Stori Alex

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

 

Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o straeon yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau go iawn gan bobl ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo. I weld straeon eraill, clicia yma.

C1. Beth yw’r peth pwysicaf rwyt ti wedi dysgu am dy hun yn ystod y cyfnod clo?

Rwyf wedi dysgu mod i’n mwynhau bod mewn natur ac wrth fy modd yn garddio. Mae wedi gwneud i mi ailgloriannu rhai o’m huchelgeisiau am y dyfodol. Rwyf hefyd wedi sylweddoli faint roddwn i’n ei gymryd yn ganiataol yn fy mywyd, a bod bywyd yn gallu newid yn sydyn iawn – mae’n well gwneud y gorau o bob dydd.

 

C2. Beth yw’r peth sydd wedi aros yn y cof fwyaf yn ystod y cyfnod clo?

Es i ar ffyrlo felly roedd hynny’n newid mawr. Roeddwn yn poeni am fy ngwaith a’r effaith ehangach ar yr economi. Roeddwn yn meddwl efallai byddwn i’n colli fy ngwaith a gorfod chwilio am swydd arall mewn diwydiant fydda ddim yn cyflogi o gwbl. Ond, fe fwynheais yr amser bant ac roedd yn dda cael newid cyflymder bywyd.

 C3. Eglura pa bethau rwyt ti’n ei golli fwyaf o dy fywyd cyn COVID-19. Sut wyt ti am sicrhau nad wyt ti’n cymryd y rhain yn ganiataol yn y dyfodol?

Rwy’n colli’r cyfnod pan nad oeddwn i’n poeni am COVID drwy’r adeg, am fynd yn sâl, am fod yn rhy agos i rywun, am ddiogelwch gwaith, am y cyfnodau clo, am y dyfodol, am yr economi, am letygarwch a’r celfyddydau. Mae’n flinedig! Pan fydd hyn wedi dod i ben, mi fyddaf yn mwynhau PEIDIO gorfod bod yng nghanol pandemig byd eang.

Os oes unrhyw beth yn stori Alex sydd wedi cael effaith arnat ti, siarada gyda Meic, llinell gymorth gyfrinachol i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Cysyllta yng Nghymraeg neu Saesneg – dy ddewis di! Maent yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gellir cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim i bawb.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd