Wyt ti erioed wedi meddwl sut fydd y dyfodol mewn 50 mlynedd? Dyma Archer, sydd yn 7 oed ac wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cerdyn Post o’r Dyfodol Chapter, yn egluro’r weledigaeth y tu ôl i’w lun.
Beth oedd dy ysbrydoliaeth wrth greu’r llun?
Mae fy llun yn dangos enfys sgwâr a thyrbinau gwynt ar y tai fel bod posib arbed yr ynni ac achub y blaned wrth roi trydan i dai eraill a’r cestyll.
Rhoddais wenyn ac adar i ddangos pa mor iach yw’r blaned yn yr ardal yma.
Rhoddais fy nghefnderoedd, tractor, castell modern a chastell arferol. Rhoddais fadarch y gall pobl fyw ynddynt a biniau.
![](https://thesprout.co.uk/cy/wp-content/uploads/sites/2/2021/10/Art-Archer.jpg)
Sut wyt ti’n teimlo am gael dy gynnwys mewn arddangosfa celf broffesiynol yn Chapter?
Dwi’n hapus iawn i gael i mewn. Dwi’n hoffi rhai pawb arall cymaint ag un fi! Dwi hefyd yn gyffrous iawn os ydw i’n ennill neu beidio.
![](https://thesprout.co.uk/wp-content/uploads/2021/10/Archer-Davies-e1633098896149-768x1024.jpeg)
Pa bethau creadigol eraill wyt ti’n gwneud?
Dwi’n caru peintio anifeiliaid sydd yn y gwyllt. Dwi’n caru peintio dinosoriaid. Dwi’n caru gwneud lluniau. Dwi’n caru adeiladu a dwi’n caru popeth dwi’n wneud. Ac, rydym yn mynd i’r sŵ cyn hir.
![](https://thesprout.co.uk/wp-content/uploads/2021/10/In-article-Images-PFTF-1-e1633097976876-1024x307.png)
Oes unrhyw beth arall hoffet ti ddweud am gyrraedd y rownd derfynol?
Dwi’n hapus iawn i fod yn y tri sydd ar y brig a dwi’n caru lluniau pawb arall. Dwi ddim yn gwybod beth i ddweud ond yr un peth yma – dwi’n hapus, hapus, HAPUS iawn.
Gwybodaeth berthnasol
Mae hwn yn rhan o’r ymgyrch Cerdyn Post o’r Dyfodol sydd yn cael ei gynnal ar y cyd â Chanolfan Gelfyddydau Chapter i ddathlu eu pen-blwydd yn 50. I ddysgu mwy am y gystadleuaeth a phawb arall sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, clicia yma.