Profiad Cyfnod Clo Abby

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o straeon yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau go iawn gan bobl ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo. I weld straeon eraill, clicia yma. Ysgrifennwyd yr erthygl yma ar gyfer yr ymgyrch gan Abby Allen, myfyriwr prifysgol Caerdydd 20 oed.

Ar gychwyn y pandemig yma, penderfynais ddefnyddio’r dull ‘aros yn fyw’: yn hytrach nag defnyddio’r cyfnod i gychwyn siwrne ffitrwydd cliché, treuliais lawer o’r amser yn bwyta, siarad gyda ffrindiau Prifysgol ar Zoom a binjo ar Netflix yn ormodol.

Fel myfyriwr Llenyddiaeth Saesneg angerddol wedi fy llorio yn gorfforol ac yn feddyliol, roeddwn wedi colli fy hun yn greadigol a phenderfynais feddwl am ffordd newydd i deimlo’n gynhyrchiol. Penderfynais roi tro ar beintio – menter od, ar hap a gwahanol i mi gan nad wyf wedi codi brwsh paent ers yr ysgol gynradd. Ond roedd archebu paent rhad ar y rhyngrwyd yn un o’r penderfyniadau gorau gallwn i wedi’i wneud.

Er mod i’n diffyg y dychymyg i feddwl am unrhyw beth unigryw (dwi ddim yn da Vinci mae’n bendant), roedd ychydig o amser yn sgrolio trwy Pinterest yn ddigon i danio’r dychymyg creadigol ac roedd yr oriau yn pasio heibio fel munudau.

Ar ôl creu rhywbeth newydd fy hun mewn byd a oedd yn ymddangos yn llwm iawn, penderfynais i rannu positifrwydd fy hobi diweddaraf a gyrru lluniau i’m ffrindiau. Gan ddeall na fyddwn yn eu gweld am gyfnod hir, roedd y syniad ohonynt yn agor rhywbeth gallai gynnig ychydig o oleuni ar eu diwrnod yn ysgogiad i mi yn fy antur newydd.

Rwy’n credu mai thema glir i ddod allan o’r pandemig yw’r angen i helpu ac ymestyn allan i’n gilydd. I mi, roedd cwpl o oriau yn peintio ac yn ysgrifennu i’m ffrindiau yn adfer y rhamantwr ynof. Mewn cyfnod o arwahanrwydd, roedd gyrru cerdyn wedi’i beintio i ffrind yn fath o lythyr cariad gen i.

Nawr fy mod i wedi dechrau meddwl yn greadigol eto ers i’r Brifysgol ailddechrau, mae’r bocs o baent ar ben y wardrob yn atgof parhaus o effaith positif creadigrwydd corfforol. Mawr neu fach, roedd creu rhywbeth – bod hynny’n ofnadwy neu’n anhygoel – yn therapi i mi, ac yn un rwy’n bwriadu parhau i rannu yn y cyfnodau od yma.

I ddarllen mwy o erthyglau’r ymgyrch, clicia yma.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd