Ellen: “Teimlo’n Drist Heb Neb i Siarad â Nhw”

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r blog yma yn rhan o ymgyrch Cefnogi Pobl Ifanc Caerdydd ar TheSprout. Mae’n rhannu hanes Ellen sydd yn 18 oed, a gafodd cefnogaeth y Tîm Helpu Teuluoedd, rhan o wasanaeth Cefnogaeth a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd.

Pam wnes di gysylltu â Phorth i Deuluoedd Caerdydd?

Roedd Ellen newydd ddweud wrth yr heddlu bod ei chynbartner wedi ymosod arni’n rhywiol. Cafodd ei chyfeirio at y Ganolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol ond dywedodd na chafodd gefnogaeth ac roedd yn teimlo’n hynod o “unig a thrist, heb neb i siarad â nhw. Cafodd wybod am CACID yn dilyn cyfeiriad gan yr heddlu am gefnogaeth.

Roedd yn byw gyda’i mam-gu a thad-cu pan ofynnodd am gefnogaeth CACID. Ei mam-gu oedd yr un anogodd iddi siarad gyda Chynghorydd Helpu Teuluoedd i alluogi iddi fod yn fwy annibynnol.

Pa gefnogaeth derbyniais di?

Eglurodd Ellen bod ganddi rywun yn gwrando arni o’r diwedd, rhywun oedd yn poeni am y ffordd roedd yn teimlo. Dywedodd ei bod wedi derbyn llawer o gefnogaeth emosiynol gan un o’r Cynghorwyr Helpu Teuluoedd, a helpodd wrth:

  • Dysgu technegau anadlu
  • Gwrando ar ei phrofiadau trawmatig
  • Caniatáu iddi gysylltu dros neges testun yn lle galwad ffôn
  • Helpu gyda choleg a diweddaru ei CV

Sut mae’r gefnogaeth darparir gan CACID wedi dy helpu di a’r teulu?

Heb y Cynghorydd Helpu Teuluoedd, roedd Ellen yn dweud byddai ei iselder wedi bod yn llawer gwaeth.

Dywedodd bod y cynghorydd wedi rhoi hyder iddi ddweud wrth ei theulu (yn enwedig mam)  i beidio rhoi pwysau arni i ddatrys problemau ei mam. Eglurodd Ellen ei bod wedi gallu gosod ffiniau gyda’r teulu a thynnu ei hun o sefyllfaoedd nad oedd angen iddi fod yn rhan ohonynt.

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i berson ifanc sydd yn profi heriau tebyg?

Byddai Ellen yn awgrymu CACID ac yn egluro bod ei Chynghorydd Helpu Teuluoedd wedi ei helpu’n fawr a bod gwasanaethau eraill ddim wedi bod mor gynorthwyol. Teimlodd fel bod y Cynghorydd Helpu Teuluoedd yn wirioneddol poeni am ei theimladau ac yn cysylltu i weld sut oedd hi’n aml.

Gwybodaeth berthnasol

Mae hwn yn stori go iawn gan berson ifanc dderbyniodd cymorth gan Gyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd. I barchu preifatrwydd y bobl ifanc fu’n rhannu eu stori gyda ni, rydym wedi newid yr enwau i’w cadw’n ddienw. I ddarllen mwy o hanesion am sut mae CACID wedi helpu pobl ifanc a’u teuluoedd, clicia yma.

Am y diweddaraf ar TheSprout, dilyna ni ar TwitterInstagram a Facebook. Os wyt ti’n rhannu unrhyw beth o’r ymgyrch yma, sicrha dy fod di’n defnyddio’r hashnod #DdimYnUnigCACID.

I gysylltu gyda CACID am ddim galwa 03000 133 133 neu e-bostia ContactFAS@cardiff.gov.uk.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd