Beth Ydw i’n Gwneud ar Ddiwrnod Etholiad?

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Os mai dyma yw’r tro cyntaf i ti fynd i bleidleisio, gall y broses fod yn un anghyfarwydd i ti. Dyma’n canllaw i Etholiadau’r Senedd a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar Fai’r 6ed a sut fydd y papurau pleidleisio yn edrych.

Gobeithio dy fod di wedi gweld ein blogiau blaenorol yn dy annog i gofrestru ar gyfer pleidleisio os wyt ti dros 16 oed. Os nad wyt ti wedi cofrestru yna mae’n rhy hwyr ar gyfer etholiadau mis Mai yn anffodus. Os wyt ti wedi cofrestru, byddi di’n derbyn cerdyn pleidleisio yn y post gyda’r orsaf bleidleisio wedi’i nodi arno.

Oes rhaid i mi fynd â rhywbeth gyda fi?

Mae’r gorsafoedd pleidleisio yn agored rhwng 7yb a 10yh. Cer â dy gerdyn pleidleisio (yr un cefais di yn y post), beiro neu bensil (oherwydd Covid) a mwgwd.

Byddi di’n derbyn tri phapur pleidleisio ond os wyt ti’n 16 neu 17 oed dim ond dau fyddi di’n derbyn, gan nad wyt ti’n cael pleidleisio yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu os wyt ti o dan 18 oed.

Beth sydd yn wahanol oherwydd Covid?

Bydd gorsafoedd pleidleisio yn amgylchoedd Covid gyfeillgar gyda sgriniau; mesuriadau ymbellhau a gorsafoedd diheintio dwylo.

Os wyt ti’n dangos symptomau ac yn gorfod hunan ynysu yna gallet ti ddewis rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddynt i fynd i’r orsaf bleidleisio ar dy ran i bleidleisio. Gelwir hwn yn bleidlais frys drwy ddirprwy. Gellir gwneud cais am hyn hyd at 5yh ar ddiwrnod yr etholiad.

Bydd mwy o ddisgwyl i glywed pwy sydd wedi dod yn fuddugol eleni. Ni fyddant yn cychwyn cyfrif tan y bore wedyn ac nid yw’n bosib cael cymaint mewn ystafell â’i gilydd yn cyfri. Disgwylir bydd y cyfri yn cymryd deuddydd i’w gwblhau.

Am beth ydw i’n pleidleisio?

Mae’r Senedd yn llunio cyfreithiau ac yn gosod trethi yng Nghymru, yn goruchwylio gwaith Llywodraeth Cymru. Mae’r blaid sydd yn ennill y mwyafrif o seddi yn y Senedd yn ffurfio’r Llywodraeth, sydd yn creu polisïau ar feysydd datganoledig fel iechyd, addysg a thrafnidiaeth – nid yw San Steffan yn cael gwneud penderfyniadau arnynt yng Nghymru.

Gwylia’r fideo isod i weld pwerau’r Senedd.

Pa bleidleisiau sydd gen i yn etholiadau’r Senedd?

Mae gan y Senedd  60 o aelodau fydd yn cael eu dewis yn yr Etholiadau yma. Bydd pump yn cynrychioli ti a dy ardal. Un ar gyfer dy ardal leol a’r pedwar arall am y rhanbarth De Cymru Ganol. I ddarganfod yr ymgeisydd yn dy ardal di, noda dy god post yn y bar chwilio ar Who Can I Vote For.

Byddi di’n derbyn dau bapur pleidleisio ar gyfer Etholiad y Senedd. Un i bleidleisio am dy aelod etholaeth a’r llall am dy aelodau rhanbarthol.

Aelod etholaeth – Y person rwyt ti’n dymuno i gynrychioli ti a dy ardal leol. Bydd y cynrychiolydd gyda’r mwyafrif o bleidleisiau yn dod yn un o’r 40 aelod etholaeth wedi’u hethol i’r Senedd.

Aelod rhanbarthol – Y blaid wleidyddol, neu ymgeisydd annibynnol, rwyt ti’n dymuno i gynrychioli De Cymru Ganol. Mae’r aelodau yma yn cael eu dewis o’r nifer o bleidleisiau yn ogystal â’r nifer o seddi aelodau etholaeth mae’r blaid (neu ymgeisydd annibynnol) wedi’u hennill yn y rhanbarth.

Am beth ydw i’n pleidleisio yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu?

Rhaid bod dros 18 oed i bleidleisio yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Byddi di’n dewis ymgeisydd i oruchwilio Heddlu De Cymru. Eu bwriad ydy lleihau troseddu a sicrhau bod yr heddlu yn effeithiol. Mae posib gweld ymgeiswyr De Cymru ar wefan Dewis Fy NghHTh.

Sicrha bod yr hyn rwyt ti’n ei weld ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol yn wir, mae llawer o gamwybodaeth yn gallu cael ei rannu yn ystod etholiadau. Dysga fwy am sut i adnabod a stopio’r rhannu o gamwybodaeth ar wefan Hwb.

Nid oes neb rwyf eisiau rhoi fy mhleidlais iddynt!

Nid oes rhaid i ti bleidleisio am rywun os wyt ti’n teimlo nad wyt ti’n cael dy gynrychioli yn yr etholiadau yma. Rwyt ti’n dal i fedru dweud dy ddweud wrth ddifetha (spoil) dy bapur pleidleisio. Mae papurau wedi’u difetha yn cael eu cyfri o hyd ac mae’n dweud dy fod di’n poeni am gael dy gynrychioli. Mae peidio mynd yn dweud nad oes gen ti ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, os wyt ti’n difetha’r papur yna mae’n dweud nad wyt ti’n hapus. Os oes nifer fawr o bleidleisiau wedi’u difetha yna gall hyn fod yn sbardun iddynt edrych ar newid polisïau’r dyfodol i geisio denu dy bleidlais.

Felly cer amdani, sicrha bod llais pobl ifanc yn cael ei glywed yn yr etholiad yma wrth fynd i bleidleisio ar Fai’r 6ed.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd