Paid Byth ag Ildio: Cyfarfod yr Artistiaid gyda Logan Fegan

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Defnyddiodd Logan, 11 oed, ei gariad at Minecraft i ddangos yr effaith bositif mae gemau fideo wedi ei gael ar ei iechyd meddwl.

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Logan, artist 11 oed oedd yn rhan o’r prosiect.

Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?

Mae chwarae gemau yn fy naearu ac yn helpu gyda fy nghylch ffrindiau y tu allan i’r ysgol. Mae’n galluogi fi i gau allan problemau bywyd go iawn. Er esiampl, roedd fy rhieni am gael ysgariad ond pan es i ar fy Xbox cwpl o ddiwrnodau wedyn roedd popeth oedd yn digwydd yn fy mywyd go iawn yn teimlo fel nad oedd yn wir ac roeddwn i wedi ‘zonio’ allan yn gyfan gwbl. Yn llythrennol, roedd popeth roedd ar fy meddwl cynt yn mynd allan o fy mhen tra roeddwn i ar yr Xbox.

Mae’n helpu fi i fod yn greadigol, yn Minecraft gallaf wneud unrhyw beth. Mae’n helpu gyda dysgu gwersi bywyd a dwi’n meddwl mai gemau yw’r rheswm mod i’n glyfar, nid yw’n pydru’r meddwl mam! Mae wedi dysgu geiriau newydd i mi; dwi’n gorfod gwneud mathemateg i lwyddo weithiau.

Mae’n helpu fi i wneud ffrindiau y tu allan i’r ysgol gan ei bod yn haws i mi wneud ffrindiau dros y rhyngrwyd gan nad ydw i’n poeni beth mae pobl yn ei feddwl amdanaf. Nid oes rhaid i mi weld nhw bron bob dydd, felly mae hynny’n tawelu’r meddwl. Ac, yn annhebyg i fywyd go iawn, rwyt ti’n gallu blocio pobl.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r gwaith yma?

I gychwyn, ceisiais greu amlfyd, lle mae’r gemau i gyd o hanes yn gwrthdaro ac yn arnofio. Yna ar ôl hynny, gwelais rywun yn creu byd Minecraft fel celf felly newidiais fy syniad i Minecraft lle’r oedd y bydau i gyd yn gwrthdaro. Nid oedd hynny’n llwyddiannus, felly ceisiais greu dinas sydd yn adlewyrchu iechyd meddwl oherwydd lle gwell i wneud hynny ond mewn lle rwyt ti wedi arfer gydag ef. Rwyt ti’n gallu perthnasu â hynny ac mae’n ffitio dy fywyd bob dydd. Felly dyna ysbrydolodd y darn gorffenedig, y darn o waith celf Minecraft a’m mywyd.

Pa neges fyddet ti’n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?

Dal ati, yn y diwedd dim ond un bywyd sydd gen ti ar y ddaear yma. Ac un dydd byddi di’n hen a ddim yn gallu gwneud y pethau roeddet ti eisiau gwneud, a byddi di’n difaru.

Gwybodaeth Berthnasol

I ddarganfod mwy am yr ymgyrch Paid Byth ag Ildio ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia YMA.

Wyt ti’n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.

Os wyt ti’n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio’r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti’n rhannu!

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd