Canllaw Lluniau theSprout

Frog with camera for TheSprout's Picture Guide

Mae’n bwysig iawn defnyddio delweddau yn gywir ac i gydnabod gwaith caled pobl eraill. Yn ôl yn nyddiau da CLICarlein (roedd theSprout yn arfer bod yn rhan ohono), cawsom ddirwy o £1,000. Roedd rhywun o Ferthyr wedi llwytho llun oedd yn berchen i Getty Images, ac roedd ein SRhC (System Rheoli Cynnwys) wedi tocio’r marc dŵr oddi arno yn awtomatig, felly nid oeddem yn ymwybodol ei fod yn ddelwedd dan hawlfraint. Ond roedd Getty yn ymwybodol, ac roedd rhaid talu £1,000.

Felly ia, mae defnyddio delweddau sydd yn rhydd o hawlfraint neu o’r Creative Commons yn bwysig iawn i theSprout, gan nad allem fforddio’r fath ddirwyon.

Mae yna 4 math o luniau gellir eu defnyddio ar theSprout

  1. Lluniau wedi eu tynnu neu eu llunio gennyt ti
  2. Lluniau hyrwyddol – Defnyddir yn ôl y rheol ‘deliad teg’ (gwybodaeth bellach yma), gellir defnyddio delweddau fel posteri ffilm neu glawr albwm, os wyt ti’n adolygu’r ffilm neu’r albwm yna.
  3. Delweddau sydd yn rhydd o hawlfraint – gall y rhain fod yn ddelweddau sydd yn y parth cyhoeddus (fel fflagiau cenedlaethol), rhai hen iawn gyda’r hawlfraint wedi dod i ben (mae hyn yn egluro’r nifer fawr o gardiau gyda llun du a gwyn hen a sylwad cryno doniol arno), neu’r rhai ble mae’r perchennog wedi hepgor unrhyw gais hawlfraint ac yn caniatáu defnydd rhydd o’u gwaith – gellir darganfod y rhain ar wefannau fel Pixabay fel arfer.
  4. Delweddau Creative Commons – mae’r rhain yn ddelweddau ble mae’r perchennog wedi rhoi trwydded Creative Commons ar ei waith. Mewn realiti, golygai hyn bod posib defnyddio’r ddelwedd am ddim, ond dy fod di’n rhoi cydnabyddiaeth. Y math yma o luniau defnyddir ar theSprout fwyaf dros y blynyddoedd, ac mae’r mwyafrif yn dod o wefan Compfight.

Beth ydy Compfight?

Mae Compfight yn beiriant chwilio delweddau sydd yn caniatáu i ti hidlo cynnwys Creative Commons ar Flickr. Cychwynna wrth deipio gair i wneud chwiliad. Unwaith i ti chwilio, clicia ar ‘Creative Commons’. Yna mae posib dewis unrhyw un o’r delweddau o dan y llinell ddotiog yn ddiogel ar theSprout.

Image guide - compfight

Unwaith i ti ddewis dy ddelwedd, clicia arno ac yna bydd rhaid dewis maint i’w lawr lwytho. Lawr lwytha fersiwn mawr a’i arbed yn rhywle hawdd i’w ddarganfod. Mae delweddau tirlun a baneri yn well nag rhai portread fel arfer.

image 2 for TheSprout's picture guide

Mae Compfight yn gynorthwyol iawn gan ei fod yn darparu’r holl wybodaeth cydnabod i ti (fel bod posib cydnabod y perchennog, ac felly defnyddio’r ddelwedd, mewn ffordd hawdd i’w gopïo a’i ludo yn syth i’r erthygl. Ond mae hyn mewn cod HTML felly bydd angen defnyddio’r botwm ‘Text’ (wrth ochr y botwm ‘Visual’) ar y dudalen Ychwanegu Post Newydd ar y SRhC (ochr dde ar frig y blwch golygu testun).

I roi’r neges cydnabyddiaeth, amlyga a chopïa cynnwys y blwch HTML Copïo a Gludo melyn. Yna cer i’r erthygl yn y SRhC a chlicia ar y botwm ‘Text’ fel sonnir uchod. Sgrolia i waelod yr erthygl, neu o dan y llun, a gludo’r cod yno, a dyna ni!

Fel arall, os bydda’n well gen ti osgoi unrhyw beth i wneud gyda chod HTML, clicia ar y ddelwedd a bydd yn mynd a ti at dudalen Flickr yr artist. Edrycha yn gornel top ochr dde am enw’r artist (mae enw defnyddiwr yn iawn), yna ar waelod yr erthygl ysgrifenna “Credyd Llun: (enw’r perchennog)” a hypergysylltu’r enw i gysylltu i’r dudalen Flickr.

Beth ydy Pixabay a Pixlr?

Os yw hyn i gyd yn swnio fel gormod o ffaff yna defnyddia Pixabay. Mae gan Pixabay lwyth o ddelweddau sy’n rhydd o hawlfraint i ti chwilio a lawr lwytho. Yr unig broblem ydy gall pawb arall wneud hyn hefyd, ac maent yn gallu bod yn eithaf generig.

Ond, ond, ond… gan eu bod yn rhydd o hawlfraint, mae gen ti hawl i’w golygu i wneud iddynt edrych yn fwy diddorol. Mae delwedd wreiddiol llun clawr y dudalen yma yn dod o Pixabay. Felly lawr lwythais y llun a’i lwytho i Pixlr a’i gylchdroi, rhoi ffilter arno a border.

Mae posib defnyddio Pixlr i newid maint delweddau hefyd, gan fod delweddau dros 1000 picsel yn gallu bod yn anodd i’r SRhC weithiau, ond rydym yn edrych ar y sefyllfa yma. Rydym hefyd yn archwilio ‘plug-ins’ i Pixabay a Giphy fel bod chwilio am ddelweddau yn haws, felly cadwch lygaid allan am hynny.

Llwytho delweddau

image 3 for TheSprout's picture guide

Ar y dudalen ‘Add New Post’ i ychwanegu cynnwys newydd, clicia ar ‘Add Media’ (top chwith uwchben y ffenestr golygu), yna ar ‘Upload Files’ (1) llwytha’r ffeil ac yna pwysau ‘insert into post’ (2)

Bydd angen gosod prif lun (featured image) hefyd fel ei fod yn ymddangos yn yr adran newyddion. Mae hyn yr un broses ag sydd yn Nelwedd 3 ond gan ddefnyddio’r botwm ar waelod cornel dde’r dudalen ‘Add New Post’.

Fideos

Os yw hyn i gyd yn swnio’n gymhleth iawn, defnyddia fideos YouTube i rannu’r tudalen. Yn syml, gluda URL y fideo yn ffenestr olygu’r dudalen ‘Add New Post’ a bydd yn cael ei fewnosod yn awtomatig. Gan fod y cynnwys yn cael ei ddarparu gan YouTube, nhw sydd yn gyfrifol yn gyfreithiol, nid ni. Mae’r un peth yn wir os wyt ti’n gludo dolen i ran arall o theSprout yn y ffenestr olygu, mae’n mewnosod ei hun yn hudol ac yn edrych yn eithaf neis.

Datrys Problemau

Dim ond canllaw sydyn yw hwn sydd yn rhoi ychydig o awgrymiadau am sut i lwytho delweddau i theSprout. Mae yna lwyth o wefannau eraill i gael delweddau am ddim, ond cofia roi dolen i’r wefan yn y disgrifiad yn y llyfrgell cyfryngau, fel bod yr is-olygydd yn gallu gwirio hyn yn hawdd.

Yn olaf, os wyt ti’n cael trafferth llwytho dy ddelweddau, mae’n debyg eu bod yn rhy fawr – lleihau’r maint i 1000 picsel ac fe ddylai hyn weithio. Gall gwneud hyn ar Pixlr Express, Microsoft Paint, Preview, Photoshop, llawer iawn o lefydd.

Os oes gen ti gwestiwn am ddefnyddio delweddau ar theSprout, e-bostia ar info@theSprout.co.uk

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd