Stori Jasmin

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o straeon yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau go iawn gan bobl ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo. I weld straeon eraill, clicia yma.

C1. Beth yw’r peth pwysicaf rwyt ti wedi dysgu am dy hun yn ystod y cyfnod clo?

Nid oes dim yn fy ysgogi gan fod y coleg ar gau. Nid wyf yn hoff o wneud pethau – bydda’n well gen i aros yn y gwely. Ond, rwyf wedi dysgu fy mod i’n eithaf creadigol. Rwyf wedi bod yn golygu fideos ac yn peintio sydd wedi bod yn gymorth i ymlacio. Gallaf wneud hyn yn fy amser rhydd nawr.

C2. Beth yw’r peth sydd wedi aros yn y cof fwyaf yn ystod y cyfnod clo?

Y cyfnod mwyaf cofiadwy oedd tymor yr arholiadau. Roeddwn wedi bod yn adolygu ers sbel a chefais fy nhaflu braidd gydag addysg pan glywais fod yr arholiadau wedi’u canslo. Gwyddwn na fyddai’r canlyniadau mor dda gan mai’r athrawon oedd yn rhoi’r radd. Nid oedd llawer o fynd ynof ar ôl hyn, ond rwy’n dechrau gwella nawr.

C3. Eglura pa bethau rwyt ti’n ei golli fwyaf o dy fywyd cyn COVID-19. Sut wyt ti am sicrhau nad wyt ti’n cymryd y rhain yn ganiataol yn y dyfodol?

Rwy’n colli cael mynd allan i siopa – ond dyna’r cyfan. Rwy’n berson mewndroëdig iawn, felly nid oes llawer wedi cael effaith arnaf gan fod i wedi hen arfer aros gartref a gwneud pethau fy hun, felly nid oedd hyn yn newid mawr. Gallaf fynd allan i gerdded ac archebu bwyd o hyd, felly nid yw pethau’n rhy ddrwg. Ond rwy’n colli cael gweld teulu.

Os oes unrhyw beth yn stori Jasmin sydd wedi cael effaith arnat ti, siarada gyda Meic, llinell gymorth gyfrinachol i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Cysyllta yng Nghymraeg neu Saesneg – dy ddewis di! Maent yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gellir cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim i bawb.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd