Ydy iechyd meddwl pobl ifanc yn bwysig i ti ac wyt ti eisiau gwneud gwahaniaeth? Rydym yn chwilio am 8 person ifanc brwdfrydig (4 o Gymru a 4 o Loegr) i ymuno gyda “Diwrnod Gweithredu Ieuenctid: Ein Meddyliau Ein Dyfodol” mewn cyfle gyda thâl!
Dyma dy gyfle i:
- Siapio dyfodol cefnogaeth iechyd meddwl i bobl ifanc ar draws Cymru a Lloegr
- Gwneud cysylltiadau a rhannu syniadau gydag arweinwyr ifanc eraill ac arbenigwyr iechyd meddwl
- Datblygu hyder a sgiliau mewn gweithdai a sesiynau cynllunio
- Cael dy dalu am dy amser a’th arbenigedd (£15 yr awr)
![Teen boy sat in counsellors office, looking down and ashamed](https://thesprout.co.uk/wp-content/uploads/2024/08/1-1024x576.jpg)
Pwy ydym ni
Youth Access yw’r rhwydwaith cenedlaethol yn Lloegr ar gyfer cyngor a gwasanaethau cwnsela a fu’n rhan o 5 mlynedd gychwynnol prosiect Ein Meddyliau Ein Dyfodol. Eu nod ydy sicrhau bod pob person ifanc yn gallu cael cefnogaeth am ddim wrth iddynt ddatblygu o’u plentyndod a’u harddegau i fywyd fel oedolyn gan wasanaethau cyngor yn y gymuned a gwasanaethau cwnsela sy’n parchu eu hawliau ac yn diwallu eu hanghenion fel unigolion.
Mae ProMo Cymru yn fudiad nid-er-elw yng Nghymru, ac roeddent hefyd yn rhan o 5 mlynedd gychwynnol prosiect Ein Meddyliau Ein Dyfodol. Mae ProMo yn defnyddio eu profiad o weithio gyda phobl ifanc er mwyn creu newidiadau creadigol er budd cymdeithas.
![Group of young people sat around a table, talking.](https://thesprout.co.uk/wp-content/uploads/2024/08/2-1024x576.jpg)
Be’ fyddi di’n gwneud
Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, mae pobl ifanc wedi cydweithio gyda mudiadau ieuenctid ac iechyd meddwl er mwyn siapio gwasanaethau iechyd meddwl ar draws y DU. Er mwyn parhau â’r gwaith mae Diwrnod Gweithredu Ieuenctid “Ein Meddyliau Ein Dyfodol” yn ddiwrnod llawn dop o weithgareddau ym Mryste ddydd Sadwrn 8fed Chwefror 2025.
Dyma dy gyfle i helpu ni adlewyrchu ar ddatblygiad y prosiect hyd yn hyn, rhannu dy brofiadau a’th syniadau ar gyfer ymateb i heriau iechyd meddwl pobl ifanc, a dathlu’r gwaith arbennig mae pobl ifanc wedi’i gyflawni er mwyn gwella gwasanaethau iechyd meddwl.
Byddwn yn talu costau teithio a llety felly’r oll sydd angen i ti wneud yw dod a dy frwdfrydedd a dy syniadau creadigol! Ni fyddi di yn rhannu gyda phobl ifanc eraill, bydd gan bawb ystafell eu hunain.
Er mwyn paratoi ar gyfer y digwyddiad bydd pedwar sesiwn ar-lein ar ddyddiau Mercher rhwng 4:30-6:30yh. Byddwn yn dod at ein gilydd i groesawu pawb cyn cynllunio a dylunio’r Diwrnod Gweithredu, cyn adrodd yn ôl a chynllunio’r camau nesaf ar gyfer y dyfodol.
![5 colourful balls in a line, each with a different emotion, from angry, sad, neutral, happy and very happy.](https://thesprout.co.uk/wp-content/uploads/2024/08/3-1024x576.jpg)
Amserlen digwyddiadau:
- 6ed Tachwedd 2024 – Sesiwn cyflwyno (4:30-6:30yh, ar-lein)
- 27ain Tachwedd 2024 – Sesiwn cynllunio cyntaf (4:30-6:30yh, ar-lein)
- 15fed Ionawr 2025 – Ail sesiwn cynllunio (4:30-6:30yh, ar-lein)
- 7fed Chwefror 2025 – Teithio i Fryste ac aros dros nos (amseroedd yn dibynnu ar ble wyt ti’n byw)
- 8fed Chwefror 2025 – Ein Meddyliau Ein Dyfodol: Diwrnod Gweithredu Ieuenctid (trwy’r dydd, Bryste)
- 12fed Chwefror 2025 – Sesiwn adrodd yn ôl (4:30-6:30yh, ar-lein)
Plîs sicrha dy fod ar gael ar bob un o’r dyddiadau a’r amseroedd uchod cyn i ti wneud cais.
Sut fyddi di’n elwa o hyn?
Mae hwn yn fwy na chyfle i gwrdd a chael hwyl – mae’n gyfle gwych i fuddsoddi yn dy hun a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol:
- Cael dy dalu: Fe gei di dâl am dy amser a’th arbenigedd ar Gyflog Byw Gwirioneddol
- Cael effaith sy’n para: Cyd-gynhyrcha’r Diwrnod Gweithredu gyda ni! Bydd dy lais yn siapio cynllun y dydd
- Datblygu sgiliau: Cyfle i ddysgu sgiliau gwerthfawr gwerthuso, cynllunio a chydweithio ar brosiectau
- Adeiladu dy rwydwaith: Cysylltu a gwneud ffrindiau gydag arweinwyr ifanc tebyg i ti ar draws Cymru a Lloegr sy’n rhannu’r un brwdfrydedd am iechyd meddwl
- Hwb i dy CV: Cael profiadau gwerthfawr mewn cyd-gynhyrchu ac eirioli dros iechyd meddwl pobl ifanc
Dyma dy gyfle i ddatblygu dy hun, cael hwyl a chael effaith gwirioneddol ar gefnogaeth iechyd meddwl i bobl ifanc!
Os ydi hyn yn swnio fel y profiad i ti, plîs llenwa’r ffurflen gais byr. Byddem wrth ein bodd clywed pam rwyt ti eisiau cymryd rhan (bydda’n greadigol!)
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg neu’n Saesneg.
![Group of young people huddled together for a photograph.](https://thesprout.co.uk/wp-content/uploads/2024/08/4-1024x576.jpg)
Cysylltu
Oes gen ti gwestiynau? Ddim yn siŵr os ydi’r profiad i ti? Cysyllta i holi mwy!
Os wyt ti angen cefnogaeth gyda’r cais neu eisiau ymgeisio mewn ffordd arall heblaw am y ffurflen ar-lein, e-bostia i ddweud.
Os wyt ti’n byw yng Nghymru, plîs e-bostia Halyna, halyna@promo.cymru gyda dy gwestiynau.
Os wyt ti’n byw yn Lloegr, plîs e-bostia Sarah, sarahu@youthaccess.org.uk gyda dy gwestiynau.
Rydym yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gen ti!
Dyddiad cau
Y diwrnod olaf i wneud cais yw 5yh ddydd Gwener 4ydd Hydref. Byddwn yn cysylltu gyda’r ymgeiswyr llwyddiannus dros e-bost ar neu cyn dydd Gwener 18fed Hydref.