Profiad Cyfnod Clo Ella

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o straeon yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau go iawn gan bobl ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo. I weld straeon eraill, clicia yma. Ysgrifennwyd yr erthygl yma ar gyfer yr ymgyrch gan Ella Mahr-Roberts, myfyriwr prifysgol Caerdydd 20 oed.

Yn fis Medi, roeddwn yn pacio fy magiau, yn ceisio (ac yn ffaelu) ffitio fy myd i mewn i siwtces a hedfan o adref i fyw dramor am y tro cyntaf. Unwaith eto (yn union fel yng nghyfnod clo 1.0), roedd y rhai rwy’n caru a’m ffrindiau yn wynebau ar sgrin; Zoom, Snapchat a Facetime yn dod yn rhaff achub i gadw cysylltiad gyda’r bobl adref. Ac, ar ôl cyfnod hir o glo yn y Gwanwyn, nid oedd y dull yma o gyfathrebu ar-lein o bellter yn teimlo’n od neu’n anghroesawgar bellach.

Nid ellir byth cymharu Facetime â chael cwtsh gan dy ffrind gorau wrth gwrs, ond, fel cymaint o weithiau gynt, mae ein cenhedlaeth wedi profi ein hunain i fod yn hynod o gymwys yn addasu i’n hamgylchiadau sydd yn newid o hyd.

Rydym yn genhedlaeth ddigidol, rhywbeth sydd wedi cael ei ddiffinio ymhellach yn y ffordd rydym wedi addasu i’r pandemig. A diolch i hynny, mewn sawl ffordd, roedd yr ychydig fisoedd cyntaf o setlo mewn lle newydd ddim yn teimlo mor unig ag yr oeddwn i wedi’i ddisgwyl.

Blwyddyn yn ôl, byddai ansicrwydd yr helynt yma wedi bod yn ormod i mi fedru goddef. Ni fyddwn i wedi cymryd y risg, gyda chanlyniadau’r profiad yma mor ansicr. Er hynny, ymddangosai bod y 6 mis olaf o’r anrhefn Covid-19 wedi fy mharatoi am y flwyddyn yma dramor. Roeddwn yn gwybod sut deimlad oedd bod yn unig, oherwydd y cyfnod clo cynt, felly nid oeddwn yn ofni blwyddyn bant mewn gwlad tramor.

Roeddwn wedi dysgu fy hun sut i fod yn unig, a sut i ddefnyddio hyn fel tanwydd i feddwl yn fwy positif. Dysgais sut i fwynhau cwmni fy hun a gwerthfawrogi’r sgyrsiau gyda ffrindiau ar Zoom. Darganfyddais sut i ddefnyddio’r amser yma i weithio ar fy hun, rhywbeth nad oeddwn i wedi cadw amser i wneud ers blynyddoedd.

Mae yna synnwyr llethol o newydd-deb sydd yn dod gyda symud dramor, ac mae hynny’n rhywbeth nad ellir paratoi amdano nes i ti gyrraedd. Ond, ar ôl misoedd o anrhagweladwyedd gyda’r pandemig, nid oedd y newydd-deb yn teimlo mor fygythiol bellach. Roedd y newid roeddwn i wedi’i ofni erioed wedi troi’n rhywbeth roeddwn yn hapus i gofleidio.

Felly, tra bod y pandemig wedi bod yn drawmatig iawn i’m nghenhedlaeth, yr arwahanrwydd a’r unigrwydd, roedd yr anrhefn a’r ansicrwydd yn fy nghyfarparu gyda’r sgiliau pwysig sydd wedi dod yn hanfodol i mi wrth i mi fyw ar ben fy hun dramor.

Mae wedi dod yn fwy amlwg nag erioed ei bod yn bwysig iawn manteisio ar unrhyw gyfle a rhedeg gydag ef, gan nad wyt ti byth yn gwybod sut fyd fydd hi wythnos nesaf, ac yn bendant ddim flwyddyn nesaf. Mae gen i ffydd yn y broses ac rwy’n caru’r hyn rwy’n dysgu am fy hun ar hyd y ffordd.

I ddarllen mwy o erthyglau’r ymgyrch, clicia yma.

 

 

Related
News

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd