Mae Jordan, sydd yn 24 oed, yn rhannu sut mae chwarae gemau fideo wedi gwneud iddi deimlo’n rhan o rywbeth mwy.
Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Jordan, artist 24 oed oedd yn rhan o’r prosiect.
Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?
Mae gemau fideo wedi bod yn ddihangfa greadigol a meddyliol i mi.
Yn iau, roedd yn dod â fi a fy ffrindiau yn agosach at ein gilydd, dyma oedd eu hobi nhw hefyd ac roedd hynny’n gwneud i mi deimlo fel rhan o rywbeth sydd yn fwy na’r pedwar wal yn fy ystafell.
Wrth i mi fynd yn hŷn, mae pwysau bywyd oedolyn yn tynnu fi i lawr o hyd ac yn straen ar fy iechyd meddwl. Rwy’n poeni am broblemau personol, economaidd, teuluol… bob math o bethau. Mae chwarae gemau fideo yn tynnu’r problemau i gyd i mewn ac yn eu taflu i ffwrdd. Rwy’n anghofio pam oeddwn i’n bryderus neu’n flin, a’r unig beth dwi’n teimlo ydy hwyl a phleser wrth chwarae gemau. Mae’n fy nhynnu’n agosach i ddeall pwy hoffwn i fod ac mae’n fy nghadw’n agos at fy ffrindiau.
Rwy’n berson hwyliog ac uchel, a gyda’r byd ar dân yn ystod y pandemig, dwi ddim wedi gallu cyfarfod â ffrindiau wyneb i wyneb cymaint. Gyda gemau fideo, rwy’n neidio i mewn i alwad discord gyda nhw ac yn chwarae trwy’r dydd – yn anghofio am amser ac yn mwynhau bywyd. Mae fy mhartner yn frwdfrydig iawn am gemau fideo hefyd ac mae’n fy ngwneud yn hapus iawn bod y ddau ohonom yn gallu rhannu’r profiad yma â’n gilydd, ar unrhyw amser o’r dydd. Mae’n gwneud y ddau ohonom yn gryfach ac yn unol yn erbyn ein demoniaid personol.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r gwaith yma?
Wrth greu’r gelf, newidiodd y lliwiau, cymeriadau’r a’r syniad yn gyfan gwbl sawl gwaith nes cyrraedd y syniad terfynol.
Fe gododd materion personol yn ystod y broses dylunio ac felly roedd rhaid aberth rhai pethau yn y darn gorffenedig. Rhoddais bob ymdrech y gallwn yn gorfforol i mewn i’r darn gorffenedig fel y gallwn greu rhywbeth roeddwn yn hapus ag ef. Byddai’r darn gwreiddiol wedi bod yn fwy gwobrwyol ond mae’r un yma yn dal i fod yn grêt.
Roeddwn eisiau creu darn oedd yn dangos sut gall rhywun fod angen help gan eu hoff gymeriad gêm, fydda’n rhoi cefnogaeth emosiynol ac yn rhoi hwb i hunanhyder ac iechyd meddwl. Es ati i greu gwaith oedd yn cyfleu dy fod di’n gallu bod mor gryf â dy hoff gymeriad. Link o gyfres The Legend of Zelda ydy fy hoff gymeriad i.
Penderfynais ddogfennu’r holl broses meddwl, y syniadau a’r dewisiadau mewn ffeil PDF, sydd yn egluro mwy am bopeth.
Pa neges fyddet ti’n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?
Hyd yn oed pan fydd pethau’n anodd, mae’n RHAID i ti fod yn gryf. Rwyt ti’n haeddu gweld hyn drwodd a chyrraedd y golau ar ben y twnnel. Rwyt ti’n meddwl mwy i bobl nag yr wyt ti’n sylwi ac efallai bod dy iechyd meddwl yn dy atal di rhag gadael iddynt helpu.
“Yesterday is history, tomorrow is a mystery and today is a gift. That’s why they call it the present” –Master Oogway (Kung Fu Panda)
Gwybodaeth Berthnasol
I ddarganfod mwy am yr ymgyrch Paid Byth ag Ildio ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia YMA.
Wyt ti’n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.
Os wyt ti’n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio’r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti’n rhannu!