Stori Sophie

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o straeon yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau go iawn gan bobl ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo. I weld straeon eraill, clicia yma.

C1. Beth yw’r peth pwysicaf rwyt ti wedi dysgu am dy hun yn ystod y cyfnod clo?

I byth gymryd pethau’n ganiataol ac i werthfawrogi’r holl bethau positif a’r bobl yn fy mywyd. Sylweddolais nad oeddwn angen pethau materyddol i fod yn hapus. Ni sylweddolais chwaith faint y byddwn i’n caru mynd â’r cŵn am dro. Cerddais lot gyda’m nheulu bach.

C2. Beth yw’r peth sydd wedi aros yn y cof fwyaf yn ystod y cyfnod clo?

Roeddem yn hapus iawn i brynu ci bach ar gychwyn y cyfnod clo. Mae ‘ci bach cyfnod clo’ wedi bod yn bwnc llosg yn y wasg ond mae Marley wedi dod â chymaint o hapusrwydd i ni yn y flwyddyn afiach yma. Y digwyddiad mwyaf yn ystod y cyfnod clo oedd y diwrnod cyrhaeddodd ein tŷ, 9 wythnos oed ac yn dedi bêr bach gorjys.

C3. Eglura pa bethau rwyt ti’n ei golli fwyaf o dy fywyd cyn COVID-19. Sut wyt ti am sicrhau nad wyt ti’n cymryd y rhain yn ganiataol yn y dyfodol?

Yn bendant gallu gweld teulu fel yr wyf eisiau. Mae Nanna a fi yn agos iawn, ac mae wedi bod yn anodd iawn peidio gallu neidio i’r car i fynd ati. Dim ond dwywaith rwyf wedi ei gweld eleni ac mae wedi bod yn anodd iawn i ni ac i hithau.

Os oes unrhyw beth yn stori Sophie sydd wedi cael effaith arnat ti, siarada gyda Meic, llinell gymorth gyfrinachol i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Cysyllta yng Nghymraeg neu Saesneg – dy ddewis di! Maent yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gellir cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim i bawb.

 

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd