Cerdyn Post o’r Dyfodol: Edith Evans

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Wyt ti erioed wedi meddwl sut fydd y dyfodol mewn 50 mlynedd? Dyma Edith, sydd yn 13 oed ac wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cerdyn Post o’r Dyfodol Chapter, yn egluro’r weledigaeth y tu ôl i’w lun.

Beth oedd dy ysbrydoliaeth wrth greu’r llun?

Y syniad clasurol o bobl estron yn cymryd y byd drosodd mae’n debyg… mae mor afrealistig fel ei fod yn gyffrous. Dwi’n caru’r ffilm ET, ac er nad yw creaduriaid gwyrdd seimlyd yn goroesi’r ddaear yn syniad pawb o realiti dychmygol, dwi’n dal i feddwl ei fod yn eithaf cŵl.

Sut wyt ti’n teimlo am gael dy gynnwys mewn arddangosfa celf broffesiynol yn Chapter?

Dwi’n caru celf erioed, felly mae’n gyffrous iawn ac yn gyfle gwych. Yn enwedig yn rhywle fel Chapter lle dwi wedi treulio cymaint o amser dros y blynyddoedd.

Pa bethau creadigol eraill wyt ti’n gwneud?

Dwi’n caru peintio, darlunio, dŵdlo ayb. Os nad ydw i’n gallu cysgu, dwi’n darlunio. Os ydw i wedi diflasu yn y dosbarth, dwi’n darlunio wynebau bach ar fy llyfr. Weithiau byddaf yn gwylio fy hoff ffilm ac yn gwneud sgets o’r cymeriadau. Weithiau maen nhw’n wael, ac weithiau maen nhw’n dda, ond mae’n rhywbeth i wneud i ymlacio a dwi wrth fy modd.

Oes unrhyw beth arall hoffet ti ddweud am gyrraedd y rownd derfynol?

Dwi’n teimlo braint, ac fel dywedais yn barod, dwi’n caru Chapter a’r gymuned felly mae’n beth gwych i gael bod yn rhan o’u Pen-blwydd yn 50. Dwi’n gyffrous iawn ac yn ddiolchgar.

Gwybodaeth berthnasol

Mae hwn yn rhan o’r ymgyrch Cerdyn Post o’r Dyfodol sydd yn cael ei gynnal ar y cyd â Chanolfan Gelfyddydau Chapter i ddathlu eu pen-blwydd yn 50. I ddysgu mwy am y gystadleuaeth a phawb arall sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, clicia yma.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd