Stori Morgan

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o straeon yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau go iawn gan bobl ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo. I weld straeon eraill, clicia yma.

C1. Beth yw’r peth pwysicaf rwyt ti wedi dysgu am dy hun yn ystod y cyfnod clo?

Rwyf wedi dysgu bod pobl yn bwysig i mi ac rwy’n ddiolchgar am y ffrindiau rwy’n byw â nhw. Rwyf hefyd wedi sylwi bod fy rhieni yn system gefnogol enfawr i mi a heb hynny ni fyddwn yn gwybod beth i’w wneud. Maent wedi helpu trwy bopeth, ac rwyf mor ddiolchgar amdanynt.

C2. Beth yw’r peth sydd wedi aros yn y cof fwyaf yn ystod y cyfnod clo?

I ddweud y gwir, y peth sydd wedi aros yn y cof fwyaf yn ystod y cyfnod clo ydy pan wnaeth fy nghyn gariad fynd gyda rhywun arall. Roedd fy ffrindiau yno i mi trwy’r broses o ddod drosto ac roedd hynny’n help mawr. Maent wedi cael effaith mawr ar fy mywyd ac ni chredaf y byddwn i wedi ymdopi hebddynt.

C3. Eglura pa bethau rwyt ti’n ei golli fwyaf o dy fywyd cyn COVID-19. Sut wyt ti am sicrhau nad wyt ti’n cymryd y rhain yn ganiataol yn y dyfodol?

Rwy’n colli cael gweld fy ffrindiau trwy’r adeg. Rwyf wedi sylwi bod pobl yn system gefnogol enfawr i mi, a heb hynny yn ei le rwy’n disgyn i ddarnau braidd, felly ni fyddaf byth yn cymryd mantais o’r bobl yn fy mywyd eto. Rwyf bellach wedi dysgu pa mor werthfawr ydy pawb yn fy mywyd.

Os oes unrhyw beth yn stori Morgan sydd wedi cael effaith arnat ti, siarada gyda Meic, llinell gymorth gyfrinachol i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Cysyllta yng Nghymraeg neu Saesneg – dy ddewis di! Maent yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gellir cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim i bawb.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd