Canllaw Arddull theSprout

Canllaw Arddull theSprout

Nodyn: Cyn darllen, noda mai bwriad y canllaw yma ydy fel teclyn cyfeirio a ni ddylid gadael i hyn atal ti rhag cyfrannu. Mae’n bodoli os wyt ti eisiau gwella dy ysgrifennu, ond cofia bod ein tîm o olygyddion yn gallu gwneud y mwyafrif o’r hyn ar dy ran.

Bydd y canllaw yma yn helpu ti i ysgrifennu a llwytho erthyglau ar theSprout. Mae’n cynnwys pethau fel nifer geiriau, atalnodi, copïo a gludo, athrod, cyfieithu, delweddau a fideos, hawlfraint a chynllun. Mae’r canllaw yn un syml, ond os wyt ti eisiau gwybodaeth bellach ynglŷn â llwytho cynnwys neu am theSprout yn gyffredinol, darllena ein Cwestiynau Cyffredin, Amodau a Thelerau a Pholisi Defnydd Derbyniol.

Os wyt ti’n meddwl bod yna rhywbeth ar goll yn y canllaw yma, neu os oes unrhyw ran ohono yn aneglur i ti, paid oedi ac e-bostia: info@sprout.co.uk, neu galwa’r swyddfa ar 029 2046 2222.

Rydym yn awgrymu ysgrifennu erthyglau yn Microsoft Word i gychwyn, fel bod yna ffeil wrth gefn all-lein rhag i rywbeth ddigwydd (fel rhywun yn diffodd y Rhyngrwyd!).

###

4. Safoni

Nid oes dim yn cael ei osod yn fyw ar y wefan cyn iddo gael ei wirio a’i gymeradwyo gan ein tîm cynnwys. Ble’n bosib, byddem wastad yn gosod erthygl yn fyw, ond ar brydiau byddem yn cysylltu os oes rhywbeth yn anaddas neu’n aneglur.

###

5. Newyddion/Ysbrydoliaeth

Mae yna gynnwys ymhobman, ac mae’n haws nac erioed i’w ddilyn yn oes y ffôn clyfar, negeseuon testun, Twitter a Facebook. Os wyt ti eisiau ysgrifennu erthygl, meddylia am y gynulleidfa targed o bobl ifanc 11 i 25 oed yng Nghaerdydd.

###

6. Beth sy’n gwneud rhywbeth yn ddiddorol?

Pam fydda rywun eisiau darllen dy erthygl? A yw’n ddeniadol ac yn addysgiadol? A yw’n archwilio pwnc ac yn datgelu pethau nad yw’r mwyafrif yn ymwybodol ohono? Fyddet ti’n ei ddarllen dy hun? Byddai’n fuddiol gwybod y pethau yma cyn cychwyn.

###

7. Ymchwil

Mae’n debyg nad ti yw’r person mwyaf profiadol yn y byd ar y pwnc, ac felly efallai byddi di angen gwybodaeth cefndir. Sicrha bod dy ffeithiau a dy ffigyrau yn gywir, a chofia bod pobl yn gallu gadael sylwadau dan yr erthyglau a nodi unrhyw wallau.

###

8. Pigion gorau

Mae hwn yn erthygl hirach, sydd o bosib ddim yn un ar faterion cyfoes ond yn un fydd o ddiddordeb i bobl, hyd yn oed os nad yw’n rhywbeth sydd o ddiddordeb iddynt yn arferol. Os hoffet awgrymu rhywbeth fel Pigion gorau, gyrra e-bost: info@theSprout.co.uk

###

9. Teitl yr erthygl

…neu bennawd. Dyma pryd bydd angen defnyddio dy ddychymyg i feddwl am rywbeth byr sydd yn tynnu sylw. Ceisia gadw hyn i 6 air neu lai, ond paid poeni gormod, gallem ni wneud hyn ar dy ran.

###

10. Ysgrifennu’r erthygl

Awgrymwn yn gryf i ti ysgrifennu dy erthygl yn Word neu debyg, a’i arbed wrth i ti fynd. Golygai hyn bod yna gopi pendant. Gellir copïo a gludo hwn wedyn i mewn i’r dudalen Ychwanegu Darn Newydd ar SRhC (System Rheoli Cynnwys) theSprout – rwyt ti’n cael mynediad i hwn ar ôl cofrestru ac ar ôl actifadu dy gyfrif. Fel arall copïa ef i’r ffurflen gyswllt.

###

11. Is-benawdau

Gall wal fawr o destun fod yn anodd ei ddarllen ac yn aml bydd pobl yn sgimio erthyglau ar-lein. Mae cyflwyno is-benawdau sydd yn crynhoi beth sydd i ddod nesaf yn y testun neu ddewis dyfynodau da a’u rhoi mewn testun mwy, yn gallu helpu torri’r erthygl yn ddarnau a’i wneud yn haws i’w ddarllen.

###

12. Dy bersonoliaeth

Plîs, plîs, rho ychydig o dy bersonoliaeth i mewn i’r erthygl. Rydym yn annog hyn. Os yw’r pwnc wedi cael effaith arnat ti, dweud hynny ac eglura sut. Bydda’n bryfoclyd a hunandybus, heb fod yn ddigywilydd na’n sarhaus.

###

13. Rhegi

Ni chaniateir rhegi cryf ar theSprout oherwydd oedran rhai o’r darllenwyr (11-25). Os wyt ti’n teimlo fel bod rhaid i ti regi, cadwa hynny’n ysgafn a sicrhau ei fod yng nghyd-destun dy erthygl, ond nid allem addo y bydd yn cael ei gynnwys. Mae’n eithaf tebyg y byddem yn defnyddio sêr bach fel hyn *** ar gyfer y rhegi mawr. Trafodir hyn yn aml yn ein cyfarfodydd grŵp golygyddol.

###

14. Deunydd sarhaus

Ni fydd erthyglau neu sylwadau (gweler pwynt 31) sydd yn cynnwys deunydd bygythiol, bwlio, homoffobig, hiliol, neu debyg, yn cael eu gosod yn fyw.  Rydym yn trafod deunydd sydd ar y ffin yn ein cyfarfodydd grŵp golygyddol.

###

15. Cyffuriau, alcohol, tybaco, trais, pornograffi, gamblo ayb.

Bydd erthyglau neu ddelweddau sydd yn gogoneddu unrhyw un o’r uchod yn cael eu golygu yn drwm ac mae’n debyg na fyddant yn cael eu cyhoeddi am yr un rheswm â rhegi. Ond, os wyt ti’n ysgrifennu stori gytbwys ac addysgiadol am unrhyw un o’r uchod, byddem yn hapus i gefnogi hynny. Rydym yn trafod deunydd sydd ar y ffin yn ein cyfarfodydd grŵp golygyddol.

###

16. Barn grefyddol a gwleidyddol

Beth bynnag yr wyt ti’n ei gredu, bydda’n barchus o gred pobl eraill.

###

17. Nifer geiriau

Er nad oes nifer gosodedig o eiriau ar gyfer erthyglau, os mai  ychydig iawn o frawddegau ydyw yna bydd y darn yn rhy fyr. Canllaw bras ydy lleiafswm o 250 o eiriau ar gyfer erthygl safonol (gall cerddi fod yn llawer llai).

###

18. Sillafu ac atalnodi

Paid poeni os nad wyt ti’n gallu sillafu neu atalnodi’n dda iawn. Mae gennym olygyddion fydd yn gallu cywiro camgymeriadau. Ond paid defnyddio iaith neges testun (LOLZ/PMSL) nac wynebau gwenu (ond caniateir hyn yn y blychau sylwadau o dan yr erthyglau).

###

19. Cynllun yr erthygl

Yn ogystal ag is-benawdau (gweler 11 uchod), defnyddia brawddegau a pharagraffau byr gan eu bod yn fwy cyfeillgar i’r llygaid ac yn edrych yn well ar y dudalen. Paid poeni’n ormodol am hyn gan y gallem helpu golygu’r erthygl. Gallet ti ddefnyddio lluniau a fideos (gweler 32 i 37 isod) yn yr erthyglau i’w wneud yn fwy darllenadwy a gwella edrychiad yr erthygl.

###

20. Copïo a gludo

Paid copïo a phastio mwy nag ychydig eiriau o destun o wefannau eraill. Llên-ladrad yw hyn ac mae’n gallu cael rhywun i drafferth. Eithriad i hyn ydy pan fyddi di’n dyfynnu rhywun, ond rho enw’r wefan sydd yn cael ei ddefnyddio (mewn cromfachau) ar ôl y dyfyniad.

###

21. Ebychnodau

Efallai dy fod di’n ysu i roi ebychnod ar ddiwedd pob brawddeg er mwyn cyfleu dy emosiynau, ond mae hyn yn ddiangen. Bydd pobl yn teimlo dy angerdd, hiwmor neu anghred cystal hebddynt.

###

22. Priflythrennu geiriau

Yn yr un modd ag ebychnodau, nid oes angen priflythrennu geiriau er mwyn cyfleu dig neu rwystredigaeth. Mae’n edrych yn flêr ar y tudalen ac yn cyfleu dy fod di’n gwaeddi ar y gynulleidfa.

###

23. Clichés

Nid allech chi fforddio methu hyn… gwledd i’r teulu oll… am amser da, tyrd draw… Byddai’n well osgoi’r clichés hyn. Mae geiriau fel anhygoel, gwych a syfrdanol yn iawn, ond ceisia ddefnyddio disgrifiad i gyfleu dy bwynt.

###

24. Ailadrodd

Mae’n hawdd ailadrodd geiriau a brawddegau, yn enwedig wrth ysgrifennu erthygl hir. Awgrym da fydda ddarllen yr erthygl yn uchel i aelod o’r teulu neu ffrind, a defnyddio thesawrws i helpu dewis gair gwahanol.

###

25. Athrod

Mae athrod yn ddatganiad neu adroddiad maleisus, anwir a difenwol – sef cyhuddo rhywun o wneud rhywbeth heb unrhyw dystiolaeth na rheswm da. Gall hyn gael ti (a ni) i drafferthion.

###

26. Teitlau ffilmiau, llyfrau, teitl swyddi ayb.

Dylid braslythrennu cychwyn pob gair a’i italeiddio e.e. Harri Potter ac Maen yr Athronydd. Nid oes angen gosod teitlau mewn ‘dyfynodau’.

###

27. Pwyntiau bwled

• Mae angen priflythyren ar y cychwyn ond dim atalnod llawn ar y diwedd

###

28. Adolygiadau

Os wyt ti’n adolygu rhywbeth (ffilm/cerddoriaeth/gig/llyfr/sioe) cofia gynnwys dolenni i wefannau a phethau fel oedran addas a pa mor hir ydy ffilmiau. Gellir hefyd cynnwys fideo o’r hysbyslun (neu fideo cerddoriaeth y band) – gweler pwynt 33.

###

29. Dolenni

Dylid cynnwys dolenni ymhob erthygl. Wrth ysgrifennu rho’r dolenni mewn cromfachau ar ôl y testun perthnasol. Yna mae posib hypergysylltu’r dolen pan fydd yr erthygl yn cael ei gosod (neu gallem ni wneud hynny os wyt ti’n defnyddio’r ffurflen gyswllt).

###

30. Cyfieithu

Os wyt ti’n gallu ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg byddai’n wych gweld erthygl yn ddwyieithog. Os ddim, bydd erthyglau penodol, fel arfer Pigion Gorau (gweler 8 uchod), yn cael ei gyfieithu mewn tro.

###

31. Sylwadau

Ar waelod holl erthyglau byw mae yna flwch lle gall pobl adael sylwadau. Mae croeso i ti ymateb i sylwadau ond cofia ymddwyn yn dda a chofia bod sylwadau hefyd yn cael eu gwirio cyn mynd yn fyw. Bydd angen i ti gofrestru gyda Disqus i ddefnyddio’r adran sylwadau ac awgrymir yn gryf i ti ddefnyddio cyfeiriad e-bost ac i beidio defnyddio dy wir enw.

###

32. Maint delweddau

Gellir llwytho delweddau JPG, PNG neu GIF (ia, gifs wedi’u hanimeiddio hefyd) ac o faint gweddus: tua 1000 picsel yn llydan. Bydd delweddau llai yn pylu os defnyddir fel lluniau clawr, ond gellir defnyddio’r rhain o fewn yn erthyglau (alinio’r rhain yn y canol). Os ydynt yn rhy fawr ni fydd yn wefan yn gallu ymdopi (8mb ydy’r cyfyngiad llwytho). Mae unrhyw beth dros 1500 picsel yn gallu achosi problemau. Paid poeni os nad allet ti ddod o hyd i ddelweddau, gallem wneud hyn ar dy ran.

###

33. Newid maint a golygu delweddau

Mae yna swyddogaeth fewnol yn y SRhC (System Rheoli Cynnwys – sef pen cefn y wefan) i gropio a newid maint lluniau. Lluniau tirlun a siâp blwch postio sydd orau, gan fod llawer o luniau hir tenau yn golygu llawer o sgrolio. Gallet ti hefyd ddefnyddio gwefan fel pixlr.com i olygu a newid maint llun os yw’n rhy fawr i’w lwytho (gweler pwynt 32 uchod).

###

34. Hawlfraint

Os nad wyt ti’n llwytho delweddau dy hun, bydd angen caniatâd y perchennog. Os nad wyt ti wedi gwneud hyn, paid llwytho’r llun, neu ychwanegu’r ddolen i’r llun a chyfeiriad y wefan yn dy erthygl a gallem edrych yn fwy manwl i’r peth. Mwy o fanylion am hawlfraint yma

###

35. Y ‘Creative Commons’

Mae’r ‘Creative Commons‘ yn ffordd boblogaidd i rannu gwaith creadigol. Mae’r artistiaid yn caniatáu i bobl ddefnyddio eu delweddau os ydynt yn rhoi credyd iddynt a’u bod yn dilyn rhestr syml o reolau. Rydym yn awgrymu Compfight.com i chwilio am ddelweddau CC ar Flickr.

###

36. Rhoi credyd i ffotograffwyr ac artistiaid

Os wyt ti’n defnyddio llun rhywun arall (gyda chaniatâd) bydd angen ychwanegu dolen i’w tudalen o dan y ddelwedd er mwyn credydu’r person. Mae hyn yn bwysig gan fod angen y credyd yma ar bob llun Creative Commons i’w defnyddio ar theSprout.

###

37. Llwytho fideo

Os wyt ti’n copïo a glynu cyfeiriad URL y fideo oddi ar YouTube neu Vimeo i mewn i’r erthygl ar y SRhC (pen cefn y wefan) yna mae hyn yn ei fewnosod yn awtomatig. Ond sicrha fod gen ti a) ganiatâd i’w ddefnyddio, b) nad yw’n cynnwys unrhyw beth sarhaus c) bod mewnosod ddim wedi cael ei analluogi (nad wyt ti’n cael copïo’r fideo o YouTube / Vimeo).

Os oes yna unrhyw beth yn y Canllaw Arddull yma (neu theSprout yn gyffredinol) rwyt ti’n ansicr amdano, e-bostia info@theSprout.co.uk neu galwa’r swyddfa ar 029 2046 2222 a bydd un o’r tîm yn hapus i helpu.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd