Paid Byth ag Ildio: Cyfarfod yr Artistiaid gyda Lily Gallop

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae chwarae gemau fideo yn ffordd o ddianc i fyd gwahanol i Lily sydd yn 12 oed.

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Lily, artist 12 oed oedd yn rhan o’r prosiect.

Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?

Cychwynnais chwarae gemau fideo tua mis yn ôl, ac mae wedi rhoi gymaint o lawenydd i mi. Mae gemau yn ffordd o ddianc i fyd gwahanol am dipyn, ond mae’n ffordd i gysylltu gyda phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd.

Rwy’n teimlo pryder wrth siarad gyda phobl. Rwy’n cofio’r tro cyntaf i mi fynd i glwb gemau fideo, mor nerfus ac mewn lle drwg yn feddyliol, ond ar ôl mynd i’r clwb am gyfnod byr roedd popeth yn llawer gwell. Roeddwn yn llai pryderus ac yn teimlo’n rhan o rywbeth ac felly ddim ar ben fy hun. Roedd hefyd yn annog fy nghreadigrwydd i rannu fy syniadau gydag eraill. Dysgodd sgiliau gwaith tîm pwysig i mi a llawer o gemau newydd. Ar y cyfan, gemau fideo yw’r lle rwy’n gallu mynegi fy ngwir hun a chyfarfod pobl newydd.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r gwaith yma?

Yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’m ngwaith celf yw bod fi, dad a’m mrawd yn arfer chwarae Pokémon Sword a Shield, yn ei alw’n parti-poki. Roedd yn digwydd bob dydd Sadwrn. Byddem yn chwarae ac yn bwyta losin ac yn cael amser gwych ar y cyfan!

Y gwahanol fathau o Pokémon oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r lliwiau. Hyfforddwr campfa (Campfa Tylwyth Teg) ffuglennol yw’r cymeriad yn fy ngwaith celf – dyna pam bod Jiggly Puff yn sefyll wrth eu hochr. Nid oes gan y cymeriad wyneb gan fod Pokémon yn gêm gallet ti chwarae fel chwaraewr dienw.

Mae chwarae gyda fy nheulu wedi helpu cymaint gyda fy iechyd meddwl gan ei fod yn amser i ymlacio a siarad gyda dad a fy mrawd. Roedd y sgets yn dŵdl o’r ysgol wedi ei drosglwyddo i Procreate i greu’r darn gorffenedig.

Pa neges fyddet ti’n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?

Feri di ddim gadael i bobl gael at dy deimladau, neu byddant yn dy dynnu di lawr gyda nhw. Dwi ddim yn siŵr beth arall i ddweud, dwi ddim yn dda gyda chyngor ond mae yna lawer o bobl allan yno sydd yn barod i siarad a, yn fwy pwysig, gwrando gyda chyngor llawer gwell na allwn i’w roi. I gychwyn, roeddwn yn ofn ymestyn allan, ond unwaith i ti wneud, mae’n dod yn llawer haws.

Gwybodaeth Berthnasol

I ddarganfod mwy am yr ymgyrch Paid Byth ag Ildio ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia YMA.

Wyt ti’n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.

Os wyt ti’n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio’r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti’n rhannu!

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd