Tomos: Cymorth i Fynd i’r Ysgol ar ôl Bod yn yr Ysbyty

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r blog yma yn rhan o ymgyrch Cefnogi Pobl Ifanc Caerdydd ar TheSprout. Mae’n rhannu hanes Tomos sydd yn 14 oed, a gafodd cefnogaeth y Tîm Helpu Teuluoedd, rhan o wasanaeth Cefnogaeth a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd.

Pam wnes di gysylltu â Phorth i Deuluoedd Caerdydd?

Dywedodd Tomos, “roedd mam eisiau i mi gael cymorth ar ôl bod yn yr ysbyty. Cysylltodd yr ysbyty â CACID ac yna cysylltodd Rita, Cynghorydd Helpu Teuluoedd, i roi cymorth i ni trwy sefyllfaoedd anodd. Siaradom am sut i fod yn sefydlog a phethau fel yna”.

Parhaodd, “dwi’n gwybod roeddwn yn bendant eisiau cymorth, ond nid oeddwn wedi disgwyl cymaint o gymorth a hyn. Roedd y cymorth yn bendant wedi helpu i mi beidio gorfeddwl a meddwl am dad.”

Pa gefnogaeth derbyniais di?

“Dwi’n cofio, rhoddodd Rita restr o wasanaethau fydda’n gallu helpu gyda thymer isel. Rhoddodd gyngor i mi oedd yn helpu i feddwl am bethau da, ac nid y pethau drwg. Gofynnodd gwestiynau oedd yn gadael i mi egluro fy ngwir deimladau,” meddai Tomos.

Dywedodd nad oedd y cynghorwyr yn dweud y drefn am “y pethau drwg rwyt ti wedi gwneud, ni fyddant yn barnu a byddant yn parhau i helpu ti i gael drwyddo.”

“Rhoddodd [y Cynghorydd Helpu Teuluoedd] gynllun i mi fedru dychwelyd i’r ysgol yn araf bach. Helpodd i ddweud wrth yr athrawon am fy mhroblemau a’r ffordd roeddwn i’n teimlo, ac roedd rhai o’r athrawon yn cefnogi mewn ffordd wahanol oherwydd hynny. Roedd yn hawdd siarad gyda Rita.”

Sut mae’r gefnogaeth darparir gan CACID wedi dy helpu di a’r teulu?

Rhannodd Tomos fod, “y gefnogaeth wedi gadael i mi ddysgu am y gwasanaethau gall helpu pan nad allai Rita. Gyda’r cymorth, daeth rhai o’n teulu yn fwy sefydlog. Roeddem yn siarad mwy gyda’n gilydd ac yn helpu ein gilydd mwy mewn sefyllfaoedd anodd, yn helpu ein gilydd i gael drwyddi.”

“Roedd pethau wedi gwella – roedd y cymorth wedi caniatáu i ni fod yn hapusach, yn gweithio gyda’n gilydd mwy, yn siarad â’n gilydd. Mae pawb yn eithaf parchus ac ati ar y funud,” eglurai.

“Y peth gorau ydy bod pawb yn fwy sefydlog nag yr oeddent ac mae hynny wedi helpu’r teulu i lynu at ei gilydd.”

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i berson ifanc sydd yn profi heriau tebyg?

Byddai Tomos yn, “annog unrhyw un i siarad gyda’r Porth neu CACID. Cadwa ati er mwyn cael yr help i ddod drwyddi, fe helpodd lot ac os wyt ti’n mynd drwy brofiad tebyg, gallant helpu ti hefyd.”

Gwybodaeth berthnasol

Mae hwn yn stori go iawn gan berson ifanc dderbyniodd cymorth gan Gyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd. I barchu preifatrwydd y bobl ifanc fu’n rhannu eu stori gyda ni, rydym wedi newid yr enwau i’w cadw’n ddienw. I ddarllen mwy o hanesion am sut mae CACID wedi helpu pobl ifanc a’u teuluoedd, clicia yma.

Am y diweddaraf ar TheSprout, dilyna ni ar TwitterInstagram a Facebook. Os wyt ti’n rhannu unrhyw beth o’r ymgyrch yma, sicrha dy fod di’n defnyddio’r hashnod #DdimYnUnigCACID.

I gysylltu gyda CACID am ddim galwa 03000 133 133 neu e-bostia ContactFAS@cardiff.gov.uk.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd