Bydda’r Newid Yr Hoffet Ti Ei Weld

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Nid yw bod yn ifanc yn golygu bod rhai i ti sefyll ar yr ochr yn gwylio gwleidyddiaeth yn digwydd. Mae mwy o ffyrdd i gymryd rhan yng Nghymru nag y byddet ti’n ei feddwl! O lunio polisi i leisio dy farn, dyma ganllaw i wneud gwahaniaeth go iawn.

Senedd Ieuenctid Cymru

Ydy bod y AS (Aelod Seneddol) yn freuddwyd? Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn rhoi blas o sut beth ydyw i bobl ifanc 11-18 oed. Dychmyga grŵp o bobl ifanc angerddol yn trafod materion sy’n bwysig iddyn nhw, fel addysg, iechyd meddwl, a’r amgylchedd. Dyna yw pwrpas y Senedd Ieuenctid.

Bob dwy flynedd, cynhelir etholiadau ledled Cymru ar gyfer y Senedd Ieuenctid. Mae pobl ifanc yn pleidleisio dros rywun i gynrychiolydd eu hetholaeth (ardal leol), rhywun fydd yn llais iddynt yn y Senedd.

Yn dilyn eu hetholiad, bydd aelodau’r Senedd Ieuenctid yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod materion pwysig, dadlau cynigion, a chyflwyno eu syniadau i wleidyddion a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Mae’n gyfle gwych i ddatblygu sgiliau, rhwydweithio gyda phobl ifanc eraill sy’n poeni am yr un pethau, a chael dylanwad go iawn.

Mae gwefan Senedd Ieuenctid Cymru yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen, gan gynnwys sut i gymryd rhan a sut i bleidleisio.

Teenager talking with microphone in front of a projector slide

Pleidleisio

Mae Cymru yn arwain y ffordd o ran oedran pleidleisio. Yng Nghymru, mae pobl ifanc 16 a 17 bellach yn cael pleidleisio yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol. Mae hyn yn wahanol i weddill y DU, ble mae’n rhaid bod yn 18 i bleidleisio o hyd.  

Pleidleisio yw dy gyfle di i ddweud dy ddweud am y bobl sy’n gwneud y penderfyniadau sy’n effeithio ar dy fywyd. Gall hynny fod yn drafnidiaeth gyhoeddus well,  mwy o gefnogaeth i wasanaethau iechyd meddwl, neu weithredu ar newid hinsawdd. Mae dy bleidlais di yn cyfri!

Mae gwefan Y Comisiwn Etholiadol yn cynnwys yr holl wybodaeth am gofrestru i bleidleisio a phleidleisio yng Nghymru. Darganfod mwy am bleidleisio.

Poster which reads 'Gorsaf Bleidleisio, Polling Station' attached to gate

Lobio ac Ymgyrchu

Mae lobïo ac ymgyrchu yn arfau pwerus y gall pobl ifanc eu defnyddio i ddylanwadu ar benderfyniadau. Mae lobïo yn golygu cysylltu’n uniongyrchol â gwleidyddion a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i fynegi barn ar fater penodol. Mae ymgyrchu yn mynd gam ymhellach drwy godi ymwybyddiaeth a meithrin cefnogaeth y cyhoedd i achos sy’n bwysig i ti.

Mae cryfder mewn niferoedd, felly mae ymuno â grŵp ymgyrchu sy’n cyd-fynd â dy ddiddordebau yn ffordd wych i gymryd rhan. Mae cymaint o wahanol grwpiau ymgyrchu yn gweithio ar amrywiaeth o faterion fel newid hinsawdd, ymwybyddiaeth iechyd meddwl, neu ddiwygio addysg. Wrth ymuno ag eraill sy’n angerddol am yr un pethau, gellir dysgu gan ymgyrchwyr profiadol, cymryd rhan mewn ralïau a digwyddiadau, a defnyddio eich llais cyfunol i eirioli dros newid.

Mae’r rhyngrwyd hefyd yn llwyfan pwerus i bobl ifanc gysylltu â gwleidyddiaeth. Beth am gychwyn blog neu gyfrif cyfryngau cymdeithasol i drafod materion sy’n bwysig i ti? Rhanna ddeisebau, cymera ran mewn trafodaethau parchus ar-lein, a defnyddia dy blatfform i addysgu eraill a sbarduno sgyrsiau. Cofia fod pobl weithiau’n gallu bod yn gas y tu ôl i’w sgriniau, felly sicrha dy fod di’n cadw’n ddiogel ar-lein, yn cymryd seibiannau rheolaidd, ac yn siarad â phobl a all helpu os wyt ti’n gweld rhywbeth sy’n dy boeni ar-lein.

Photograph of the back of 3 placards at a peaceful protest

Gwirfoddoli

Ffordd effeithiol i gymryd rhan yw gwirfoddoli amser i sefydliad sy’n cyd-fynd â dy ddiddordebau gwleidyddol. Gallai hyn gynnwys helpu gyda digwyddiadau codi arian, cynorthwyo gydag ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, neu hyd yn oed gynnig cymorth gweinyddol. Mae pob gweithrediad bach yn cyfri! Mae hefyd yn ffordd wych i ddysgu mwy gan eraill sy’n gweithio yn y maes o ddydd i ddydd ac i gael profiad a rhoi cynnig ar bethau nad wyt ti wedi cael y cyfle i’w gwneud o’r blaen.

Young adults packing food parcels

Ysgrifennu

Paid diystyru pŵer llythyr neu e-bost wedi’i ysgrifennu’n dda. Cysyllta â’r Aelod Seneddol (AS) lleol neu Aelod y Senedd Brydeinig i rannu dy farn ar faterion penodol. Rhanna dy bryderon yn glir a gofynna gwestiynau. Mae dy gynrychiolwyr etholedig yn gweithio i ti, ac mae clywed gan eu hetholwyr yn hollbwysig iddynt.

Laptop on table with email screen open

Aros yn wybodus

Mae cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau cyfoes a materion gwleidyddol yn hanfodol ar gyfer cyfranogiad ystyrlon. Darllena erthyglau newyddion o ffynonellau sydd ag enw da, gwranda ar bodlediadau gwleidyddol, a gwylia raglenni dogfen llawn gwybodaeth. Y mwy o wybodaeth rwyt ti’n gwybod yna’r mwyaf effeithiol yr wyt ti wrth gymryd rhan mewn trafodaethau ac eirioli dros newid.

News app open on mobile phone

Ymweld â’r Senedd

Er bod trafodaethau gwleidyddol a gweithredu yn bwysig, mae ffordd arall i gymryd rhan: ymweld â’r Senedd ei hun! Mae adeilad Senedd Cymru ar agor i’r cyhoedd ac yn cynnig cyfle gwych i bawb ddysgu am ddemocratiaeth Cymru mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol. Mae posib gwylio’r Cyfarfod Llawn, archwilio arddangosfeydd, mynd ar daith dywys, a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gen ti am wleidyddiaeth Cymru. Dysga fwy am ymweld â’r Senedd.

Outside of the Senedd building in Cardiff Bay

Mae dy lais di’n bwysig!

Cofia fod dy lais di’n bwysig! Paid aros nes dy fod yn 18 i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.

Mae Cymru yn cynnig cyfleoedd cyffrous i bobl ifanc wneud gwir wahaniaeth. Felly, dysga, cyfranoga mewn trafodaethau, a dechrau siapio dyfodol Cymru!

Cofia:

  • Bydda’n angerddol: Dewis materion sy’n wirioneddol bwysig i ti; bydd dy angerdd yn tanio cyfranogiad.
  • Bydda’n barchus: Hyd yn oed os wyt ti’n anghytuno, bydda’n barchus mewn trafodaethau a rhyngweithiadau ar-lein.
  • Bydda’n ddyfal: Mae newid yn cymryd amser ac ymdrech. Paid digalonni. Parha i eirioli dros yr hyn rwyt ti’n ei gredu.
Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd