Stori Sion

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o straeon yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau go iawn gan bobl ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo. I weld straeon eraill, clicia yma.

C1. Beth yw’r peth pwysicaf rwyt ti wedi dysgu am dy hun yn ystod y cyfnod clo?

Rwyf wedi dysgu bod cael trefn yn hanfodol ar gyfer fy llesiant meddyliol a chorfforol, yn ogystal â hunanofal ac amser i wella. Cadarnhawyd hyn pan gefais lid y pendics ac roedd yn bwysig i mi gael gorffwys yn feddyliol ac yn gorfforol. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi’r cysylltiad wyneb i wyneb gyda ffrindiau lawer mwy, yn ogystal â chymuned.

C2. Beth yw’r peth sydd wedi aros yn y cof fwyaf yn ystod y cyfnod clo?

Y cyfnod sydd yn aros yn y cof fwyaf ydy pan gefais lid y pendics, yn syth ar ôl graddio o’r Brifysgol. Roedd rhywbeth yn teimlo’n od, ac roeddwn i’n iawn i boeni, fel gwnes i ddarganfod pan es i’r ysbyty. Roedd pethau’n eithaf brawychus, ond roedd yn rhyddhad yn fwy nac dim ar ôl i mi wneud y peth iawn a bod mewn dwylo da. Un effaith cafodd COVID-19 oedd nad oeddwn i’n cael ymwelwyr, felly roedd yn eithaf unig, ond roeddwn yn gyrru negeseuon i mam a’m ffrindiau yn aml i’w diweddaru, felly roedd hynny’n eithaf braf.

C3. Eglura pa bethau rwyt ti’n ei golli fwyaf o dy fywyd cyn COVID-19. Sut wyt ti am sicrhau nad wyt ti’n cymryd y rhain yn ganiataol yn y dyfodol?

Rwy’n colli cyfarfod wyneb i wyneb gyda ffrindiau yn bendant a hefyd yn dysgu gan bobl eraill o’m nghwmpas mewn person. Byddaf yn trefnu treulio amser gyda ffrindiau mwy a gwneud mwy o amrywiaeth o bethau gyda nhw. Roeddwn yn cadw i’m hun mwy cyn y cyfnod clo am fy mod i’n awtistig, ond hoffwn ddangos gwerthfawrogiad i’r bobl sydd wedi gwneud i mi deimlo’n llai od ac i gofleidio’r fi y tu ôl i’m mwgwd goroesiad. Rwyf hefyd yn methu’r clybiau!

Os oes unrhyw beth yn stori Sion sydd wedi cael effaith arnat ti, siarada gyda Meic, llinell gymorth gyfrinachol i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Cysyllta yng Nghymraeg neu Saesneg – dy ddewis di! Maent yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gellir cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim i bawb.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd