Amdanom Ni

Beth ydy theSprout?

Mae TheSprout yn wefan gwybodaeth a blogio i bobl ifanc 11-25, gan bobl ifanc 11-25 a’r sefydliadau sydd yn awyddus i’w cefnogi.

Mae’r wefan wedi ei rhannu yn ddau brif adran: gwybodaeth, a blog.

  • Gwybodaeth ydy ble gellir darganfod llawer o wybodaeth a chefnogaeth am bynciau sydd yn cael effaith ar bobl ifanc, fel gadael ysgol, bwlio, a phroblemau ariannol. Ymhob adran mae yna ddolenni defnyddiol i sefydliadau lleol a chenedlaethol sydd yn gallu helpu gydag unrhyw beth sydd ei angen
  • Blog ydy lle rydym yn rhannu’r blogiau gwych sydd wedi’u hysgrifennu gan bobl ifanc. Mae yna rywbeth i bawb – o gyfleoedd lleol i glywed stori rhywun a chodi ymwybyddiaeth o bynciau pwysig fel hawliau plant a phobl ifanc

Mae’r holl gynnwys cyfryngol yn cael ei oruchwylio gan olygydd sy’n cael ei gyflogi gan ProMo-Cymru.

Ymgyrchoedd

Pob tymor, rydym yn creu ymgyrch newydd yn ymwneud â materion sydd yn bwysig i bobl ifanc, gan bobl ifanc yng Nghymru. Dyma rhai o’n hymgyrchoedd diweddaraf:

Sut ydw i’n gallu cymryd rhan?

Rydym wastad yn chwilio am bobl ifanc 11-25 sydd yn byw, gweithio, neu’n astudio yng Nghymru a fydda’n hoffi cymryd rhan i greu cynnwys ar gyfer ymgyrch.

Os wyt ti eisiau cymryd rhan neu eisiau dysgu mwy, e-bostia info@thesprout.co.uk.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd