Tu Ôl i Lenni’r Senedd: Teithiau, Cyfarfodydd, a Mwy!

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r Senedd yn fwy nag adeilad deinamig i wleidyddion. Mae’n ganolbwynt hanes, addysg, a phrofiadau difyr sydd yn agored i bawb! Os wyt ti’n caru gwleidyddiaeth, neu â ychydig o ddiddordeb yn deall mwy am y ffordd mae Cymru yn cael ei lywodraethu, mae yna rywbeth at ddant pawb yn y Senedd.

Gweld democratiaeth ar waith

Trocha dy hun yn wleidyddiaeth Cymru wrth wylio’r cyfarfodydd llawn yn fyw! Mae posib cael sedd rhes flaen i wylio Cyfarfodydd Llawn y Senedd a bod yn dyst i ddemocratiaeth ar waith.

Cyfarfod Llawn yw pan fydd y Senedd gyfan yn cyfarfod yn y Siambr, ystafell trafod y senedd. Dyma ble fydd Aelodau’r Senedd (AS) yn dadlau ac yn pleidleisio ar faterion pwysig sy’n berthnasol i Gymru.

Cynhelir cyfarfodydd llawn ddwywaith yr wythnos ar ddydd Mawrth a dydd Mercher. Mae’r cyhoedd yn cael gwylio o’r oriel gyhoeddus yn rhad ac am ddim (nifer cyfyngedig o seddi sydd yno, felly argymhellir i ti gyrraedd yn gynnar).

Mae posib gwylio cyfarfodydd llawn yn fyw neu ddewis gwylio hen gyfarfodydd ar Senedd.tv. Gellir darganfod trawsgrifiad holl gyfarfodydd llawn wrth chwilio am Gofnod y Trafodion ar wefan y Senedd.

Y tu allan i adeilad y Senedd

Dadorchuddio Hanes Cymru

Os wyt ti yng Nghaerdydd ac yn chwilio am rywbeth diddorol i wneud, sydd am ddim yna cer i edrych ar hanesion pobl a lleoliadau Cymru yn yr arddangosfeydd rhyngweithiol a’r arteffactau hanesyddol.

Mae’r arddangosfeydd yn y Senedd yn newid yn aml, ac fel arfer maent yn cael eu dangos union uwchben y siambr drafod. Dros ffordd i’r Senedd mae’r adeilad Pierhead eiconig, sydd hefyd yn gartref i arddangosfeydd am ddim y Senedd. Mae’r adeilad ei hun yn llawn hanes, wedi ei adeiladu yn 1897 mae’n adeilad rhestredig Gradd I.

Rhai o’r arddangosfeydd gallet ti ei weld yno yw arddangosfa hanes Tiger Bay a’r Dociau o 1880-1950 a chynlluniau adeiladu’r Senedd.

Argymhellir i ti lawrlwytho app y Senedd yn rhad ac am ddim i gael nodweddion rhyngweithiol a gwybodaeth am yr adeilad a’r arddangosfeydd.

Y tu allan i adeilad y Pierhead. Mae'n dal gyda brics coch bywiog a chloc ar yr hyn sy'n edrych fel tŵr.

Gweithgareddau a Digwyddiadau

Dysga fwy am stori’r Senedd gyda thaith dywys am ddim. Byddi di’n clywed am bensaernïaeth unigryw’r adeilad, ei arwyddocâd hanesyddol, a’i ymrwymiad i gynaliadwyedd. Mae posib cael tocynnau o flaen llaw yma am y teithiau neu ddigwyddiadau, syniad da mewn cyfnodau prysur.

Mae’r Senedd hefyd yn cynnal sgyrsiau a gweithdai ar bynciau amrywiol yn ymwneud â gwleidyddiaeth a llywodraethu Cymru. Cer i’r wefan i weld pa ddigwyddiadau sydd i ddod.

Mae’r Senedd hefyd yn gyfeillgar iawn i deuluoedd. Mae man chwarae bach ar gyfer babanod, plant bach a phlant ifanc. Ar benwythnosau, mae bwrdd crefftau ar gael yn y lobi. Yn ystod hanner tymor, cynhelir amrywiaeth o weithgareddau rhad ac am ddim i bawb eu mwynhau.

Yn nhymor y Nadolig mae’r Senedd yn rhan o Lwybr Eira Bae Caerdydd, sy’n cynnwys amrywiaeth o bartneriaid sydd ar lan y dŵr fel The Coal Exchange a Giovanni’s. Rhaid darganfod 8 o gymeriadau o gwmpas y Bae, pob un gyda llythyren. Os wyt ti’n dyfalu’r gair, yn y Saesneg neu’r Gymraeg, yna mae cyfle i ti ennill gwobr raffl. Mae gwobrau’r gorffennol wedi cynnwys noson mewn gwesty a bowlio!


Twmffat pren a tho y tu mewn i adeilad y Senedd

Cynllunio dy ymweliad

Cost: Mae’r Senedd yn agored i’r cyhoedd am ddim!

Oriau Agor: Dydd Llun i ddydd Gwener 9yb – 4:30yp. Ar ddydd Sadwrn a gwyliau’r banc 10:30yb – 4:30yp. Mynediad olaf am 4yp. Cer i wefan y Senedd i sicrhau bod posib mynd yno cyn ymweld.

Hygyrchedd a Chynhwysiant: Mae’r Senedd yn adeilad gwbl hygyrch, gyda mynediad ramp, lifftiau a dolenni clyw yno. Maent hefyd yn cynnig cyfleusterau newid â chymorth ac ystafelloedd ymolchi niwtral o ran rhywedd, gyda chynhyrchion mislif am ddim ym mhob toiled. Mae dwy ystafell dawel yno hefyd, i’w defnyddio gofynna yn y dderbynfa.

Bwyd a Diod: Llenwa dy fol ar ôl archwilio’r Senedd yn y caffi. Gyda dewis o ddiodydd oer a phoeth, bwyd ysgafn, cacennau a phwdin. Bwyta gyda golygfeydd godidog y Bae o dy flaen.

Diogelwch: Mae yna drefniadau diogelwch ar waith yn y Senedd. Mae’n rhaid i ti fynd trwy wiriad diogelwch cyn cael mynediad i’r adeilad a dilyn cyfarwyddiadau’r staff diogelwch. Cofia ganiatáu digon o amser i fynd drwy’r gwiriadau diogelwch.

Mae’r Senedd eisiau bod yn niwroamrywiol-gyfeillgar. Os yw ciwio neu wiriadau diogelwch yn anodd i ti, gofyn i gael siarad gyda staff. Mae posib y gallant drefnu i ti fynd trwy’r gwiriad diogelwch yn sydyn. Mae’r Senedd wedi creu canllaw sy’n egluro’r broses diogelwch ac agweddau eraill yr adeilad a allai achosi mwy o broblemau synhwyraidd.

Llun o'r Pierhead a'r Senedd
Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd