiau newydd. Os byddai llawer iawn yn yr ystod oedran yma yn penderfynu peidio pleidleisio, yna mae hynny’n llawer iawn o bleidleisiau fydd ddim yn cael eu cyfrif. Ni fydd dy genhedlaeth di yn cael ei gynrychioli.

Hyd yn oed pan nad oes neb rwyt ti’n dymuno rhoi dy bleidlais iddynt mae papurau sydd yn cael eu difetha yn cael eu cyfri a’u cyhoeddi hefyd. Mae hyn yn gyfle i ddweud wrthynt nad wyt ti’n cael dy gynrychioli ac nid wyt ti’n hapus gyda’r dewisiadau sydd ar gael i ti. Efallai bydd hyn yn gwneud iddynt newid eu polisïau yn y dyfodol. Os wyt ti’n dewis aros adref mi fyddant yn cymryd yn ganiataol nad oes gen ti ddiddordeb.

Am beth ydw i’n pleidleisio?

Bydd gen ti ddwy bleidlais, un ar gyfer y person lleol rwyt ti eisiau dy gynrychioli di yn y Senedd (aelod etholaeth) a’r llall am blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol (aelod rhanbarthol)

Mae’r Senedd yn llunio cyfreithiau ac yn gosod trethi yng Nghymru ac yn goruchwylio gwaith Llywodraeth Cymru. Golygai hyn eu bod yn gwirio i sicrhau eu bod yn gwneud pethau’n gywir ac yn gwario arian yn iawn.

Mae’r Senedd yn cynnwys 60 o aelodau sydd yn cael eu hethol gan gyhoedd Cymru. Pum aelod yn cynrychioli ti a dy ardal am y pum mlynedd nesaf – un ar gyfer dy ardal leol a’r pedwar arall am y rhanbarth rwyt ti’n byw ynddi.

Mae Llywodraeth Cymru yn cael ei greu o’r blaid neu bleidiau sydd â’r mwyafrif o seddi yn y Senedd, wedi’i arwain gan Brif Weinidog Cymru (arweinydd y blaid gyda’r mwyafrif o seddi). Mae’r Prif Weinidog yn dewis gweinidogion a dirprwy weinidogion o’r Senedd i greu Llywodraeth Cymru.

Gwylia’r fideo yma i weld pwerau’r Senedd:

Sut i gofrestru

Os wyt ti eisiau pleidleisio yn etholiadau’r Senedd, bydd agen cofrestru i bleidleisio cyn 11:59yh, dydd Llun, 19 Ebrill. Os nad wyt ti, yna ni fyddi di’n cael pleidlais.

Mae posib cofrestru ar-lein mewn ychydig funudau. Bydd angen dy Rif Yswiriant Gwladol, ond paid poeni os nad wyt ti wedi cael un eto, mae posib cofrestru o hyd. Cofrestra yma. Os byddai’n well gen ti gwblhau’r ffurflen ar bapur yn hytrach nag ar-lein, yna bydd angen argraffu’r ffurflen yma a’i yrru i’r Swyddfa Cofrestru Etholiadol lleol.

Dim ond unwaith sydd angen cofrestru a byddi di’n gallu pleidleisio yn etholiadau’r dyfodol hefyd, ond os ydy dy enw, cyfeiriad neu genedligrwydd yn newid, bydd angen cofrestru eto. Os wyt ti’n ansicr os wyt ti wedi cofrestru eisoes, yna mae posib gwirio wrth chwilio ar Swyddfa Cofrestru Etholiadol Lleol.  Mae posib cysylltu â nhw hefyd os wyt ti angen cymorth i gofrestru neu darllena’r canllaw hawdd i’w darllen am gofrestru i bleidleisio.

Sut i bleidleisio

Mae posib pleidleisio wrth fynd i’r orsaf pleidleisio, drwy’r post neu drwy ddirprwy.

Os nad wyt ti’n gyfforddus gyda’r syniad o fynd i’r orsaf pleidleisio eleni oherwydd Covid, neu ddim yn gallu mynd oherwydd amgylchiadau personol, gellir gwneud cais am bleidlais bost a gyrru dy ddewisiadau i mewn. RHYBUDD: Mae angen gwneud cais am bleidlais bost ac mae ceisiadau yn cau ar ddydd Mawrth, 20fed Ebrill eleni.

Mae posib gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy hefyd – ble rwyt ti’n dewis rhywun gallet ti ymddiried ynddynt i bleidleisio ar dy ran. Efallai bod hwn yn opsiwn da os wyt ti wedi bod ‘gwarchod’ neu os na fedri di fynd i’r orsaf bleidleisio am reswm arall.  Rhaid gwneud cais am bleidlais trwy ddirprwy erbyn 27 Ebrill, ac mae rhaid i ti ddweud wrthynt pam nad wyt ti’n gallu mynd i’r orsaf bleidleisio dy hun.

Bydd yna bleidlais frys drwy ddirprwy eleni hefyd, felly os oes rhaid i ti hunanynysu oherwydd Covid, yna mae posib gwneud cais hyd at 5yh ar ddiwrnod y bleidlais. Os oeddet ti wedi gwneud cais am bleidlais trwy ddirprwy eisoes, a bod y person dewiswyd yn gorfod hunanynysu, mae posib newid hyn hefyd.

Gwybodaeth bellach

Tudalennau Pleidlais 16 a Defnyddia Dy Lais Senedd Cymru – llawer o wybodaeth a fideos am yr etholiad.

Gwybodaeth ddiweddaraf am yr etholiadau a’r drefn eleni ar gael ar wefan Y Comisiwn Etholiadol.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd