Cerdyn Post o’r Dyfodol: Fred Jones

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Wyt ti erioed wedi meddwl sut fydd y dyfodol mewn 50 mlynedd? Dyma Fred, sydd yn 8 oed ac wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cerdyn Post o’r Dyfodol Chapter, yn egluro’r weledigaeth y tu ôl i’w lun.

Beth oedd dy ysbrydoliaeth wrth greu’r llun?

Yr ysbrydoliaeth i wneud fy ngherdyn post oedd meddwl am bobl yn teithio i blanedau eraill i fyw ac adeiladu tai newydd yn yr alaeth.

Sut wyt ti’n teimlo am gael dy gynnwys mewn arddangosfa celf broffesiynol yn Chapter?

Dwi’n gyffrous iawn am gael fy llun mewn oriel go iawn yng Nghaerdydd.

Pa bethau creadigol eraill wyt ti’n gwneud?

Rwy’n canu ac yn dawnsio weithiau gartref.

Oes unrhyw beth arall hoffet ti ddweud am gyrraedd y rownd derfynol?

Mae’n anhygoel bod fy llun wedi’i ddewis ar gyfer y gystadleuaeth, mae wedi rhoi ysbrydoliaeth i mi barhau i wneud lluniau ac wedi rhoi mwy o hyder i mi.

Gwybodaeth berthnasol

Mae hwn yn rhan o’r ymgyrch Cerdyn Post o’r Dyfodol sydd yn cael ei gynnal ar y cyd â Chanolfan Gelfyddydau Chapter i ddathlu eu pen-blwydd yn 50. I ddysgu mwy am y gystadleuaeth a phawb arall sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, clicia yma.

 

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd