Stori Kirsten

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o straeon yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau go iawn gan bobl ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo. I weld straeon eraill, clicia yma.

C1. Beth yw’r peth pwysicaf rwyt ti wedi dysgu am dy hun yn ystod y cyfnod clo?

Nid yw cwmni fy hun mor ddrwg â hynny ac mae bod yn unig weithiau yn beth da. Rwyf hefyd wedi dysgu pa mor bwysig yw siarad gyda phobl am y ffordd rwyt ti’n teimlo a pa mor bwysig yw iechyd meddwl a llesiant o fewn dy hun a phobl eraill o dy amgylch. Dysgais ei bod yn bwysig gofyn yn aml i eraill os ydynt yn iawn.

C2. Beth yw’r peth sydd wedi aros yn y cof fwyaf yn ystod y cyfnod clo?

Llwyddais golli stôn yn y cyfnod clo a chanolbwyntio ar fy iechyd meddwl a llesiant gyda’r holl amser i mi fy hun. Roeddwn yn mwynhau treulio amser gyda theulu gan ein bod adref â’n gilydd. Roeddwn hefyd yn mwynhau’r ymarfer corff dyddiol yn mynd am dro gyda mam a darganfod llefydd braf i fynd i archwilio oedd yn agos i adref.

C3. Eglura pa bethau rwyt ti’n ei golli fwyaf o dy fywyd cyn COVID-19. Sut wyt ti am sicrhau nad wyt ti’n cymryd y rhain yn ganiataol yn y dyfodol?

Rwy’n colli’r teulu i gyd yn cyfarfod am ddigwyddiadau arbennig. Rwy’n colli gweld aelodau’r teulu a ffrindiau a gallu mynd allan i’r clwb nos ac am ddiodydd. Rwyf hefyd yn colli ddim teimlo’r pwysau o boeni am ddal y firws a’i basio i eraill.

Os oes unrhyw beth yn stori Kirsten sydd wedi cael effaith arnat ti, siarada gyda Meic, llinell gymorth gyfrinachol i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Cysyllta yng Nghymraeg neu Saesneg – dy ddewis di! Maent yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gellir cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim i bawb.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd