Stori Angharad

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o straeon yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau go iawn gan bobl ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo. I weld straeon eraill, clicia yma.

C1. Beth yw’r peth pwysicaf rwyt ti wedi dysgu am dy hun yn ystod y cyfnod clo?

Rwyf wrth fy modd yn treulio amser ar ben fy hun a threulio mwy o amser gyda’r teulu. Mae wedi dod â fi’n agosach atynt a sylweddoli fy mod i’n colli allan ar lot gan fod i’n brysur drwy’r adeg. Rwyf wedi dysgu bod angen cymryd amser allan weithiau i werthfawrogi popeth o’m nghwmpas. Roeddwn i’n colli allan ar hyn i gyd am fod i mor brysur.

C2. Beth yw’r peth sydd wedi aros yn y cof fwyaf yn ystod y cyfnod clo?

Yr atgof gorau oedd llwyddo cwblhau fy ngradd yn ystod y cyfnod clo ac yn derbyn anrhydedd dosbarth cyntaf; bydd hynny’n aros yn y cof am byth. Ond yn fwyaf, sut daeth y gymuned at ei gilydd… siopa i bobl hŷn, ffonio ffrindiau mwy i weld bod nhw’n iawn, rhith ddigwyddiadau i gadw’n hwyliog ayb. Er ein bod ar wahân, roeddem gyda’n gilydd o hyd.

C3. Eglura pa bethau rwyt ti’n ei golli fwyaf o dy fywyd cyn COVID-19. Sut wyt ti am sicrhau nad wyt ti’n cymryd y rhain yn ganiataol yn y dyfodol?

Y peth rwy’n colli fwyaf am y cyfnod cyn coronafeirws yw’r ochr gymdeithasol. Rwyf wedi bod yn rhywun sydd yn mwynhau cyfarfod gyda ffrindiau a theulu i fynd am noson allan, am fwyd, coffi neu sgwrs gartref. Nid allaf ddisgwyl i gael yn ôl i hynny pan fydd popeth drosodd.

Os oes unrhyw beth yn stori Angharad sydd wedi cael effaith arnat ti, siarada gyda Meic, llinell gymorth gyfrinachol i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Cysyllta yng Nghymraeg neu Saesneg – dy ddewis di! Maent yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gellir cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim i bawb.

 

 

 

Related
News

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd