Mae Ace, 17, yn rhannu sut mae chwarae gemau wedi dylanwadu a’i ysbrydoli i fod y person ydyw heddiw.
Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Ace, artist 17 oed oedd yn rhan o’r prosiect.
Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?
Mae chwarae gemau fideo wedi helpu gyda hyder ac i wneud ffrindiau newydd ar-lein sydd o’r un oed ac sy’n fy neall.
Mae hefyd wedi ysbrydoli fy arddull celf a’r ffordd rwy’n cyflwyno’r arddull yma. Mae wedi ysbrydoli’r ffordd rwy’n dylunio cymeriadau ac yn datblygu straeon. Mae gemau wedi fy ysbrydoli i feddwl am syniadau i’w creu neu i’w hystyried ar gyfer gwaith yn y dyfodol.
Mae chwarae gemau wedi tynnu fy ffrindiau ar-lein o wledydd eraill, neu berthnasau pell, yn agosach. Mae fy mrawd bach a finnau yn agosach hefyd, er ein bod yn ffraeo, mae pethau yn cael eu setlo wrth chwarae Minecraft!
Mae chwarae gemau gwahanol fel Just Dance yn tynnu’r teulu at ei gilydd, mae chwarae VR a’i ddangos i’r teulu yn bwnc sgwrs ac mae pawb yn cael hwyl wrth ryngweithio mewn gemau. Mae chwarae gemau fideo wedi bod yn rhan o fy mywyd ers plentyndod. Dechreuais wrth chwarae gemau Sonic ar y Sega Megadrive yn 5 oed! Roedd wastad yn fy ysbrydoli a dyma sydd wedi creu’r person a’r artist ydw i heddiw.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r gwaith yma?
Fy enw i yw Ace, ac rwy’n cael fy adnabod fel AceFlesh hefyd. Rwy’n artist digidol sydd yn creu celf ac animeiddiad i’r bobl sydd yn fy nilyn ac fel hobi. Rwy’n creu fy ngwaith gyda iPad a Procreate.
Roeddwn yn awyddus i’r darn yma gynnwys elfennau o’r hyn dwi’n ei gofio o’m mhlentyndod, teimlad y carped caled ar y llawr, a’r ystafell dywyll wrth i mi chwarae ar y Megadrive gyda ffrindiau. Mae’n awyrgylch cyfforddus gyda’r golau o’r sgrin a’r hen deledu yn brifo fy llygaid ar ôl dipyn.
Cafodd y ddau gymeriad yma eu creu o ffrindiau fy mhlentyndod, yn chwarae Sonic and Tails ar y Megadrive ar ôl ysgol. Roedd fy ffrind a finnau yn arfer chwarae ac yn gwisgo fel cymeriadau Sonic bob dydd.
Mae Sonic wedi creu’r person ydw i heddiw, gyda steil a hyder. Wrth dyfu, mae llawer o gymeriadau eraill wedi dylanwadu’r person ydw i heddiw. Rwyf eisiau i’r darn yma ddangos sut mae gemau yn gallu ysbrydoli pobl i fod yn greadigol, gwneud ffrindiau a magu hyder.
Pa neges fyddet ti’n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?
Mae iechyd meddwl fy hun wedi bod yn strygl ers cyfnod hir. Cefais brofiad a newidiodd fi am byth yn ifanc. Fy nihangfa oedd y pethau oedd yn fy niddori, fel celf, ffilmiau a gemau.
Os wyt ti’n mynd drwy gyfnod pryderus, chwilia am bethau sydd yn gallu tawelu dy feddwl, y pethau o’r gorffennol rwyt ti’n hiraethu amdanynt, neu chwarae gêm rwyt ti’n mwynhau. Os nad yw hyn yn llwyddiannus, chwilia am gymorth ffrind neu berthynas. Ni ddylai neb fod yn dioddef ar ben eu hunain😊
Gwybodaeth Berthnasol
I ddarganfod mwy am yr ymgyrch Paid Byth ag Ildio ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia YMA.
Wyt ti’n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.
Os wyt ti’n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio’r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti’n rhannu!