Paid Byth ag Ildio: Cyfarfod yr Artistiaid gyda Jacob O’Mara

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae Jacob, sy’n 11, yn dweud bod creu bydoedd gwahanol yn ei helpu i gael gwared ar deimladau negyddol ac mae’n teimlo y gallai ddelio gyda phryderon bywyd ar ôl chwarae gemau fideo.

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Jacob, artist 11 oed oedd yn rhan o’r prosiect.

Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?

Mae chwarae gemau wedi bod yn help i fi wrth fynd trwy gyfnodau anodd adref ac yn yr ysgol. Mae fy rhieni wedi gwahanu yn ddiweddar ac roedd hyn yn achos lot o bryder ac iselder. Mewngofnodi i gêm ydy fy ffordd i o fyfyrio. Mae’n rhoi brêc o fywyd go iawn sydd yn anodd ei wneud fel arfer. Mae’n ymlacio fi ac yn tynnu’r corneli pryderus yn fy ymennydd. Mae’n rhoi feibs positif wrth chwarae gan ei fod yn cynhyrchu cemegau hapus yn yr ymennydd. Gwyddonol iawn!

Ar y cyfan, dwi wrth fy modd gyda gemau fideo a’r holl gemau cyffrous ac anturiaethus sydd ar gael. Dwi ddim yn meddwl y byddwn i wedi gallu ymdopi gydag ymdrechion bywyd heb gael mynediad i chwarae gemau. Mae wedi bod yn ffordd dda o ymdopi i fi. Os wyt ti’n dewis y gêm gywir ar gyfer y tymer cywir rwyt ti ynddi, yna rwyt ti’n gallu dod allan ar yr ochr arall yn teimlo’n bositif, hyderus ac yn meddwl yn llawer gwell nag yr oeddet ti cynt.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r gwaith yma?

Os ydw i’n teimlo’n isel pan fyddaf yn mynd ar-lein, y bwriad ydy tynnu fy hun i ffwrdd o’r byd go iawn. Weithiau mae bywyd yn gallu bod yn anodd. Weithiau’r unig beth sydd ei angen ydy i ddianc o’r pethau sydd yn rhoi trafferth i ti. Bod hynny’n chwarae gyda phlant eraill i gymdeithasu neu greu bywyd animeiddiedig newydd gyda’r holl bethau sydd yn gwneud ti’n hapus.

Rwy’n mwynhau creu gwahanol fydoedd i fi fy hun sydd ddim yn cynnwys y straen dyddiol sydd yn fy mhoeni i weithiau. Gallaf fod yn berson gwahanol. Gallaf adeiladu’r hyn mae fy ymennydd eisiau gweld a meddwl amdano. Mae’n rhoi ffocws i mi. Mae ‘Fy Lle Hapus’ yn dweud y cyfan. Gallaf roi safbwynt gwahanol ar fywyd a thynnu meddyliau negyddol neu bryderon. Gallaf greu’r union le dwi eisiau iddo fod. Mae’n gwneud i mi werthfawrogi’r holl bethau hapus gallaf fod yn ddiolchgar amdanynt mewn bywyd. Cyn i mi sylweddoli, mae pryderon bywyd yn tueddu bod yn haws i ddelio â nhw.

Pa neges fyddet ti’n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?

Byddwn yn cynghori unrhyw un i siarad. Dyma’r ffordd orau i helpu rhywun gan nad wyt ti ar ben dy hun gyda dy deimladau. Mae rhannu dy deimladau yn gallu helpu i resymoli pethau yn dy ben di hefyd ac yn gallu gwneud i ti sylweddoli nad yw pethau mor ddrwg ag yr oeddet ti wedi’i feddwl. Gofala am dy les dy hun, gwna bethau sydd yn gwneud ti’n hapus. Cymera seibiant o’r anrhefn.

Gwybodaeth Berthnasol

I ddarganfod mwy am yr ymgyrch Paid Byth ag Ildio ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia YMA.

Wyt ti’n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.

Os wyt ti’n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio’r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti’n rhannu!

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd