Cymryd Rhan

Eisiau gwybod sut i gymryd rhan yn TheSprout? Dyma sydd angen gwybod.

Beth ydy TheSprout?

Mae TheSprout yn llwyfan blogio, gwybodaeth ac ymgyrchu i bobl ifanc 11-25, gan bobl ifanc 11-25 a’r sefydliadau sydd yn eu cefnogi yng Nghymru. Darganfydda fwy am TheSprout.

Pob ychydig fisoedd, rydym yn creu ymgyrch newydd am faterion sydd yn bwysig i bobl ifanc, gan bobl ifanc Cymru. Dyma rhai o’r ymgyrchoedd diweddaraf:

Pam dylwn gymryd rhan?

Os oes gen ti ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn ymgyrch am rywbeth sydd yn bwysig i ti, yna gallem gynnig cyfleoedd gwirfoddoli heb dâl. Ond, efallai daw cyfleoedd i gael gwaith yn y dyfodol sydd yn talu.

Mae lleoliadau gwaith yn gallu bod yn hollol hyblyg i ffitio dy fywyd di. Gallem arwyddo am oriau profiad gwaith neu tuag at wobrau fel Gwobr Dug Caeredin (DofE).

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, ond mae angen i ti fod rhwng 11-25 oed ac yn byw, gweithio, neu astudio yng Nghymru.

Gallem gynnig hyfforddiant fydd yn helpu ti i gynyddu sgiliau mewn creu cynnwys, gan gynnwys:

  • Fideo
  • Golygu
  • Ysgrifennu
  • Graffeg
  • Ysgrifennu i’r we
  • Podlediad

Mae bod yn rhan o ymgyrch yn berffaith i unrhyw un sydd â diddordeb mewn newyddiaduraeth, cyfathrebu a marchnata, neu i rai fydda’n hoffi llwyfan i godi ymwybyddiaeth o faterion pwysig.

Sut ydw i’n cymryd rhan?

Cysyllta gyda ni ar e-bost info@thesprout.co.uk gydag enw llawn, dyddiad geni, ac ychydig o wybodaeth fer am yr hyn hoffet ti ei wneud yn TheSprout. Byddem yn cyfarfod gyda thi unai drwy alwad fideo neu wyneb i wyneb i drafod dy ddiddordebau, a sut gallem dy gefnogi orau.

Dilyna ar gyfryngau cymdeitahsol i gael gwybod y diweddaraf am TheSprout.

Ysgrifennu i TheSprout

Dyma ychydig o adnoddau defnyddiol os wyt ti’n ysgrifennu ar ran TheSprout:

Cwestiynau Cyffredin TheSprout – dy alwad cyntaf ar gyfer holl gwestiynau yn ymwneud â’r Sprout.

Canllaw Arddull TheSprout – cyngor i ysgrifennu i TheSprout

Canllaw Lluniau TheSprout – cyngor ar ddarganfod a llwytho lluniau gyda dy erthyglau

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd