Profiad Cyfnod Clo Amy

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o straeon yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau go iawn gan bobl ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo. I weld straeon eraill, clicia yma. Ysgrifennwyd yr erthygl yma ar gyfer yr ymgyrch gan Amy Carver, myfyriwr prifysgol 20 oed.

Rwy’n ysgrifennu’r darn yma ar fy Mlwyddyn Dramor yn Yr Almaen, ar y pwynt ble mae’r wlad wedi mynd i ail gyfnod clo. Mae cau’r gymdeithas yn ddigynsail am yr ail waith mewn blwyddyn wedi dod â mis Mawrth i’r cof, pan gefais brofiad o’r cyfnod clo cyntaf gartref gyda theulu ym Mhrydain, a ddim ymdopi’n dda iawn.

Rwy’n cofio sylweddoli ar sawl cyfrif newydd Instagram gan ffrindiau, yn dogfennu’r cynnydd yn y sgil newydd roeddent wedi’i ddysgu yn y cyfnod clo. Ymysg hyn roedd pobi, defnyddio esgidiau rolio a pheintio, tra roeddwn i’n cael trafferth meddwl am reswm i godi o’r gwely cyn hanner dydd. Nid disgyn yn ddarnau oedd cynlluniau fy myd trefnus, ond cael ei rwygo’n ffyrnig oddi wrthyf, heb unrhyw syniad pryd bydd yn dychwelyd.

Cyn mis Mawrth, roeddwn yn berson oedd yn gweithio o gwmpas y ‘beth’ a’r ‘pryd’ ran amlaf. Pa fwyty i gyfarfod ynddi? Pa bryd dylwn i ddod draw atat ti? Beth ydy dy gynlluniau i fynd adref ar ôl noson allan? Roeddwn yn darganfod diogelwch mewnol wrth ddileu’r posibilrwydd o bosibiliadau ansicr. (Rwy’n siŵr bod fy ffrindiau wrth eu bodd gyda fi!)

Wrth edrych yn ôl, mae’n gwneud synnwyr pam roeddwn yn teimlo ar goll yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Gellir dadlau mai Covid-19 yw’r posibilrwydd ansicr mwyaf ar y cyfan, oedd yn fy atal rhag ateb y beth a’r pryd, ond yn fy ngwawdio gyda pha mor ddiwerth oedd fy angen i reoli holl achlysuron bywyd.

Nawr, yn yr ail gyfnod clo yma, mae’r angen i ofyn y ‘beth’ a ‘phryd’ wedi lleihau yn sylweddol. Mae’n ddoniol bod y wasg Almaeneg wedi disgrifio ailosod y cyfyngiadau fel fersiwn “ysgafn” o’r cyfnod clo cynt; mae’n adlewyrchu fy nheimladau bod y pwysau profwyd yn y gwanwyn wedi codi erbyn hyn.

Nid wyf yn deffro gyda disgwyliad manwl o drefn y dydd bellach, ac rwy’n teimlo’n eithaf heddychol pan fydd gen i ychydig o oriau heb unrhyw weithgaredd wedi’i drefnu. Er ei bod yn dda cynllunio, mae’n glir nad oes posib paratoi ar gyfer popeth.

Mae’r ddau gyfnod clo, a’r sioe Covid-19 yn fwy cyffredinol, wedi fy ngorfodi i ymlacio fy ngafael ar deyrnasiad fy modolaeth allanol. Ond mae hyn wedi creu gofod i ffynhonnell iachusol annisgwyl o ddiogelwch mewnol. Nid wyf erioed wedi gallu gweld mor glir pwy a beth sydd yn bwysig i mi; dyna pam, rwy’n meddwl, nad wyf yn teimlo’r angen i ofyn ‘beth’ a ‘phryd’ ddim mwy.

Os gallwn siarad â fi fy hun cyn y cyfnod clo cyntaf, byddwn yn dweud rhywbeth fel “YMLACIA! TI DDIM AM FFRWYDRO AM NAD WYT TI’N GWYBOD BETH FYDDI DI’N GWNEUD MEWN MIS!” Ac er ei bod yn eithafol mai pandemig sydd wedi dysgu’r wers yma i mi, rwy’n andros o ddiolchgar ei fod.

I ddarllen mwy o erthyglau’r ymgyrch, clicia yma.

Related
News

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd