Pan wyt ti’n teimlo fel ei bod hi’n ‘GAME OVER’, mae chwarae gemau fideo yn gallu helpu pobl ifanc i LEFELU I FYNY pan ddaw at eu hiechyd meddwl a lles emosiynol.
Y comisiwn
Fel rhan o’r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, mae ProMo-Cymru wedi comisiynu 21 o artistiaid rhwng 11 a 24 oed o Gaerdydd i greu darn o gelf am yr effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl.
Cyllidwyd y prosiect gan Gyngor Gaerdydd a Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, ac roedd hyn yn sicrhau bod pob person ifanc yn derbyn £200 am eu gwaith celf.
Mae’r holl ddarnau celf yn cael eu harddangos yn y Good Game Cafe ar Tudor St, Caerdydd, am y mis nesaf, felly cer draw i’w gweld dy hun os gei di gyfle.
Sut mae chwarae gemau fideo yn gallu cael effaith ar iechyd meddwl?
Mae’r effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar blant a phobl ifanc wedi bod yn bwnc dadl fawr dros y blynyddoedd. Ond, roedd y bobl ifanc a gymerodd rhan yn y comisiwn yma yn hynod o bositif am yr effaith mae chwarae gemau wedi ei gael ar eu hiechyd meddwl a lles emosiynol.
I sawl un, roedd chwarae gemau yn gyfle i gyfarfod ffrindiau newydd ac i gynnal perthnasau sydd yn bodoli eisoes. Roedd rhai o’r bobl ifanc yn rhannu pa mor hanfodol oedd hyn i gymdeithasu trwy sawl cyfnod clo yn ystod y pandemig. Eraill yn rhannu sut mae chwarae gemau wedi bod yn help i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, magu hyder ac annog creadigrwydd. Mae chwarae gemau hefyd wedi bod yn ofod diogel iddynt archwilio’u hunaniaeth, yn ogystal â bod yn le i ddianc o realiti.
Yr ymgyrch
Mae’r ymgyrch Paid Byth ag Ildio wedi cael ei greu i arddangos yr artistiaid anhygoel yma a’u celf. I weld y darnau yma dy hun, cer draw i’r Good Game Café ble byddant yn cael eu harddangos tan 18fed Ebrill 2022 o leiaf. Gallet ti hefyd weld llun o waith pawb ym mlogiau unigol yr artistiaid sydd yn llawn gwybodaeth am yr artistiaid a’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’w campwaith. I ddarllen y blogiau yma, clicia’r dolenni isod:
- Saabiqah Tariq Khan, 15
- Auryn John Paul Austin, 20
- Lily Gallop, 12
- Willow Brailsford, 14
- Eleri Davies, 12
- Eshaan Niraj Rajesh Kumar, 18
- Ace Shingles, 17
- Kallie-Ann Norris, 19
- Callum Mackie, 15
- Jordan Smith, 24
- Paolo Bini, 13
- Logan Fegan, 11
- Enfys Evans, 15
- Jacob O’Mara, 11
- Farah Thomas, 14
- Nalani Angel Hallam, 16
- Llian Susan Hubbard, 19
- Leon Hollis, 22
- Mia Capener-Jones, 16
- Alicia Gil-Cervantes, 18
- Ella Williams, 15
Gwybodaeth Berthnasol
Wyt ti’n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnal clwb gemau fideo i bobl ifanc 11-16 oed yn y Good Game Café ar nos Lun, 5-7:30 yn ystod tymor yr ysgol. Mae croeso i rywun ddod draw ar y noson, i weld beth sydd yn digwydd ac i gymryd rhan.
Os wyt ti’n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio’r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif