Gwasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd: Cefnogi Pobl Ifanc Caerdydd

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Wyt ti’n berson ifanc o Gaerdydd sydd angen help, ond ddim yn siŵr iawn ble i droi? Yna rho dro ar wasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd!

Beth ydy CACID?

Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd (CACID) yn helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd ar draws Caerdydd i gyrraedd y gefnogaeth sydd ei angen arnynt. Gall tîm CACID roi gwybodaeth a chyngor ar:

  • Fywyd teuluol
  • Ymddygiad
  • Gofal Plant
  • Problemau yn yr ysgol
  • Cyflogaeth, arian a thai
  • Cefnogi rhieni a gofalwyr ifanc

Sut mae cysylltu?

Os hoffech gymorth mae posib cysylltu gyda CACID drwy Borth i Deuluoedd Caerdydd i gael y wybodaeth, cyngor a chymorth rwyt ti ei angen yng Nghaerdydd.

Mae posib cysylltu â Phorth i Deuluoedd am ddim ar y ffôn (03000 133 122) neu e-bost (ContactFAS@cardiff.gov.uk).

Bydd Swyddogion Cyswllt Porth i Deuluoedd yn gwrando ar y sefyllfa, yn awgrymu’r gefnogaeth orau i ti ac yn rhoi help i ti gael mynediad ato. Efallai bydd posib cael help gan dîm Helpu Teuluoedd Caerdydd neu’r tîm Cefnogi Teuluoedd mewn rhai achosion. Os nad yw’r gwasanaethau yma yn iawn i ti, bydd Swyddogion Cyswllt Porth i Deuluoedd yn gallu helpu ti i gael cefnogaeth o rywle arall.

Dwy flynedd o gefnogaeth

Ar Dachwedd 15fed 2021, dathlodd CACID dwy flynedd ers lansiad y gwasanaeth yn 2019. Yn y cyfnod yma mae Porth Teuluoedd Caerdydd wedi derbyn 250,000 o alwadau ac e-byst gan blant, pobl ifanc, rhieni ac oedolion sydd yn gweithio â theuluoedd. Ers hynny, mae CACID wedi ehangu’r gefnogaeth i gyrraedd anghenion plant a phobl ifanc yn well. Gwnaed hyn wrth:

  • Creu Tîm Cymorth Anabledd i Deuluoedd
  • Creu tîm o Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu
  • Creu tîm o Weithwyr Iechyd Meddwl Sylfaenol arbenigol

I ddathlu’r holl gymorth mae CACID yn ei ddarparu i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd, rydym wedi creu ymgyrch Cefnogi Pobl Ifanc Caerdydd. Dros y pythefnos nesaf bydd TheSprout yn rhannu gwybodaeth am y gwasanaeth CACID a sut i gael help pan fyddi di angen. Byddi di’n clywed gan rai o’r cynghorwyr CACID a gan lawer o bobl ifanc sydd wedi rhannu stori am gael help gan wasanaeth Cyngor a Chefnogaeth i Deuluoedd Caerdydd.

Ymgyrch Cefnogi Pobl Ifanc Caerdydd

Cymera olwg ar rai o’r straeon yma gan bobl ifanc Caerdydd am yr help derbyniwyd gan CACID:

Dal ddim yn siŵr os wyt ti am gysylltu â CACID? Cer draw i ddarllen rhai o’r blogiau yma gan gynghorwyr CACID am wybodaeth bellach am y profiad o gysylltu â nhw:

Gwybodaeth Berthnasol

Am y diweddaraf ar TheSprout, dilyna ni ar Twitter, Instagram a Facebook. Os wyt ti’n rhannu unrhyw beth o’r ymgyrch yma, sicrha dy fod di’n defnyddio’r hashnod #DdimYnUnigCACID.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd