Dychmyga’r Dyfodol Mewn 50 Mlynedd

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Wyt ti erioed wedi meddwl sut le fydd y dyfodol mewn 50 mlynedd? Mae pobl ifanc wedi derbyn y sialens ac yn darlunio eu gweledigaeth nhw o’r dyfodol ar gyfer Pen-blwydd Chapter yn 50 oed.

Meddwl ymlaen

Roedd y Chapter yn awyddus i farcio ei ben-blwydd yn 50 oed gan arddangos talentau artistiaid ifanc lleol. Gwahoddwyd pobl ifanc rhwng 5 a 16 oed o Gaerdydd, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful i gymryd rhan mewn cystadleuaeth. Y sialens oedd gyrru cerdyn post i’w hunain o ddyfodol dychmygol, 50 mlynedd i ffwrdd.

Ar ôl derbyn 1,200 o geisiadau o 17 ysgol wahanol, bu Chapter yn gweithio gyda phanel arbenigol o feirniaid i wneud y penderfyniad anodd o ddewis y tri gorau o bob grŵp oedran. Yn dilyn hyn, cafwyd pleidlais gyhoeddus i ddewis un enillydd a bydd y cerdyn post yma yn cael ei arddangos ar Flwch golau Chapter am 6 mis! Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 12fed Tachwedd 2021.

Chapter Lightbox

Y rownd derfynol

Mae the Sprout yn gweithio gyda Chapter i arddangos y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, felly cadwa olwg i ddarganfod mwy am 9 person ifanc talentog yma a’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’w cerdyn post o’r dyfodol.

Categori: Oedran 5-8

Categori: Oedran 9-11

Categori: Oedran 12-16

Yr Arddangosfa

Cer draw i Chapter ar 12fed Tachwedd pan fyddant yn datgelu’r enillydd. Bydd Chapter yn arddangos pob un o’r 12000 o geisiadau mewn arddangosfa ddigidol hefyd, felly cer draw i’r wefan os wyt ti eisiau eu gweld!

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd