Paid Byth ag Ildio: Cyfarfod yr Artistiaid gyda Willow Brailsford

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae Willow, person ifanc o Gaerdydd yn rhannu sut mae chwarae gemau fideo yn gallu annog creadigrwydd ac yn ffordd wych i fynegi dy hun.

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Eleri, artist 12 oed oedd yn rhan o’r prosiect.

Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?

Mae chwarae gemau fideo wedi fy helpu i ymlacio ac weithiau mae’n gallu tynnu sylw os ydw i’n teimlo straen. Mae’n fy nhawelu i lot, a dwi’n mwynhau chwarae gyda fy ffrindiau. Fedrai ddim dweud mod i wedi gwneud mwy o ffrindiau, gan fod i’n eithaf gofalus ar-lein, ond mae’n helpu mewn llawer o ffyrdd eraill ac mae’n lot o hwyl!

Mae hefyd yn wir helpu mi i fynegi fy hun a pwy ydw i mewn ffyrdd nad allaf yn y byd go iawn. Dwi’n caru addasu cymeriadau ac adeiladu pethau. Dwi’n ffan fawr o ochr creadigol gemau, ond mae’r gweddill yn wych hefyd – dwi’n caru’r rheiny hefyd.

Pan dwi’n teimlo fel bod pethau’n ormod, neu’n mynd i banig, dwi’n eistedd i lawr ac yn neidio yn syth i mewn i gêm! Dwi’n caru gemau fideo ac er mod i yn tueddu cyfyngu fy hun i un neu ddau, mae’n gyffrous ymestyn allan i wahanol fathau o gemau.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r gwaith yma?

Yr ysbrydoliaeth ar gyfer creu’r darn celf yma oedd y teimlad y gallai helpu eraill i ddeall sut mae chwarae gemau fideo yn gwella ac yn helpu iechyd meddwl. Mae yna stigma mawr o gwmpas gemau, gyda llawer yn meddwl bod gemau fideo penodol yn troi rhywun yn dreisiol, a dwi’n meddwl bod hyn yn hollol anghywir.

Rwy’n gobeithio bod fy ngwaith celf yn ysbrydoli eraill i fod yn falch o chwarae gemau ac o’u hiechyd meddwl. Gobeithio hefyd y bydd yn helpu rhywun i geisio cael cymorth y tu allan i gemau.

Mae fy ngwaith celf yno i ddangos pwysigrwydd iechyd meddwl ac mae’n un ffordd o geisio gwella un fi. Mae yna filoedd o ffyrdd eraill, dyma’r un dwi wedi dewis dangos yn y darn yma.

Fel y gweli di, rwyf wedi defnyddio 2 lun gwahanol ac wedi manipiwleiddio’r lliwiau i fod yn fantais i mi. Dwi wedi defnyddio gwahaniaeth amlwg yn y lliw cefndir a bar iechyd i ddangos sut mae tymer rhywun yn gwella oherwydd y gêm fideo.

Pa neges fyddet ti’n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?

Er ei fod yn swnio fel cliché, mae pethau yn gwella. Dwi’n gwybod ei fod yn anodd nawr, ond ceisio dod drwyddi a dod o hyd i system gefnogol dda. Bod hynny’n ffrindiau neu’n deulu, mae hyn yn bwysig dros ben, yn ogystal â cheisio dewis arferion da. Er enghraifft, rwy’n ceisio rhoi hanner awr i mi fy hun cyn cysgu i helpu tawelu’r meddwl ac adlewyrchu ar y pethau sydd wedi digwydd y diwrnod hwnnw. Wir ar, cadwa ati – fedri di wneud hyn!

Gwybodaeth Berthnasol

I ddarganfod mwy am yr ymgyrch Paid Byth ag Ildio ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia YMA.

Wyt ti’n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.

Os wyt ti’n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio’r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti’n rhannu!

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd