Paid Byth ag Ildio: Cyfarfod yr Artistiaid gyda Eleri Davies

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Pan mae Eleri, 12 oed, yn chwarae gemau fideo, mae’n teimlo fel ei bod yn cael ei chario i fydysawd gwahanol ble mae’r holl broblemau’n diflannu.

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Eleri, artist 12 oed oedd yn rhan o’r prosiect.

Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?

Dwi’n teimlo fel bod fy holl broblemau’n diflannu wrth chwarae gêm. Mae’r meddyliau a’r poeni wedi mynd. Dwi’n cael ymlacio, beth bynnag yw’r gêm. Mae chwarae gemau hefyd yn fy helpu i ganolbwyntio ar bob munud bach. Wrth chwarae gêm, dwi’n teimlo fel fy mod yn cael fy nghario i fydysawd gwahanol ble mae fy holl broblemau’n diflannu.

Mae fy iechyd meddwl yn gwella wrth chwarae gemau, yn enwedig pan dwi’n canolbwyntio’n llwyr. Dwi ddim yn poeni am yr ysgol neu waith cartref – mae’r pethau yma yn mynd o’r meddwl. Mae pawb yn poeni am waith cartref ac ysgol ond mae gemau yn tynnu’r sylw ac yn rhoi cyfle i mi ganolbwyntio ac ymlacio.

Mae chwarae gemau fideo hefyd wedi bod yn help i wneud ffrindiau a gwella fy sgiliau gwaith tîm gyda chwaraewyr neu ddefnyddwyr eraill, ac mae hyn yn help gydag iechyd meddwl a sgiliau cymdeithasol yn gyffredinol.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r gwaith yma?

Dwi’n chwarae gemau fideo yn ddyddiol ac yn teimlo y gall llawer o bobl eraill berthnasu â fy ngwaith celf.

Fel arfer, rwy’n dychwelyd o’r ysgol ac yn chwarae gyda fy ffrind gorau ar sawl gêm wahanol fel Roblox, Fortnite a Minecraft, pob un yn anhygoel. Mae fy chwaer a finnau yn chwarae Fortnite â’n gilydd yn ddyddiol i geisio gwella ein lefelau medr.

Mae fy ngwaith celf yn ddelwedd o’r iPad dwi’n chwarae’r gemau arno, sydd â dau berson ar y blaen. Y ddau berson yma yw fi a fy ffrind gorau. Maent mewn siâp cymeriadau/avatars Roblox. Rydym yn gafael dwylo yn y darn, gyda phethau positif mae chwarae gemau yn ei wneud i wella ein hiechyd meddwl o’n hamgylch. Er enghraifft, mae chwarae gemau yn helpu i fagu hyder, bod yn ddewr, ac yn ein helpu i weithio fel tîm, fel yn Fortnite ble rwyt ti’n gweithio mewn tîm i drechu pawb arall.

Pa neges fyddet ti’n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?

Byddwn yn dweud wrth rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl i ddarganfod rhywbeth i dynnu sylw. Amser i ymlacio – dim straen a dim poeni. Gallant greu celf mewn gofod distaw, chwarae gemau, neu fynd i ryw fath o glwb neu chwaraeon. Lle gallan nhw orffwys heb orfod poeni am unrhyw beth o gwbl.

Byddwn hefyd yn dweud wrthynt nad ydynt ar ben eu hunain a bod llawer o bobl eraill yn cael trafferthion iechyd meddwl a bod i yno iddyn nhw.

Gwybodaeth Berthnasol

I ddarganfod mwy am yr ymgyrch Paid Byth ag Ildio ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia YMA.

Wyt ti’n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.

Os wyt ti’n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio’r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti’n rhannu!

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd