Cynghorydd Helpu Teuluoedd CACID Yn Ateb Eich Cwestiynau

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Dyma Oscar, Cynghorydd Helpu Teuluoedd o Wasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd (CACID), yn ateb cwestiynau cyffredin am gael help a chefnogaeth fel person ifanc yng Nghaerdydd.

Sut beth ydy bod yn Gynghorydd Helpu Teuluoedd yn CACID?

Pan fyddaf yn cyfarfod â pherson ifanc am y tro cyntaf, maent yn un ai’n gwenu, yn diflannu neu yn chwyrnu arna i – yn yr un ffordd mae’r Demogorgon yn chwyrnu ar Eleven yn y bennod yna o Stranger Things. Ond nid ydynt yn ceisio bwyta fi, diolch byth! Tybiaf fod hynny’n gam cyntaf positif iawn wrth i mi geisio dod i’w hadnabod!

Mae bod yn Gynghorydd Helpu Teuluoedd yn gallu bod yn hwyl, yn gweithio gyda phobl ifanc, ond mae’n bendant yn anodd ar adegau. Pan fyddaf yn siarad gyda phlentyn neu berson ifanc, rwy’n hoffi dychmygu mod i’n fath o Sensei… fel Daniel Larusso o Cobra Kai, neu’r un mwy cŵl efallai, Johnny Lawrence. Fy swydd ydy ceisio cael dylanwad positif ar bobl ifanc wedi’r cwbl, bod hynny’n goroesi bwlio, gweithio gyda ffrindiau neu deulu i ymdopi gyda’r berthynas, neu ddysgu sut i ddod dros feddyliau a theimladau trist. Ond ni fyddaf yn eu dysgu sut i gicio rhywun yn y pen. Nid yw cicio rhywun yn y pen yn datrys dim, byth!

There is a blue sky background with white fluffy cloud. At the foreground is a wooden signpost with directions labels reading help, support, advice, and guidance, painting in various directions.

Sut ydyn ni’n siarad?

Cyn i’r pandemig Covid newid ein bywydau am byth, roeddwn yn ymweld â phobl ifanc gartref yn aml. Ond bellach, rwy’n siarad gyda nhw ar  ffôn, trwy neges WhatsApp, neu drwy alwad fideo Teams ran amlaf. Rwy’n falch iawn bod hyn yn llwyddiannus ac yn rhoi cyfle i’r bobl ifanc rannu eu problemau a sut maent yn teimlo medrwn ni helpu.

Yn amlwg, nid yw pawb yn gwybod sut gallem helpu yn union, ond mae hynny’n iawn. Maent yn cael digon o gyfle i siarad a gallem ni feddwl am hynny wrth i ni symud ymlaen.

Oes posib cyfarfod wyneb i wyneb?

Er bod y mwyafrif yn cael ei wneud dros y ffôn, weithiau mae person ifanc yn awyddus i gyfarfod wyneb i wyneb. Bryd hynny byddaf yn mynd allan i’w gweld, i gerdded yn y parc efallai neu gael sgwrs yn y tŷ.

Shot of middle aged male facing away from the screen talking to a younger teenage boy facing toward the screen. They are sat at a wooden table conversing.

Ydych chi’n rhannu’r hyn rydym yn siarad amdano?

Mae ein sgwrs ni yn gyfrinachol, sydd yn golygu na fyddaf yn dweud wrth dy rieni, athrawon, ffrindiau neu gymdogion. Ond os wyt ti’n dweud rhywbeth sydd yn gwneud i mi boeni am dy ddiogelwch, yna mae’n ddyletswydd arna i i ddweud wrth rywun fydd yn gallu helpu!

Ydy fy nheulu yn gallu bod yn rhan o hyn?

Dwi’n credu, dim ond pan fydd pawb yn y cartref wedi derbyn help hefyd, yw pan fydd rhywun wedi ei helpu go iawn. Gan fod pawb yn y teulu yn bwysig, rwyf hefyd yn rhoi cyfle i aelodau’r teulu (mam, dad, mam-gu, tad-cu, brodyr a chwiorydd ayb) siarad â fi hefyd.

Cymhara derbyn help fel trwsio car. Pe bai ti’n newid yr olwynion fflat i gyd, yn glanhau’r dash, yn rhoi sglein ar y ci nodio yn y sedd cefn, ond ddim yn trafferthu trwsio’r injan, yna ni fydda’r car yn mynd i unlle. Mae hyn yn debyg gyda theulu… ish.

Family photography consisting of 4 family members sat on the sofa and smiling for a photograph. A young boy is on the left, with his dad next to him. The mother is next to the dad, and lastly, on the far right is another teenage boy, older than the first.

Am ba hyd ydw i’n cael help?

Byddi di’n falch o glywed bod posib i ni weithio gyda thi am 12 wythnos. Efallai bod hyn yn golygu siarad gyda thi unwaith neu sawl gwaith yr wythnos. Efallai byddem yn gweithio â’n gilydd am 12 wythnos neu efallai byddi di’n teimlo dy fod wedi cael yr help rwyt ti angen mewn 3 wythnos.

Yn ogystal, nid oes rhaid i ti wneud unrhyw waith diflas chwaith! Dim llenwi taflenni neu ysgrifennu pethau i lawr. Ni sydd yn gwneud y rhan yno, felly fe gei di ganolbwyntio ar dy waith cartref a dyfalu sut y bydd Stranger Things yn gorffen, neu os yw Daniel a Johnny yn dod yn ffrindiau da.

Os wyt ti’n penderfynu nad wyt ti eisiau gweithio gyda ni (er ein bod ni’n eithaf cŵl), nid oes rhaid i ti.

Sut yn union ydych chi’n helpu?

Rydym yn gallu helpu mewn sawl ffordd. Gall fod yn:

  • Siarad gyda thi a chynnig cyngor
  • Mynychu cyfarfod ysgol gyda thi, neu ar dy ran
  • Cyfeirio at wasanaeth penodol sydd yn arbenigo yn y fath o help rwyt ti angen
  • A llawer mwy!

Mae gan bobl gwahanol sgiliau a gallu. Mae’n debyg na fyddet ti eisiau help yr athro maths gyda gwaith cartref celf. Byddai’n well i’r athro maths siarad gyda’r athro celf a chael nhw i helpu ti gyda’r pwnc penodol yna. Ac mae hyn yn wir i ni hefyd. Os ydym ni’n gallu helpu, yna mi fyddem. Os ddim, yna gallem ddarganfod rhywun sydd yn gallu!

Image of 2 people talking whilst sat on opposite ends of the sofa. One lady is wearing a white shirt and is holding notepad and pen. The other is a teenage girl who is wearing a pink hoodie and jeans, smiling at the woman.

Sut ydw i’n cael Cynghorydd Helpu Teuluoedd?

Os yw rhywun sydd yn gweithio gyda thi neu dy deulu (fel athro, nyrs, gweithiwr ieuenctid, ayb) yn meddwl dy fod angen help, yna gallant gysylltu â gwasanaeth Porth i Deuluoedd i wneud cyfeiriad.

Neu, mae posib i oedolyn yn dy deulu gysylltu a dweud, ‘Oi, ti! Ia, ti! Rydym angen help!’. Bydd Swyddog Cyswllt Porth i Deuluoedd yn ysgrifennu’r help rwyt ti angen ac yna bydd y wybodaeth (y cyfeiriad) yn dod at ein tîm (Y Tîm Helpu Teuluoedd). Yna byddi di, neu aelod o dy deulu, yn derbyn galwad gan rywun fel fi, a gallem ddechrau helpu.

Fedri di hefyd gyfeirio dy hun fel plentyn neu berson ifanc. Mae posib gwneud hynny wrth ffonio Porth i Deuluoedd ar 03000 133 133 neu e-bostio ar ContactFAS@cardiff.gov.uk

Sylwadau olaf

Felly, dyna ni gen i. Dwi’n gobeithio mod i wedi ateb rhai o dy gwestiynau ac wedi rhoi digon o hyder i ti siarad gydag un ohonom (Gweithiwr Helpu Teuluoedd) os wyt ti’n dymuno. A chofia, yn ogystal â thrafod dy bryderon, rydym hefyd yn ddigon awyddus i drafod y gyfres Netflix diweddaraf… ond paid sbwylio’r diwedd! Edrychwn ymlaen at gyfarfod gyda thi yn y dyfodol.

Gwybodaeth berthnasol

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Cefnogi Pobl Ifanc Caerdydd. Am wybodaeth bellach ar yr ymgyrch ac i ddarllen straeon go iawn gan bobl ifanc sydd wedi derbyn help CACID, clicia yma.

Am y diweddaraf ar TheSprout, dilyna ni ar Twitter, Instagram a Facebook. Os wyt ti’n rhannu unrhyw beth o’r ymgyrch yma, sicrha dy fod di’n defnyddio’r hashnod #DdimYnUnigCACID.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd