Dafydd: “Roedd yn Anodd Canolbwyntio a Rheoli Emosiynau”

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r blog yma yn rhan o ymgyrch Cefnogi Pobl Ifanc Caerdydd ar TheSprout. Mae’n rhannu hanes Dafydd sydd yn 12 oed, a gafodd cefnogaeth y Tîm Helpu Teuluoedd, rhan o wasanaeth Cefnogaeth a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd.

Pam wnes di gysylltu â Phorth i Deuluoedd Caerdydd?

Eglurai Dafydd fod, “mam wedi ffonio Porth i Deuluoedd Caerdydd am nad oeddwn i’n gallu canolbwyntio. Nid oedd yn hawdd canolbwyntio na rheoli fy emosiynau. Dywedodd mam bod rhywun o’r tîm Helpu Teuluoedd am gyfarfod â mi a rhoi cymorth a help i mi.”

Pa gefnogaeth derbyniais di?

Derbyniodd Dafydd gymorth drwy “waith wyneb i wyneb” gyda “7 sesiwn yn ein tŷ ni”. Roedd y sesiynau yn “ymwneud â’m hemosiynau a’m mherthnasau. Roedd yn help i mi feddwl beth allwn i wneud ac i ddod i ddeall fy emosiynau.”

Eglurodd ei fod yn teimlo’n gyfforddus gyda’i gynghorydd tîm Helpu Teuluoedd, yn dweud bod, “y berthynas wedi helpu gan nad oeddwn i dan unrhyw bwysau nac yn teimlo straen yn gwybod na fyddai Lauren yn barnu. Roeddem yn rhannu jôcs ac yn chwerthin ac roeddwn yn gallu bod yn fi fy hun o’i chwmpas, a pheidio poeni. Felly, atebais y cwestiynau a ofynnwyd ac roeddwn wedi ymlacio’r mwyafrif o’r amser.”

Yn ystod y sesiynau, “roeddem yn chwarae gemau fel Uno, Donkey, Yu-gi-oh! a Charreg, Papur, Siswrn” gyda’r cynghorydd o’r tîm Helpu Teuluoedd.

Sut mae’r gefnogaeth darparir gan CACID wedi dy helpu di a’r teulu?

Yn dilyn y sesiynau, dywedodd Dafydd ei fod yn deall, “sut i adnabod pa emosiwn rwyf yn teimlo a beth yw ffrind da, a sut i fod yn ffrind da.”

Bellach mae’n dweud, “rwy’n well yn adnabod emosiynau, yn cymryd seibiant a sut i dynnu fy hun allan o sefyllfa neu ffrae cyn iddo fynd yn waeth.”

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i berson ifanc sydd yn profi heriau tebyg?

Mae Dafydd yn awgrymu, os wyt ti mewn sefyllfa debyg, y dylet ti, “siarad â rhywun, efallai gwasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd.

Gwybodaeth berthnasol

Mae hwn yn stori go iawn gan berson ifanc dderbyniodd cymorth gan Gyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd. I barchu preifatrwydd y bobl ifanc fu’n rhannu eu stori gyda ni, rydym wedi newid yr enwau i’w cadw’n ddienw. I ddarllen mwy o hanesion am sut mae CACID wedi helpu pobl ifanc a’u teuluoedd, clicia yma.

Am y diweddaraf ar TheSprout, dilyna ni ar TwitterInstagram a Facebook. Os wyt ti’n rhannu unrhyw beth o’r ymgyrch yma, sicrha dy fod di’n defnyddio’r hashnod #DdimYnUnigCACID.

I gysylltu gyda CACID am ddim galwa 03000 133 133 neu e-bostia ContactFAS@cardiff.gov.uk.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd