Stori Gemma

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o straeon yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau go iawn gan bobl ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo. I weld straeon eraill, clicia yma.

C1. Beth yw’r peth pwysicaf rwyt ti wedi dysgu am dy hun yn ystod y cyfnod clo?

Mae’r cyfnod clo wedi dysgu i mi mai fi yw’r person mwyaf gwydn rwy’n adnabod; i roi hyn mewn cyd-destun, rwy’n byw ar ben fy hun, felly trwy’r holl ymdrechion dim ond fi gallwn i ddibynnu arno i ymdopi â phopeth. Hyd yn oed y pethau bach, fel dioddef diwrnod drwg, nid oedd neb o gwmpas i gynnig cefnogaeth, felly dysgais pa mor annibynnol ydw i go iawn.

C2. Beth yw’r peth sydd wedi aros yn y cof fwyaf yn ystod y cyfnod clo?

Mae’n anodd meddwl am gyfnod penodol, ond digwyddiad rheolaidd sydd yn aros y cof fwyaf ydy faint o bobl sydd heb unrhyw syniad beth yw ymbellhau cymdeithasol. Mae hyn yn gwylltio rhywun gan mai cam bach ydyw i gadw pawb yn ddiogel, ond mae cymaint o bobl fel petai nhw ddim yn poeni.

 C3. Eglura pa bethau rwyt ti’n ei golli fwyaf o dy fywyd cyn COVID-19. Sut wyt ti am sicrhau nad wyt ti’n cymryd y rhain yn ganiataol yn y dyfodol?

Nid wyf wedi cael cwtsh gan fy ffrind gorau – rhywun rwy’n adnabod ers roeddwn i’n bedair oed – ers eu gweld fis Rhagfyr diwethaf. Llwyddais eu gweld o bellter unwaith, ond mae gweld nhw heb fedru cysylltu’n iawn wedi bod yn dorcalonnus. Y tro nesaf rwy’n cael bod o fewn 2 fetr iddynt rwy’n rhoi cwtsh mawr iddynt a ddim am ollwng.

Os oes unrhyw beth yn stori Gemma sydd wedi cael effaith arnat ti, siarada gyda Meic, llinell gymorth gyfrinachol i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Cysyllta yng Nghymraeg neu Saesneg – dy ddewis di! Maent yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gellir cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim i bawb.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd