Cerdyn Post o’r Dyfodol: Elsie Morris

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Wyt ti erioed wedi meddwl sut fydd y dyfodol mewn 50 mlynedd? Dyma Elsie, sydd yn 10 oed ac wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cerdyn Post o’r Dyfodol Chapter, yn egluro’r weledigaeth y tu ôl i’w lun.

Beth oedd dy ysbrydoliaeth wrth greu’r llun?

Rydym wedi bod yn dysgu am ddyn o’r enw Stephen Wiltshire yn yr ysgol, sydd yn artist pensaernïol gyda chof ffotograffig sydd yn cŵl iawn. Felly, pan glywais am y gystadleuaeth creu dinas y dyfodol, meddyliais, bydd hynny’n dda i wneud efallai.

Fe feddyliais am greu dinas dan y dŵr a meddwl bydda hynny’n cŵl. Ond fe wnaeth rhywun sylw – sut bydd pawb yn anadlu? Dwi’n meddwl mewn 50 mlynedd bydd gwyddonwyr yn gallu dyfeisio tagellau (gills) sydd yn gallu glynu ar, ac esgidiau gyda phwysau ynddynt hefyd, fel dy fod di’n aros ar y gwaelod. Felly rwyt ti’n gallu clywed pobl, anadlu dan y dŵr ac aros ar y llawr! Dyna pam bod y ddinas dwi wedi’i greu o dan y dŵr.

Rydym hefyd wedi llwyddo dysgu sut i siarad gydag anifeiliaid felly roedd rhywun oedd yn gallu gneud hynny wedi siarad gyda’r anifeiliaid ac wedi dod i gytundeb gyda’r anifeiliaid y byddem yn aros o dan y dŵr ar yr amod nad ydym yn dinistrio eu cynefin.

Y rheswm bod popeth dan y dŵr ydy oherwydd bod lefelau’r môr yn codi ac mae Caerdydd wedi boddi. Ond dim ond un darn o Gaerdydd, nid y byd i gyd! Dyna’r ddinas dan y dŵr. Mae’n le gwych i dwristiaid. Wrth feddwl mod i am wneud hyn, roeddwn yn awyddus i gynnwys popeth sydd gen ti mewn dinas go iawn, fel ysgol, archfarchnad, tref a thai wrth gwrs. Ond mae pethau newydd wedi’u hychwanegu hefyd, fel canolfan lles a throliau sgïo i symud o gwmpas.

Sut wyt ti’n teimlo am gael dy gynnwys mewn arddangosfa celf broffesiynol yn Chapter?

Mae’n teimlo’n grêt i wybod bod fy ngwaith yn cael ei arddangos yn Chapter. Pan oeddwn i’n fabi, roedd mam yn fy ngwthio o gwmpas yr holl arddangosfeydd celf yn y Chapter, felly roedd gwybod bod fy ngwaith am fod yno yn wych.

Es i yno dros y penwythnos gyda fy nheulu a daeth llawer o bobl ataf i sgwrsio a dweud pa mor dda oedd fy ngwaith, ac roedd hynny yn gwneud i mi deimlo’n hapus iawn ac yn grêt. Rwy’n teimlo’n falch bod hyn wedi digwydd.

Yn aml yn y Chapter, mae yna waith oedolion sydd ddim yn gwneud llawer o synnwyr i blant, ond nawr mae yna waith lle gall plant fynd yno a meddwl wow, dyna cŵl, mae’n grêt.

Dwi’n caru mynd i arddangosfeydd celf a dwi bob tro’n meddwl sut deimlad ydy cael arddangos dy waith yno a nawr dwi’n gwybod, yn bendant. Dwi wedi bod sawl gwaith ac mae’n grêt gwybod bod fy ngwaith yn cael ei arddangos yn Chapter, mae’n gwneud i mi deimlo yn hynod o falch.

Pa bethau creadigol eraill wyt ti’n gwneud?

Mae mam yn athrawes celf, ac mae’n cynnal gweithdai, felly dwi’n gwneud llawer o gelf gartref ac mae gen i lawer o offer celf. Mae gen i ddyddiadur bwled, sydd fel dyddiadur gyda phwyntiau bwled i gynllunio popeth ac mae’n dda iawn i iechyd meddwl a lles. Dwi’n defnyddio hwnnw’n aml, mwy fel llyfr sgets nag llyfr cadw trac, felly mae llawer o luniau yn fy nyddiadur bwled.

Dwi wedi bod yn gwneud llawer mwy o gelf gartref yn ystod y cyfnod clo, tra roeddwn i’n dysgu o gartref. Roedd pob un o’m tasgau yn cael eu troi i mewn i brosiectau celf. Dwi’n caru darllen y Beano, ac felly pan oedd gen i brosiect gwyddoniaeth i wneud, cafodd ei droi i mewn i stribed comig Beano ac roedd hynny’n hwyl. Yn yr ysgol rydym yn dysgu lot ac mae gennym athrawon celf dda iawn, felly rydym yn dysgu lot am artistiaid newydd a dwi’n aml yn teimlo ysbrydoliaeth ac yn mynd adref i wneud y gwaith.

Rwy’n mynd i ddau ddosbarth yr wythnos mae mam yn ei gynnal: un dosbarth dyddiadur bwled ac un dosbarth llyfr sgets. Mae’n lot o hwyl ac mae llawer o fy ffrindiau yn mynd hefyd felly dwi’n cael gweithio gyda fy ffrindiau yn yr ysgol.

Mae fy ffrindiau a fi yn dod â’r llyfrau sgets i iard yr ysgol ac wedi bod yn cynnal clybiau celf fach amser chware, yn eistedd ac yn siarad ac yn sgetsio. DWI’N CARU CELF. Dyma un o fy hoff bethau i wneud felly pan fyddaf yn cael y cyfle dwi’n caru eistedd i lawr a chreu celf.

Oes unrhyw beth arall hoffet ti ddweud am gyrraedd y rownd derfynol?

Dwi’n caru mynd i’r Chapter. Dwi wedi tyfu i fyny yno. Mae’n debyg mai dyma un o fy hoff lefydd ar y ddaear. Dwi’n caru gwylio ffilmiau yno. Dwi bob tro’n disgwyl nes bydd y ffilm yn dod i’r Chapter er mwyn cael gwylio nhw yno gan ei fod cymaint o hwyl. Roeddwn i hefyd yn arfer gwneud dosbarthiadau celf yno, a dosbarthiadau drama hefyd, ac roedd hynny’n hwyl. Ac mae’r bwyd yn flasus iawn bob tro (os ydy’r bobl yn y Chapter yn gwrando)!

Felly, dwi’n falch o fod yn un o enillwyr y gystadleuaeth cerdyn post y dyfodol ar gyfer pen-blwydd Chapter yn 50 – mae’n anhygoel bod hynny wedi digwydd.

Dwi’n gobeithio wir, mewn 50 mlynedd arall, bydd y Chapter yn cynnal cystadleuaeth arall ar gyfer eu pen-blwydd yn 100. Efallai wedyn bydd gen i ŵyr neu wyres fydda’n gallu rhoi tro arni. Dwi ddim yn gallu dychmygu sut beth fydda ennill pleidlais y cyhoedd a chael fy ngwaith ar y blwch golau mawr. Bydda hynny’n anhygoel ofnadwy a fedra i ddim dychmygu hynny’n digwydd, ond os ydyw, yna bydda hynny’n hynod anhygoel. Dwi’n caru Chapter a dwi mor falch mod i’n gallu bod yn un o’r enillwyr.

Chapter Lightbox

Gwybodaeth berthnasol

Mae hwn yn rhan o’r ymgyrch Cerdyn Post o’r Dyfodol sydd yn cael ei gynnal ar y cyd â Chanolfan Gelfyddydau Chapter i ddathlu eu pen-blwydd yn 50. I ddysgu mwy am y gystadleuaeth a phawb arall sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, clicia yma.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd