Amodau a Thelerau

Polisi Preifatrwydd

Mae preifatrwydd ein defnyddwyr yn bwysig i ni ac rydym yn gofalu ein bod yn ei ddiogelu. O dan Ddeddf Gwarchod Data 1998, mae gennym oblygiadau cyfreithiol tuag atat ti yn y modd yr ydym yn ymdrin â data a gesglir gennyt. Rydym yn defnyddio’r technolegau diweddaraf a meddalwedd encryptio i ddiogelu dy ddata, ac yn cadw safonau diogelwch llym i atal unrhyw fynediad heb ei awdurdodi ato. Nid ydym yn trosglwyddo dy fanylion i unrhyw drydydd parti nac adran o’r llywodraeth oni bai dy fod yn rhoi caniatâd inni wneud hynny, neu ein bod o dan rwymedigaeth neu y caniateir inni eu datgelu yn ôl y gyfraith.

Pan ydwyt yn gofrestru fel defnyddiwr, byddwn yn casglu’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i roi’r gwasanaeth sy’n cynnwys fel isafswm, dy enw a dy gyfeiriad e-bost. (Gofynnir i sefydliadau lenwi ffurflen gofrestru CLICarlein). Wedi i ti gofrestru, gallet ailedrych ar dy broffil unrhyw bryd i ddiwygio’r manylion hyn neu i roi manylion ychwanegol.

Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth gennyt os ydwyt yn llenwi unrhyw ffurflenni eraill ar ein safle neu os cysyllta â ni gyda sylwadau neu geisiadau penodol. Rydym yn defnyddio dy wybodaeth bersonol i ddarparu gwasanaeth a bersonolir i bob un o’n hymwelwyr. Rydym hefyd am roi rheolaeth i ti ar beth a dderbyniwyt o ganlyniad i gofrestru gyda CLICarlein. Rydym yn casglu gwybodaeth yn awtomatig am dy ymweliad i’n safle. Defnyddir yr wybodaeth hon i wneud dy ymweliad i’n safle mor effeithlon â phosibl, ac i’n helpu i ddilyn hoffterau pori ar ein safle fel y gallwn wneud gwelliannau rheolaidd.

Dolennau

Trwy gydol y gwefan byddi di’n darganfod dolennau hyperdestun i leoliadau eraill ar y Rhyngrwyd. Defnyddir y dolennau hyn i bwrpas gwybodaeth yn unig ac ni chymerir unrhyw restriad fel cefnogaeth o unrhyw fath.

Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau bod y dolennau hyn yn briodol ar yr adeg y gosodir nhw. Nid yw TheSprout o anghenraid yn cytuno gyda’r farn a fynegir o fewn y gwefannau cysylltiedig hyn ac nid oes gan CLICarlein unrhyw reolaeth drostynt.

Ni all TheSprout warantu fod y dolennau hyn yn ddibynadwy na p’run ai ydynt yn gweithio ai peidio bob amser.

Cwcis

Mae llawer o wefannau yn gosod cwcis pryd bynnag y mae defnyddiwr yn ymweld â’u safle, er mwyn tracio llif y drafnidiaeth. Mae cwcis yn ffeiliau testun sy’n adnabod dy gyfrifiadur i’r serfiwr. Gall TheSprout ddefnyddio cwcis o bryd i’w gilydd ond dim ond i wneud dy brofiad o’r we yn well. Nid ydym yn tracio ymwelwyr unigol ar y we.

Os hoffet wybod mwy am cwcis cer i AboutCookies.org.

Cais am Wybodaeth

Gallwch ofyn am gopi o’r wybodaeth sydd gennym amdanat ti unrhyw bryd (gallwn godi tâl bach amdano). Byddwn hefyd yn cywiro unrhyw wallau yn dy wybodaeth pan wna di gais am hynny.

Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd

Os gwnawn newidiadau i’n Polisi Preifatrwydd sy’n effeithio ar sut yr ydym yn trin dy data di, byddwn yn rhoi gwybod i ti drwy e-bost. Gallet wirio ein Polisi Preifatrwydd yn y dudalen hon unrhyw bryd.

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau am ein defnydd o’r wybodaeth, cysylltwch â ni – info@TheSprout.co.uk

Hawlfraint

Mae’r deunydd y rhoddir sylw iddo ar wefan TheSprout yn ddarostyngedig i warchodaeth Hawlfraint y Goron oni bai y nodir fel arall. Rhaid i unrhyw un sy’n dymuno defnyddio unrhyw wybodaeth a ganfyddir ar y wefan hon gysylltu â ni info@TheSprout.co.uk. Nid yw caniatâd i atgynhyrchu deunydd a warchodir gan hawlfraint y Goron yn ymestyn i unrhyw ddeunydd ar y safle hwn a nodir fel deunydd sy’n hawlfraint trydydd parti. Rhaid cael awdurdodiad i atgynhyrchu deunydd o’r fath gan y deiliaid hawlfraint dan sylw.

Delweddau

Mae’r gair delweddau yn ymdrin â phob delwedd symudol neu lonydd, ffotograffau a logos.

Mae delweddau ar y wefan naill ai’n eiddo TheSprout, y sefydliadau eu hunain, neu wedi eu trwyddedu oddi wrth drydydd parti. Ni all delweddau a gymerir gan drydydd parti gael eu hatgynhyrchu mewn unrhyw fformat.

Ni all rhai delweddau sy’n eiddo i CLICarlein gael eu hatgynhyrchu, gall rhai eraill gael eu hatgynhyrchu mewn rhai amgylchiadau, ond nid heb gymeradwyaeth ymlaen llaw.

Os dymunet atgynhyrchu unrhyw ddelweddau, gan gynnwys Logo CLICarlein rhaid i ti gysylltu â ni yn gyntaf am ganllawiau ac awdurdodiad pellach. Rhowch fanylion dy sefydliad, pa ddelweddau yr hoffet eu defnyddio a sut y bwriadwyt eu defnyddio.

Amodau a Thelerau

Croeso i amodau a thelerau gwefan thesprout.co.uk (“Amodau a Thelerau”), sy’n berthnasol i’th defnydd o’r wefan hon. Drwy gyrchu y Wefan hon, rwyt yn cytuno i gael dy rhwymo gan yr Amodau a’r Telerau hyn. Darperir y Wefan hon er budd trigolion aelod o’r Undeb Ewropeaidd (“UE”) a thrigolion Norwy, Gwlad yr Iâ a Lichtenstein. Os nad ydwyt yn byw yn un o’r gwledydd hyn neu nad ydwyt yn cytuno i gael dy rhwymo gan yr Amodau a’r Telerau hyn, ni allet ddefnyddio na chael mynediad at y Wefan hon ac mae gennym yr hawl i gyfyngu ar neu atal mynediad o’r fath. DIFFINIADAU Mae “Defnyddiwr(wyr)” yn golygu (a) defnyddiwr(wyr) y Wefan naill ai gyda’i gilydd neu yn unigol, fel sy’n ofynnol yn ôl y cyd-destun, ac eithrio mewn cysylltiad â data personol, a fydd yn ymwneud ag unigolion byw yn unig; bydd “Data Personol” yn cael yr un ystyr â’r un a gyflwynir yn Neddf Gwarchod Data 1998 (DPA 1998) a bydd yn cynnwys unrhyw fanylion personol a ddarperir gennyt ti drwy’r wefan, mae “Ni/ein” yn golygu thesprout.co.uk, mae “Gwefan” yn golygu’r wefan a leolir yn www.thesprout.co.uk neu unrhyw URL dilynol a all gymryd ei le, ac mae “Chi/eich” yn golygu chi fel defnyddiwr y Wefan.

  1. MYNEDIAD
  2. Byddwn yn darparu mynediad i chi i’r Wefan yn unol â’r Amodau a’r Telerau hyn.
  1. EICH RHWYMEDIGAETHAU

2.1 Rydych chi:

2.1.1 yn cytuno i beidio â defnyddio’r wefan (nac unrhyw ran ohoni) i unrhyw bwrpas anghyfreithlon ac yn cytuno i’w defnyddio yn unol â’r holl ddeddfau perthnasol;

2.1.2 yn cytuno i beidio â llwytho na thrawsyrru drwy’r wefan unrhyw firysau cyfrifiadurol, macro-firysau, ceffylau Caerdroia, ‘mwydod’, neu unrhyw beth arall a fwriadwyd i ymyrryd ar neu amharu neu aflonyddu ar weithdrefn gweithredu arferol cyfrifiadur;

2.1.3 cytuno i beidio â llwytho na thrawsyrru drwy’r wefan unrhyw ddeunydd sy’n ddifrïol, yn dramgwyddus, neu o natur aflan neu fygythiol, neu a all achosi blinder, anghyfleuster neu bryder diangen

2.1.4 cytuno i beidio â defnyddio’r wefan mewn modd a all achosi i’r wefan gael ei hamharu, ei niweidio, ei gwneud yn llai effeithiol neu mewn modd fel bod effeithlonrwydd y wefan yn cael ei heffeithio mewn unrhyw fodd

2.1.5 yn cytuno i beidio â defnyddio’r wefan mewn unrhyw fodd sy’n tarfu ar neu yn torri ar hawliau unrhyw unigolyn neu gwmni (gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, hawliau eiddo deallusol, hawliau cyfrinachedd neu breifatrwydd);

2.1.6 cytuno i beidio â chyhoeddi dolen hyperdestun i unrhyw ran o’r wefan na cheisio cael mynediad heb ei awdurdodi i unrhyw ran neu gydran o’r wefan; a

2.1.7 cytuno pe bai gennych hawl, hawliad neu weithred yn erbyn unrhyw ddefnyddwyr yn deillio o ddefnydd y defnyddiwr hwnnw o’r wefan, yna byddwch yn mynd ar ôl hawliad neu weithred o’r fath yn annibynnol ar a heb atebolrwydd i ni.

  1. INDEMNIAD

Rwyt yn cytuno i fod yn gwbl gyfrifol am a’n hindemnio ni yn llawn yn erbyn pob hawliad, cyfrifoldeb, difrod, colledion, costau a threuliau, gan gynnwys ffioedd cyfreithiol, a ddioddefir gennym ni ac sy’n codi o dorri unrhyw Amodau a Thelerau neu unrhyw ddeddfau, rheoliadau a rheolau eraill gennyt ti neu ein hasiantau (neu gynrychiolwyr) yn gweithredu ar dy rhan; neu unrhyw rwymedigaethau eraill sy’n codi allan o dy defnydd o’r Wefan, neu’r defnydd gan unrhyw unigolyn arall sy’n cyrchu at y Wefan gan ddefnyddio ein cyfrifiadur personol neu ein cyfrif mynediad at y rhyngrwyd. Rwyt hefyd yn ein hindemnio yn erbyn unrhyw hawliadau fod gwybodaeth neu ddeunydd yr ydwyt wedi ei gyflwyno i ni yn torri unrhyw ddeddf neu unrhyw hawliau trydydd parti (gan gynnwys heb gyfyngiad, hawliadau mewn perthynas â difenwad, ymyrryd â phreifatrwydd, torri cyfrinachedd, torri ar hawlfraint neu dorri ar unrhyw hawl i eiddo deallusol arall). Rydym yn cadw’r hawl i amddiffyn a rheoli unrhyw hawliadau yn deillio o’r uchod ac unrhyw faterion o’r fath yn ymwneud ag indemnio. Rwyt yn cytuno y byddet yn cydweithredu’n llawn â ni mewn unrhyw amddiffyniad o’r fath.

  1. EIN HAWLIAU

4.1 Rydym yn cadw’r hawl i:

4.1.1 ddiwygio neu dynnu’n ôl dros dro neu’n barhaol, y Wefan (neu unrhyw ran ohoni) gyda neu heb rybudd i ti ac rwyt yn cadarnhau na fyddwn yn gyfrifol i ti nac i unrhyw drydydd parti am unrhyw ddiwygiad i’r wefan neu dynnu’r wefan yn ôl, a/neu,

4.1.2 newid yr amodau a’r telerau hyn o bryd i’w gilydd, a thybir bod eich defnydd parhaol o’r Wefan (neu unrhyw ran ohoni) yn dilyn newid o’r fath yn gyfystyr â’th bod yn derbyn newid o’r fath. Daw unrhyw newidiadau o’r fath i rym ar unwaith wedi eu postio, felly dy gyfrifoldeb di yw gwirio yn rheolaidd i benderfynu a yw’r Amodau a’r Telerau wedi eu newid. Os nad ydwyt yn cytuno i unrhyw newid i’r Amodau a’r Telerau yna rhaid i ti atal defnyddio’r Wefan ar unwaith.

4.2 Byddwn yn defnyddio ein hymdrechion rhesymol i gynnal y Wefan. Gall y Wefan newid o bryd i’w gilydd. Ni fyddet yn gymwys am unrhyw iawndal oherwydd na allet ddefnyddio unrhyw ran o’r Wefan neu oherwydd methiant, ataliad neu dynnu’n ôl y cyfan neu ran o’r Wefan oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth.

  1. CYSYLLTIADAU TRYDYDD PARTI

Mewn ymdrech i ddarparu mwy o werth i’n Defnyddwyr, efallai y byddwn yn darparu dolennau i wefannau neu adnoddau eraill. Rydych yn cydnabod ac yn cytuno nad ydym yn gyfrifol am argaeledd safleoedd neu adnoddau allanol o’r fath, ac nid ydwyt yn cefnogi ac nid ydwyt yn gyfrifol am nac yn atebol yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol, am arferion preifatrwydd neu gynnwys (gan gynnwys cynnwys sy’n cam-gynrychioli neu sy’n ddifrïol) safleoedd o’r fath, gan gynnwys (heb gyfyngiad) unrhyw hysbysebu, cynhyrchion neu ddeunyddiau neu wasanaethau eraill ar neu sydd ar gael o wefannau neu adnoddau o’r fath, nac unrhyw ddifrod, colled neu drosedd a achosir neu yr honnir sydd wedi ei achosi gan neu mewn cysylltiad â’r defnydd neu ddibyniaeth ar unrhyw gynnwys, nwyddau neu wasanaethau o’r fath sydd ar gael ar safleoedd neu adnoddau allanol o’r fath.

  1. MONITRO

Mae gennym yr hawl ond nid y rhwymedigaeth, i fonitro unrhyw weithgaredd a chynnwys sy’n gysylltiedig â’r wefan. Gallwn ymchwilio i unrhyw adroddiad ynglyn â thorri’r Amodau a’r Telerau hyn neu gwynion eraill a chymryd unrhyw gamau a dybiwn sy’n briodol (a all gynnwys, ond nad yw’n cael ei gyfyngu i, gyhoeddi rhybuddion, atal, terfynu neu atodi amodau wrth eich mynediad at/neu ddileu unrhyw ddeunyddiau ar y Wefan).

  1. DY DDATA

7.1 Rydym yn parchu dy Ddata Personol ac yn addo cydymffurfio â deddfwriaeth Gwarchod Data cymwys yr UE a’r DU sydd mewn grym o’i bryd i’w gilydd.

7.2 Dylet fod yn ymwybodol:

7.2.1 os gofynnir inni gan yr heddlu neu unrhyw awdurdod rheoleiddio neu lywodraeth arall sy’n ymchwilio i weithgareddau yr amheuir sy’n anghyfreithlon, neu ar ôl derbyn gorchymyn llys, i ddarparu eich Data Personol a/neu wybodaeth yn ymwneud â’th gweithgareddau wrth i ti ddefnyddio’r Wefan byddwn yn gwneud hynny; a,

7.2.2 os cytunat, drwy ddewis y blychau priodol ar y ffurflenni perthnasol, gallwn werthu dy manylion cyswllt a’th manylion am hoffterau i drydydd parti i’w galluogi i anfon gwybodaeth atat y credant fydd o ddiddordeb i ti. Gellir lleoli’r trydydd parti hyn mewn gwledydd y tu allan i’r DU nad oes ganddynt ddeddfau i warchod dy Data Personol. Darperir manylion am y trydydd parti a’r gwledydd sy’n derbyn eich Data Personol pan wneir cais am hynny.

7.3 Rydym yn cadw’r hawl yn ein doethineb rhesymol i ddatgelu manylion am dy ddefnydd o’r Wefan mewn perthynas ag unrhyw achos llys neu unrhyw fygythiad o achos llys mewn cysylltiad â’th defnydd, neu’r defnydd o unrhyw un o dan dy rheolaeth, o’r Wefan boed hynny mewn cysylltiad â’r materion a gyflwynwyd yn yr Amodau a’r Telerau hyn neu fel arall.

7.4 Mae TheSprout yn gweithio fel gwasanaeth cyfrinachol i chi fel pobl ifanc. Mae hyn yn golygu beth bynnag byddech yn ddweud ar TheSprout yn aros yn ddienw ac ar gyfer TheSprout yn unig. Er hynny, bydd yna adegau, yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i ni drosglwyddo’r wybodaeth a rowch i ni, os maent yn golygu fod chi, neu rywun arall, mewn risg sylweddol o niwed. Mae hyn yn cael ei enw’n ‘amddiffyn plant’.

Os yw hyn yn wir, byddwn yn ceisio cysylltu â ti i adael i ti wybod ein bod yn pasio’r wybodaeth ymlaen i sefydliadau eraill a all dy gefnogi. Mae angen i ni wneud hyn, gydag dy ganiatâd neu beidio. Er hynny, byddwn ni’n cadw mewn cysylltiad gyda ti i adael i ti wybod beth rydym yn wneud.

7.5 Cer yn ôl i waelod pob tudalen i adolygu ein Polisi Preifatrwydd, sy’n ffurfio rhan o’r Amodau a’r Telerau hyn.

  1. EIDDO DEALLUSOL A HAWL I DDEFNYDDIO

8.1 Rwyt ti’n cydnabod ac yn cytuno y bydd yr holl hawlfraint, nodau masnach a phob hawliau eiddo deallusol eraill yn yr holl ddeunydd neu gynnwys a gyflenwir fel rhan o’r Wefan (gan gynnwys heb ofyniad, testun, delweddau, tudalennau gwe, sain, meddalwedd (gan gynnwys cod, rhyngwyneb a strwythur gwefan), fideo, ffotograffau a delweddau graffigol, ac edrychiad a theimlad y dyluniad a’i grynhoad) yn parhau bob amser yn ein dwylo ni neu ein trwyddedwyr. Caniateir i ti ddefnyddio’r deunydd hwn yn unig fel yr awdurdodwyd yn benodol gennym ni ac eithrio fel y darparwyd yn yr Amodau a’r Telerau hyn. Nid yw defnyddio’r Wefan hon yn rhoi unrhyw hawl, teitl, diddordeb na thrwydded i ti i unrhyw eiddo deallusol o’r fath y gellir cyrchu ato ar y Wefan. Ac eithrio fel y darperir yn yr Amodau a’r Telerau hyn, gwaharddir unrhyw ddefnydd neu atgynhyrchiad o’r eiddo deallusol.

8.2 Rwyt yn cydnabod ac yn cytuno bod y deunydd a’r cynnwys a gynhwysir o fewn y Wefan ar gael ar gyfer dy ddefnydd personol, anfasnachol ar y sail ganlynol:

8.2.1 gallet lawrlwytho deunydd a chynnwys o’r fath i un dreif caled cyfrifiadurol yn unig; ac

8.2.2 ni chaiff unrhyw destun, dogfennau, graffeg na chynnwys arall ar y Wefan hon eu diwygio mewn unrhyw fodd; ac

8.2.3 ni ddefnyddir unrhyw graffeg ar y Wefan hon ar wahân i’r testun sy’n mynd gydag ef; ac

8.2.4 mae ein rhybudd hawlfraint a’r rhybudd caniatâd hwn yn ymddangos ym mhob copi.

8.3 Gwaherddir unrhyw ddefnydd arall o’r deunydd a chynnwys y Wefan. Rydych yn cytuno i beidio â (ac yn cytuno i beidio â chynorthwyo na hwyluso unrhyw drydydd parti i) gopïo, atgynhyrchu, trawsyrru, cyhoeddi, dangos, dosbarthu, defnyddio’n fasnachol na chreu gweithiau yn deillio o ddeunydd a chynnwys o’r fath.

8.4 Os ydwyt yn torri unrhyw rai o’r Amodau a’r Telerau hyn, mae dy ganiatâd i ddefnyddio’r Wefan hon yn dirwyn i ben yn awtomatig a rhaid i ti ddinistrio unrhyw ddetholiadau sy’n cael eu lawrlwytho neu eu hargraffu o’r Wefan hon ar unwaith.

  1. CYFRANIADAU AT TheSprout.co.uk

Lle gwahoddir ti i gyflwyno unrhyw gyfraniad thesprout.co.uk (gan gynnwys unrhyw destun, ffotograffau, graffeg, fideo neu sain) rwyt yn cytuno, drwy gyflwyno dy gyfraniad, i roi i thesprout.co.uk hawl a thrwydded am byth, heb freindal, anghynhwysol, is-drwyddedadwy i ddefnyddio, atgynhyrchu, diwygio, mabwysiadu, cyhoeddi, cyfieithu, creu gweithiau deilliannol o, dosbarthu, perfformio, chwarae, sicrhau ei fod ar gael i’r cyhoedd ac ymarfer pob hawlfraint a hawliau cyhoeddusrwydd mewn perthynas â’th cyfraniad ledled y byd a/neu i gynnwys eich cyfraniad mewn gweithiau eraill mewn unrhyw gyfryngau sy’n wybyddus yn awr neu a ddatblygwyd yn ddiweddarach ar gyfer tymor llawn unrhyw hawliau a all fodoli yn eich cyfraniad, ac yn unol â chyfyngiadau preifatrwydd a gyflwynir ym Mholisi Preifatrwydd CLICarlein.co.uk. Os nad ydych yn dymuno rhoi’r hawliau a gyflwynir uchod i thesprout.co.uk, paid â chyflwyno dy gyfraniad i thesprout.co.uk.

Drwy gyflwyno dy gyfraniad tuag at thesprout.co.uk rwyt ti’n:

9.1. yn gwarantu bod eich cyfraniad:

9.1.1. yn waith gwreiddiol chi eich hun a bod gennych yr hawl i sicrhau ei fod ar gael i thesprout.co.uk i’r holl ddibenion a nodwyd uchod;

9.1.2 nad yw’n ddifrïol, a

9.1.3 nad yw’n torri unrhyw ddeddf; a

9.2. yn indemnio thesprout.co.uk yn erbyn pob ffi cyfreithiol, iawndal a threuliau eraill y gellir eu gwario gan thesprout.co.uk o ganlyniad i dorri’r gwarant uchod; ac

9.3 yn ildio unrhyw hawliau moesol yn dy gyfraniad i bwrpas eu cyflwyno i gyhoeddiad ar thesprout.co.uk ac i’r pwrpasau a nodwyd uchod.

  1. HYSBYSIADAU

10.1 Gallwch anfon hysbysiadau atom o dan neu mewn cysylltiad â’r Amodau a’r Telerau hyn:

10.1.1 drwy’r post i: TheSprout, ProMo-Cymru, Unit 12, Royal Stuart Workshops, Adelaide Place, Cardiff, CF10 5BR

10.2 Oherwydd nad yw prawf o anfon yn sicrhau ein bod wedi derbyn eich hysbysiad, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod wedi derbyn cydnabyddiaeth oddi wrthym ni a anfonir o fewn 3 diwrnod gwaith o’r amser y byddwn wedi ei dderbyn, a rhaid i chi gadw’r dderbynneb.

  1. CYFYNGU AR RWYMEDIGAETH

11.1 ER Y BYDDWN YN DEFNYDDIO POB YMDRECH RESYMOL I DDILYSU CYWIRDEB UNRHYW WYBODAETH A RODDWN AR Y WEFAN, NID YDYM YN RHOI UNRHYW WARANTAU, BOED HYNNY’N BENODOL NAC YMHLYG MEWN PERTHYNAS Â’I CHYWIRDEB.

11.2 Darperir y wefan ar sail “fel ag y mae” ac “fel mae ar gael” heb unrhyw gynrychiolaeth na chefnogaeth. Oni bai y nodir mewn amodau a thelerau ar wahân sy’n gysylltiedig â chynnyrch neu wasanaeth arbennig, nid ydym yn gwneud unrhyw warant o unrhyw fath, boed hynny’n benodol nac ymhlyg mewn perthynas â’r wefan, neu gynhyrchion neu wasanaethau a gynigir ar y wefan boed hynny gennym ni neu ar ein rhan (gan gynnwys lawrlwytho meddalwedd am ddim) gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i, warantau ymhlyg o ansawdd boddhaol, ffitrwydd ar gyfer pwrpas arbennig, peidio â thorri amodau, cydnawsedd, diogelwch, cywirdeb, amod neu gyflawnder, neu unrhyw warant arall sydd ymhlyg yn deillio o ddelio neu ddefnyddio neu fasnachu.

11.3 Oni bai y nodwyd mewn amodau a thelerau ar wahân sy’n gysylltiedig â chynnyrch neu wasanaeth arbennig, nid ydym yn rhoi unrhyw warant fod y Wefan neu gynhyrchion neu wasanaethau a gynigir ar y Wefan boed hynny gennym ni neu ar ein rhan (gan gynnwys lawrlwytho meddalwedd am ddim) yn bodloni eich gofynion, neu na fyddant yn rhai na amharir arnynt, yn amserol, yn ddiogel neu yn rhydd o wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu fod y wefan neu’r serfiwr sy’n sicrhau ei bod ar gael neu gynhyrchion neu wasanaethau a gynigir ar y Wefan boed hynny gennym ni neu ar ein rhan (gan gynnwys lawrlwythiadau o feddalwedd am ddim) yn rhydd o firysau neu namau neu eu bod yn gweithio’n llawn, yn gywir neu yn ddibynadwy. Ni fyddwn yn gyfrifol nac yn atebol i chi am golli unrhyw gynnwys neu ddeunydd o ganlyniad i lwytho i neu lawrlwytho o’r Wefan.

11.4 Heblaw am unrhyw ddarpariaeth arall yn yr Amodau a’r Telerau, ni fydd unrhyw beth yma yn cyfyngu ar eich hawliau fel defnyddiwr o dan ddeddf Lloegr.

11.5 Rydych yn cydnabod na allwn sicrhau ac felly na fyddwn mewn unrhyw fodd yn gyfrifol am ddiogelwch neu breifatrwydd y Wefan ac unrhyw wybodaeth a ddarperir i neu a gymerir o’r Wefan gennych chi.

11.6 Ni fyddwn yn gyfrifol mewn contract, camwedd neu fel arall os cewch golled neu ddifrod yn gysylltiedig â’r Wefan drwy ddolen hyperdestun trydydd parti.

11.7 Ni fyddwn yn gyfrifol, mewn contract, camwedd (gan gynnwys, heb gyfyngiad, esgeulustod), cyn contract neu gynrychiolaeth arall (heblaw camgynrychiolaeth twyllodrus) neu fel arall allan o neu mewn cysylltiad â’r Wefan neu gynhyrchion neu wasanaethau a gynigir ar y Wefan boed hynny gennym ni neu ar ein rhan (gan gynnwys lawrlwythiadau o feddalwedd am ddim) ac:

11.7.1 unrhyw golledion economaidd (gan gynnwys heb gyfyngiad colli refeniw, elw, contractau, busnes neu gynilion tybiedig); neu

11.7.2 colli unrhyw ewyllys da neu enw da; neu

11.7.3 unrhyw golledion arbennig neu anuniongyrchol neu ganlyniadol; beth bynnag p’run ai yw unrhyw golledion o’r fath o fewn ystyriaeth y naill neu’r llall ohonom ar y dyddiad y digwyddodd y digwyddiad a achosodd y golled.

11.8 Ni fydd unrhyw beth yn yr Amodau a’r Telerau yn allgau nac yn cyfyngu ar ein hatebolrwydd am farwolaeth neu niwed personol yn deillio o esgeulustod neu esgeulustod ein gweision, asiantau neu weithwyr.

  1. DATGYSYLLTU

Os tybir bod unrhyw ran o’r Amodau a’r Telerau yn anghyfreithlon, yn ddi-rym neu am unrhyw reswm yn rhai na ellir eu gorfodi, yna tybir y gall y ddarpariaeth honno gael ei dadgysylltu o’r Amodau a’r Telerau hyn ac ni fydd yn effeithio ar ddilysrwydd a gallu i orfodi unrhyw rai o’r darpariaethau sy’n weddill yn yr Amodau a’r Telerau hyn.

  1. Ni fydd unrhyw beth yn cael ei ystyried fel ildiad hawl gennym ni o unrhyw doriad blaenorol neu olynol ar unrhyw ddarpariaeth yn yr Amodau a’r Telerau hyn.
  1. CYTUNDEB CYFAN

Mae’r Amodau a’r Telerau hyn (fel y’u diwygiwyd o bryd i’w gilydd), gan gynnwys y Polisi Preifatrwydd, yn ffurfio’r cytundeb cyfan rhyngoch chi a ni mewn perthynas â’r deunydd yr ymdriniwyd ag ef, ac mae’n disodli unrhyw gytundebau, trefniadau, ymgynghoriadau neu argymhellion blaenorol, yn ysgrifenedig neu ar lafar, rhyngoch chi a ni mewn perthynas â materion o’r fath. Ni fydd unrhyw eglurhad llafar neu wybodaeth lafar a roddir gan y naill neu’r llall ohonom yn newid dehongliad yr Amodau a’r Telerau hyn. Rydych yn cadarnhau, wrth gytuno i dderbyn yr Amodau a’r Telerau hyn, nad ydych wedi dibynnu ar unrhyw gynrychiolaeth ac eithrio i’r graddau y mae hyn wedi ei wneud yn benodol yn yr Amodau a’r Telerau hyn, ac rydych yn cytuno na fydd gennych unrhyw ateb mewn perthynas ag unrhyw gamgynrychiolaeth nad yw wedi ei gynnwys o fewn yr Amodau a’r Telerau hyn ac eithrio na fydd eich cytundeb a gynhwysir yn y ddarpariaeth hon yn berthnasol mewn perthynas ag unrhyw gamgynrychiolaeth twyllodrus p’run ai a gafodd camgynrychiolaeth o’r fath ei gynnwys o fewn yr Amodau a’r Telerau hyn ai peidio. Ni fydd y methiant gennym ni i ymarfer neu orfodi unrhyw hawl neu ddarpariaeth yn yr Amodau a’r Telerau hyn yn ffurfio ildiad i hawl neu ddarpariaeth o’r fath.

  1. Y DDEDDF

Llywir yr Amodau a’r Telerau yn llwyr gan ac fe’u dehonglir yn unol â deddfau Cymru a Lloegr y bydd gan eu Llysoedd awdurdodaeth anghynhwysol mewn unrhyw anghydfod, ac eithrio fod gennym yr hawl, yn ôl ein disgresiwn, i ddechrau a chyflwyno achosion mewn awdurdodaethau eraill.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd