Stori Hannah

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o straeon yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau go iawn gan bobl ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo. I weld straeon eraill, clicia yma.

C1. Beth yw’r peth pwysicaf rwyt ti wedi dysgu am dy hun yn ystod y cyfnod clo?

Dysgais fy mod i’n ffynnu o fod yn yr awyr agored ac yn mwynhau treulio amser gyda theulu yn mwynhau’r ardaloedd lleol o harddwch naturiol. Nid oes rhaid teithio pan mae cymaint i’w gynnig yn lleol.

C2. Beth yw’r peth sydd wedi aros yn y cof fwyaf yn ystod y cyfnod clo?

Dad yn ffonio yn drist ac yn unig a finnau’n gallu gwneud dim am y peth, gan nad allwn i fynd i’w weld nac rhoi gwahoddiad iddo drosodd am swper i godi hwyliau.

C3. Eglura pa bethau rwyt ti’n ei golli fwyaf o dy fywyd cyn COVID-19. Sut wyt ti am sicrhau nad wyt ti’n cymryd y rhain yn ganiataol yn y dyfodol?

Gallu teithio’r byd yn ddibryder, mae gen i lawer o ffrindiau dramor ac mae wedi bod yn eithaf ddi-straen mynd i ymweld â nhw yn y gorffennol. Ni fyddaf byth yn cymryd rhyddid y byd yn ganiataol eto.

Os oes unrhyw beth yn stori Hannah sydd wedi cael effaith arnat ti, siarada gyda Meic, llinell gymorth gyfrinachol i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Cysyllta yng Nghymraeg neu Saesneg – dy ddewis di! Maent yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gellir cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim i bawb.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd