Caitlyn: Magu Hyder i Ddod o Hyd i Waith

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r blog yma yn rhan o ymgyrch Cefnogi Pobl Ifanc Caerdydd ar TheSprout. Mae’n rhannu hanes Caitlyn sydd yn 17 oed, a gafodd cefnogaeth y Tîm Helpu Teuluoedd, rhan o wasanaeth Cefnogaeth a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd.

Pam wnes di gysylltu â Phorth i Deuluoedd Caerdydd?

Daeth Caitlyn ar draws CACID, “ar ôl i mam ddweud bod rhywun yn dod i siarad gyda fi adref, lle roeddwn yn teimlo’n fwyaf cyfforddus.”

Rhannodd ei bod yn, “cysgu – ddim yn codi nac yn bod yn weithgar yn y dydd. Nid oeddwn yn hyderus yn ceisio am swyddi na chreu CV. Roedd cadw i fyny gyda gwaith ysgol yn anodd ac roeddwn yn poeni am ysgol flwyddyn nesaf. Nid oedd gen i hyder, roedd popeth yn teimlo’n ormod ac nid oeddwn yn gwybod sut i helpu fy hun.”

Pa gefnogaeth derbyniais di?

Helpodd CACID i Caitlyn, “greu CV, dod i ddeall beth sydd angen bod yn y ddogfen a sut i’w greu yn y dyfodol.”

Mae Cynghorydd Helpu Teuluoedd Caitlyn, Lauren, “wedi fy helpu i chwilio a gwneud ceisiadau am swyddi. Dwi wedi bod yn ymarfer beth sydd angen bod yn y cais a sut i ddod o hyd i’r wybodaeth yma.”

“Aethom ati i greu trefn newydd hefyd, oedd yn fy helpu i gysgu yn well, yn golygu byddaf yn fwy gweithgar yn ystod y dydd a gallwn wneud mwy i helpu fy hun.”

Sut mae’r gefnogaeth darparir gan CACID wedi dy helpu di a’r teulu?

Yn yr amser cafodd gymorth CACID, bu Caitlyn yn, “dysgu am CV’s a beth i gynnwys,” oedd yn gwneud iddi, “deimlo’n fwy hyderus am wneud ceisiadau am swyddi ac yn rhoi grym i mi i wneud pethau drosof i fy hun.” Dywedodd mai’r, “peth gorau am y gwasanaeth ydy dysgu.”

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i berson ifanc sydd yn profi heriau tebyg?

Os yw rhywun angen help mae Caitlyn yn dweud byddai’n “awgrymu iddynt siarad gyda Phorth i Deuluoedd Caerdydd neu’r Tîm Helpu Teuluoedd.”

Gwybodaeth berthnasol

Mae hwn yn stori go iawn gan berson ifanc dderbyniodd cymorth gan Gyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd. I barchu preifatrwydd y bobl ifanc fu’n rhannu eu stori gyda ni, rydym wedi newid yr enwau i’w cadw’n ddienw. I ddarllen mwy o hanesion am sut mae CACID wedi helpu pobl ifanc a’u teuluoedd, clicia yma.

Am y diweddaraf ar TheSprout, dilyna ni ar TwitterInstagram a Facebook. Os wyt ti’n rhannu unrhyw beth o’r ymgyrch yma, sicrha dy fod di’n defnyddio’r hashnod #DdimYnUnigCACID.

I gysylltu gyda CACID am ddim galwa 03000 133 133 neu e-bostia ContactFAS@cardiff.gov.uk.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd