Cwestiynau Cyffredin

Cofrestru

Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair. Help!

Os wyt ti wedi anghofio dy gyfrinair, clicia ‘Cofrestru/Mewngofnodi’ ar dop ochr dde’r dudalen a cheisia mewngofnodi. Os wyt ti wedi anghofio dy gyfrinair, gallet fynd i’r ardal mewngofnodi. Yma bydd posib creu cyfrinair newydd.

Beth fydd yn cael ei wneud a'm data?

Ni fyddem yn rhannu manylion gydag unrhyw drydydd parti, nac yn cysylltu heb ganiatâd. Mae preifatrwydd yn bwysig i ni a bydd dy wybodaeth yn cael ei gadw’n ddiogel. Yr unig dro bydd rhywbeth yn cael ei basio ymlaen ydy os ydym yn pryderu dy fod di, neu rywun arall, mewn perygl o niwed difrifol.

Beth sy'n cael ei yrru os ydw i'n cofrestru i'r rhestr bostio?

Weithiau bydd theSprout yn cysylltu gyda newyddion a diweddariadau ar y prosiect. Mae posib dad-danysgrifo ar unrhyw adeg wrth glicio ar y ddolen dad-danysgrifio ar waelod yr e-bost.

Pam ydych chi'n gofyn yr holl gwestiynau yma?

Rydym yn awyddus i ddysgu mwy amdanat ti, defnyddwyr theSprout, i sicrhau bod y gwasanaeth yn un yr wyt ti eisiau, a’n bod yn gwneud newidiadau i gyrraedd dy anghenion. Rydym hefyd angen gwybodaeth i weld faint o bobl ifanc sydd yn defnyddio theSprout ac efallai byddem yn gofyn i ti gwblhau arolwg sydyn weithiau i gasglu adborth a barn. Paid poeni, ni fyddem yn rhannu dy fanylion, ac efallai bydd posib i ti ennill gwobrau cŵl!

Cyffredinol

Beth ddigwyddodd i'r hen wefan?

Newyddion da bawb! Gellir edrych ar hen fersiwn theSprout wrth glicio yma.

Rwyf wedi ysgrifennu rhywbeth ar yr hen wefan, ydy hwn dal ar gael?

Ydy wir! Mae posib chwilio fersiwn archif theSprout yma.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd