Mae Leon, 22 oed o Gaerdydd, yn creu darnau celf i gynrychioli sut mae gemau yn gallu tynnu’r gorau allan o bobl.
Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Leon, artist 22 oed oedd yn rhan o’r prosiect.
Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?
Yn gyffredinol, mae wedi fy nghysylltu i’r byd ehangach ac wedi rhoi cyfleodd mewn sawl agwedd o’m mywyd, gan gynnwys gwneud ffrindiau a datblygu fi fel unigolyn.
Rwy’n bendant ei fod wedi bod yn help i ddiffinio fy nghymeriad ac wedi rhoi hwb i’m hyder hefyd. Mae’n ddarn unigryw ohonof ac rwy’n hynod ddiolchgar a balch o’i gael.
Wrth sôn am ddihangfa, mae’n rhoi cyfle i ymgolli’n llwyr ym myd fy hun ac i flaguro fel unigolyn.
Mae gen i natur eithaf cystadleuol ac mae gemau fideo yn caniatáu i mi gyflawni uchelgeisiau.
Mae’n cysylltu fi gydag unigolion o’r un meddylfryd ac yn caniatáu i mi roi bywyd i’m dawn unigryw a chael fy ngweld fel ased i eraill.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r gwaith yma?
Yn aml mae iechyd meddwl yn cael ei gynrychioli mewn sawl ffurf. Mae’r pwnc yn eithaf eang yn ei natur gan fod yna sawl ystyr ac emosiwn yn bodoli. Gan ystyried hyn, penderfynais gynrychioli fy hun fel cyferbyniad o’r hyn bydda dy gritig mewnol yn weld fel fersiwn gwell ohonot ti, ble rwyt ti’n teimlo fel dy fod di’n byw yng nghysgod y fath endid.
Mae’r gwaith yn cynnwys delwedd gêm-yn-cyfarfod-realiti gydag elfennau ffantasi sydd yn cynrychioli’r ffordd mae gemau yn gallu tynnu’r gorau allan o berson, yn fy mhrofiad i o leiaf. Rwy’n teimlo fel bod y darn yma yn cyfleu neges o wynebu pethau a dysgu sut i dderbyn bod yn gyffyrddus ynot ti dy hun!
Mae’r gwaith celf yn cael ei wneud yn ddigidol, a dyma yw fy hoff ffordd o weithio, ond roedd yn teimlo’n berthnasol hefyd i’r pwnc gemau fideo ac iechyd meddwl. Mae’n her i mi felly gobeithio gallaf ddatblygu fy ngallu gyda’r cyfrwng.
Rwy’n gweithio o fewn y gymuned chwarae gemau a byddwn yn ystyried gemau fideo fel rhan fawr o’m mywyd. Yn ddiweddar cefais y cyfle i siarad â rhywun proffesiynol rwyf wedi gweld yn cystadlu o fewn y byd gemau fideo ar y lefelau uchaf. Dywedodd bod cystadlu yn y gemau, bod yn rhan o’r gymuned, a phopeth yn y canol wedi helpu iddo ddod yn berson gwell, yn enwedig gan ei fod yn fodel rôl i eraill. Roedd hyn yn rhywbeth roedd gen i barch mawr tuag ato ac roeddwn yn awyddus i adlewyrchu hyn yn y darn.
Pa neges fyddet ti’n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?
Mae iechyd meddwl yn bwnc anodd ac eang. Nid yw’n beth negyddol o reidrwydd, er bod y sgwrs sydd o’i gwmpas yn dueddol o fod yn negyddol. Mae’n fater o falans, ac mae yna bethau gallet ti ei wneud i gadw’r balans fydd yn syndod i ti o bosib, fel sicrhau dy fod di’n bwyta’n iach neu’n cael digon o gwsg!
Rwy’n eiriolwr mawr dros siarad gydag eraill, ta waeth pwy yw’r person, i dynnu peth o’r pwysau i ffwrdd a chael persbectif arall am y pethau sydd yn achosi trafferth i ti. Wrth wneud hyn, byddi di’n dysgu nad wyt ti byth ar ben dy hun gyda dy frwydron!
Gwybodaeth Berthnasol
I ddarganfod mwy am yr ymgyrch Paid Byth ag Ildio ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia YMA.
Wyt ti’n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.
Os wyt ti’n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio’r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti’n rhannu!