Profiad Cyfnod Clo Cali

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o straeon yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau go iawn gan bobl ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo. I weld straeon eraill, clicia yma. Ysgrifennwyd yr erthygl yma ar gyfer yr ymgyrch gan Cali Eastwick-Field, myfyriwr prifysgol Caerdydd 20 oed.

Roedd fy mhrofiad cyfnod clo yn un anghyffredin iawn!

Ar ôl dychwelyd adref am yr haf roeddwn yn awyddus cychwyn gwaith rhywsut, ond roedd hyn yn dasg anoddaf nag yr oeddwn wedi’i ddychmygu gyda chyfyngiadau dealladwy. Rwy’n bwriadu cwblhau gradd Meistr mewn Rheolaeth Amgylcheddol ond rwy’n fyfyriwr Cyfryngau felly nid wyf yn gymwysedig am unrhyw swydd sydd yn ymwneud â amgylcheddaeth, ac roedd hyn yn gwneud y dasg ychydig yn fwy anodd.

Dyfalbarheais, ac ar ôl gyrru CV i ryw ddeg asiantaeth, llwyddais i sicrhau swydd hyfforddiant di-dâl od iawn fel ecolegydd cynorthwyol. Heb unrhyw syniad beth i’w ddisgwyl, cefais wybod y byddwn yn treulio fy amser yn yr awyr agored trwy gyfnod y swydd (roedd hyn yn fy nrysu braidd). Er, meddyliais y byddai swydd hyfforddiant yn 2020 yn edrych yn dda iawn ar fy CV felly roeddwn yn ddiolchgar.

Roeddwn yn gadael am y gwaith am 9 y nos neu 2 y bore. Beth ar y ddaear oeddwn i’n ei wneud yn yr amser yma? Wel, edrych am ystlumod (a madfall y dŵr bob hyn a hyn).

Daeth y drefn newydd od yma yn gyfarwydd yn ddigon sydyn, er nad allaf siarad dros fy rhieni fydda’n clywed y drws ffrynt yn cau am 2yb wedi’i ddilyn gan gyfarth ein cŵn. Yna byddwn yn gyrru i’r lleoliad ystlumod dynodedig, tynnu’r welîs ymlaen, agor y gadair gwersylla, ac edrych am ystlumod am 2 awr cyn gyrru gartref.

Un o’r lleoliadau gwaethaf oedd mynwent ble roedd rhaid i mi atgoffa fy hun trwy’r amser nad oedd y fath beth ag ysbrydion yn bodoli. Ond, cyn hir roeddwn yn caru’r swydd od yma sydd wedi agor llwybr at fy nyfodol.

Felly, treuliais yr haf cyfan yn eistedd mewn cae, ar ben fy hun, yn edrych i fyny i’r awyr, yn cyfri mamaliaid adeiniog a ddim yn derbyn ceiniog am wneud hynny. Ond roeddwn wrth fy modd.

I ddarllen mwy o erthyglau’r ymgyrch, clicia yma.

Related
News

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd