Profiad Cyfnod Clo Isobel

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o straeon yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau go iawn gan bobl ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo. I weld straeon eraill, clicia yma. Ysgrifennwyd yr erthygl yma ar gyfer yr ymgyrch gan Isobel Wackett, myfyriwr prifysgol Caerdydd 20 oed.

Ers mis Mawrth 2020, roedd bywydau pawb wedi gorfod aros yn llonydd. Treuliwyd ein hamser yn gweithio o adref, yn pobi bara banana, a mynd yn ffanatig am TikTok. Er roedd llawer o bobl yn awyddus i weld bai, roedd eraill yn dod at ei gilydd fel cymuned i geisio rhannu ychydig o hapusrwydd.

Yn ystod y pandemig penderfynais, ynghyd â dau o fy ffrindiau pennaf, i lenwi’r amser rhydd a bod yn greadigol wrth gychwyn blog ein hunain ‘Spark and Spill’. Roeddem yn awyddus i gysylltu gyda’n ffrindiau oedd wedi’u lleoli dros Brydain gyda’r bwriad o wneud iddynt chwerthin, gan hefyd rannu mewnwelediad bach i’n ‘gweithgareddau cyfnod clo’ diweddaraf.

O adolygiadau llyfrau, ffilm a theatr ar-lein i hel atgofion am y llefydd gorau ym Mhrydain i fynd ar wyliau, bwriad y blog yma oedd ysbrydoli eraill i fod yn greadigol!

Yn aml iawn, roedd y cyfryngau yn barod i osod bai ar y myfyrwyr am ledaenu’r firws, roeddem eisiau newid hyn a’u profi’n anghywir. Yn ogystal â rhannu ein gweithgareddau o ddydd i ddydd gyda’r darllenwyr, amlygwyd a hyrwyddwyd busnesau lleol newydd myfyrwyr eraill ac agweddau creadigol oedd yn codi ei ben o ganlyn y pandemig.

Roedd agwedd ddyfeisgar o ysbrydoli, hyrwyddo a chysylltu gydag eraill trwy’r Rhyngrwyd yn caniatáu i gymaint o fyfyrwyr dros Brydain a’r byd i ddod at ei gilydd fel cymuned. Yn ogystal â chefnogi ei gilydd, roeddent hefyd yn rhannu ychydig o lawenydd, ac yn araf bach yn helpu ei gilydd trwy’r pandemig byd eang yma.

I ddarllen mwy o erthyglau’r ymgyrch, clicia yma.

 

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd