Sienna: “Roedd Pethau’n Anodd yn yr Ysgol a fy Rhieni Wedi Gwahanu”

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r blog yma yn rhan o ymgyrch Cefnogi Pobl Ifanc Caerdydd ar TheSprout. Mae’n rhannu hanes Sienna sydd yn 13 oed, a gafodd cefnogaeth y Tîm Helpu Teuluoedd, rhan o wasanaeth Cefnogaeth a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd.

Pam wnes di gysylltu â Phorth i Deuluoedd Caerdydd?

Rhannodd Sienna ei bod yn, “stryglo yn yr ysgol ac roedd fy rhieni newydd wahanu. Roeddwn i’n cael fy mwlio ac nid oedd yr ysgol yn gwneud dim i helpu. Roedd y bwlio ar lafar a dwi ddim yn gwybod pam cefais fy nhargedu. Roeddwn yn ofn ac yn bryderus cynt.”

Cyn iddi dderbyn cefnogaeth, cysylltodd mam Sienna â Phorth i Deuluoedd Caerdydd i weld pa help oedd ar gael. Dywedodd Sienna, “clywais am CACID gan fod mam wedi ffonio. Fe wnaethoch chi ffonio yn ôl a siarad gyda fi, mam a fy chwaer ar y ffôn.”

Pa gefnogaeth derbyniais di?

“Siaradodd [y tîm CACID] a rhoi gwybod eu bod ar ochr arall y ffôn bob tro ac roeddent yn gefnogol iawn. Siaradais â nhw tair gwaith am yr ysgol a’r bwlio oedd yn digwydd yno, a fy mherthynas gyda dad.”

“Cafodd mam ei chyfeirio at wasanaethau eraill, gan gynnwys Snap Cymru, a dywedant y byddant yn cysylltu â’r ysgol.”

Sut mae’r gefnogaeth darparir gan CACID wedi dy helpu di a’r teulu?

Dywedodd Sienna, “dwi’n meddwl fod hyn wedi helpu fy nheulu gan ein bod ni dan straen mawr ac nid oeddem yn gwybod beth i wneud gyda phopeth oedd yn digwydd, fel yr holl bryder ac ati. Cysylltom â CACID a gwellodd pethau. Dysgais am yr holl gymorth gallant ei gynnig i ni.”

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i berson ifanc sydd yn profi heriau tebyg?

Yn dilyn ei phrofiad gyda CACID, roedd gan Sienna un darn o gyngor. “Y peth gora i wneud ydy siarad am y boen o bopeth sydd yn digwydd i ti. Byddwn yn argymell y gwasanaeth Helpu Teuluoedd.”

Gwybodaeth berthnasol

Mae hwn yn stori go iawn gan berson ifanc dderbyniodd cymorth gan Gyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd. I barchu preifatrwydd y bobl ifanc fu’n rhannu eu stori gyda ni, rydym wedi newid yr enwau i’w cadw’n ddienw. I ddarllen mwy o hanesion am sut mae CACID wedi helpu pobl ifanc a’u teuluoedd, clicia yma.

Am y diweddaraf ar TheSprout, dilyna ni ar TwitterInstagram a Facebook. Os wyt ti’n rhannu unrhyw beth o’r ymgyrch yma, sicrha dy fod di’n defnyddio’r hashnod #DdimYnUnigCACID.

I gysylltu gyda CACID am ddim galwa 03000 133 133 neu e-bostia ContactFAS@cardiff.gov.uk.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd