Paid Byth ag Ildio: Cyfarfod yr Artistiaid gyda Mia Capener-Jones

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae Mia, 16 o Gaerdydd, yn rhannu sut mae chwarae gemau fideo wedi ei helpu i daclo unigrwydd ac i wneud ffrindiau.

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Mia, artist 16 oed oedd yn rhan o’r prosiect.

Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?

Rwy’n defnyddio gemau i gymdeithasu a chyfarfod ffrindiau newydd yn aml, yn enwedig pan oeddwn allan o’r ysgol a byth yn gadael y tŷ. Mae cysylltu gyda phobl sydd â’r un diddordebau a gemau yn help mawr, yn rhoi rhywbeth i edrych ymlaen ato bob dydd. Rwy’n teimlo fel rhan o gymuned ac rwyf yn ddiolchgar iawn am bawb dwi wedi cyfarfod!

Rwy’n deall sut mae pobl yn gallu teimlo am gymdeithasu ond mae hyn wedi newid y ffordd dwi’n meddwl. Mae cael grŵp o bobl o’r un meddylfryd i ddibynnu arnynt yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf unig wedi gwneud gwahaniaeth mawr a diolch i gemau fideo, cefais gyfarfod â’r bobl yma.

Roedd y gemau roeddwn yn chwarae yn aml yn rhai oedd ddim ar-lein, ond roeddwn i’n gallu darganfod pobl oedd yn mwynhau’r un pethau ac er nad wyf yn chwarae cymaint â nhw bellach, mae yna le arbennig yn fy nghalon am bopeth y gwnaethant i mi. Ysbrydoloff fi i ddechrau creu cymeriadau gwreiddiol, a dyma’r diddordeb mwyaf sydd gen i ar hyn o bryd.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r gwaith yma?

Cafodd y darn celf yma ei greu yng nghanol bloc artist, dim ysgogiad nag ysbrydoliaeth ar yr ade, felly penderfynais wneud rhywbeth o hyn. Dyma’r cyfnod roeddwn i’n hoff iawn o chwarae gemau, felly mae llawer o’r raffeg od a lliwiau llachar wedi’u hysbrydoli gan ‘glitches’ gêm. Mae cael ‘glitch’ mewn gêm yn gwneud i ti deimlo datgysylltiad o’r gêm yna, yn dy dynnu di allan o’r byd yna, a pan fydd yn digwydd drosodd a throsodd , gall deimlo’n anobeithiol. Fel nad oes dim y gallet ti ei wneud i ddatrys y broblem.

Cymeriad gwreiddiol gen i yw’r cymeriad, sef Sumu! Daeth y syniad gwreiddiol o gêm. Cafodd ei chreu yn 2018 – 4 mlynedd yn ôl! Mae wedi newid lot wrth i mi dyfu. Roedd 2018-2019 yn gyfnod drwg iawn i mi, felly roedd Sumu yn siriol ac yn hapus. Bellach rwyf mewn sefyllfa llawer hapusach, ac mae hi wedi mynd y ffordd arall. Mae’n apathetig ac yn sarcastig i’r mwyafrif, yn cadw at ei hun yn yr ysgol ac yn aros ar ben ei hun am gyfnodau hir. Fel llawer ohonom, mae’n defnyddio gemau fideo a chelf fel dihangfa. Mae’r darn yma yn ymgorffori hynny i fi a Sumu.

Y cymeriadau ar y sgrin ‘pop-up’ yw cymeriadau Sumu ei hun. Dwi’n hoffi ei alw’n Oc-Ception. Loe yw’r un mwyaf amlwg, y ‘cymeriad estron’ gwallt porffor. Mae’n gymeriad ‘estron’ a ddaeth i’r ddaear ar ddamwain a darganfod llawenydd canu. Meddylia Hatsune Miku! Mae Low yn atgoffaol o gymeriad gêm, gyda phatrwm symud, dialog, dyluniad cymeriad ayb. tebyg. Roeddwn eisiau creu cymeriad RPG heb fod yn un.

Gallwn siarad amdanyn nhw a’r darn yma am oriau ac rwy’n ei garu’n fawr iawn.

Pa neges fyddet ti’n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?

Nid wyt ti ar ben dy hun! Mae darganfod y ffordd gywir i ti fynegi a theimlo’n gyfforddus mewn cymuned rwyt ti’n cysylltu ag ef yn hynod bwysig i deimlo cyswllt ag eraill. Nid yn unig hynny, ond mae dysgu a darganfod pethau newydd am dy hun yn gallu helpu ti i ddeall pethau nad wyt ti’n deall yn iawn eto. Defnyddiais fy nghelf a fy nghymeriadau i ddysgu pethau newydd am fy hun yn y gorffennol, a dwi dal yn! Mae pawb yn wahanol, ond nid oes neb ar ben ei hun. Dwi’n addo hynny i ti! 💜

Gwybodaeth Berthnasol

I ddarganfod mwy am yr ymgyrch Paid Byth ag Ildio ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia YMA.

Wyt ti’n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.

Os wyt ti’n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio’r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti’n rhannu!

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd